Rheilffyrdd
Bydd y Metro yn gwella’r rhwydwaith rheilffyrdd a’r gwasanaethau presennol drwy gynyddu amlder y gwasanaethau yn ôl ac ymlaen o’r prif wasanaethau a gorsafoedd lleol.
Rydym yn datblygu amrywiaeth o orsafoedd a gwasanaethau rheilffyrdd newydd i alluogi mwy o fynediad ar draws y rhwydwaith. Rydym yn disgwyl dod â chysylltiadau rheilffordd i gymunedau heb fynediad rheilffordd ar hyn o bryd; gan agor cysylltiadau cynaliadwy newydd i gyflogaeth a gwasanaethau allweddol ar draws y rhanbarth.
Bws
Mae gan fysiau gyfle llawer gwell i gyrraedd ein cymunedau ledled Cymru ac felly bydd yn faes a fydd yn cael ei wella’n sylweddol dros y blynyddoedd nesaf.
Byddwn yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol i wella ansawdd y cerbydau a ddefnyddir er mwyn rhoi profiad mwy pleserus i gwsmeriaid a gwella ansawdd yr aer.
Byddwn hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Leol i ddiwygio prif lwybrau’r bysiau er mwyn sicrhau amseroedd teithio cyflymach a mwy dibynadwy, sy’n cysylltu â gwasanaethau rheilffyrdd a theithio llesol. Rydym yn disgwyl canolbwyntio’r ymdrechion cynnar yn ardaloedd Bae Abertawe, Caerfyrddin a Dyfrffordd y Ddau Gleddau, ond bydd y gwelliannau’n ymestyn i ardaloedd ehangach dros y blynyddoedd nesaf.
Teithio llesol
Byddwn yn adeiladu ar y gwaith sylweddol a gychwynnwyd gan Awdurdodau Lleol dros y blynyddoedd diwethaf i ddarparu gwell cysylltiadau ar gyfer cerdded a beicio yn ôl ac ymlaen o’n prif ganolfannau trafnidiaeth ar draws y rhanbarth.
Drwy ddarparu cyfleusterau a llwybrau cerdded a beicio mwy diogel a deniadol, byddwn yn cefnogi cymunedau i wneud teithio llesol yn ffordd haws a mwy deniadol o symud o gwmpas ein trefi, ein dinasoedd a’n pentrefi. Bydd ein gwaith cynnar yn canolbwyntio ar wella ein gorsafoedd rheilffyrdd i sicrhau bod siwrneiau cerdded a beicio yn gallu cysylltu pobl â gorsafoedd trenau yn effeithiol.