Fframwaith Monitro Teithio Llesol
Bydd y Fframwaith Monitro Teithio Llesol yn sefydlu llinell sylfaen i olrhain a monitro cynnydd wrth gyflawni uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer teithio llesol. Datblygwyd y fframwaith gan ddefnyddio fformat a dull tebyg i'r un a ddefnyddir ar gyfer Fframwaith Monitro Strategaeth Trafnidiaeth Cymru (WTS).
Mae TrC wedi ymgysylltu a chydweithio â swyddogion Llywodraeth Cymru, Bwrdd Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a swyddogion Awdurdodau Lleol i ddatblygu set gadarn o fesurau.
Mae'r fframwaith yn cynnwys 17 o Fesurau a'r bwriad yw eu bod oll yn cyd-fynd â'r 3 Blaenoriaeth a nodir yn y WTS. Cyhoeddwyd 15 Mesur i ddechrau, gyda'r 2 (M8 a'r M16) sy'n weddill i fod i gael eu cyhoeddi yn ddiweddarach yn y flwyddyn unwaith y bydd y data ar gael. Arweiniodd adolygiad o bolisi a chynlluniau allweddol sy'n ymwneud â theithio llesol yng Nghymru at ddatblygu 9 amcan allweddol ar gyfer Fframwaith Monitro Teithio Llesol. Mae'r fframwaith yn tynnu sylw at ba fesurau fydd yn dangos cynnydd tuag at bob blaenoriaeth ac amcan. Mae'r data ar gyfer pob mesur yn rhoi darlun o'r sefyllfa bresennol. Caiff ei ddiweddaru pan ddaw data newydd i law.
Mae Adroddiad Technegol, sy'n cynnwys disgrifiad llawn o'r dull amcangyfrifo a ddefnyddir ar gyfer pob un o'r mesurau gan gynnwys eu diffiniad technegol a gwybodaeth am eu ffynonellau data a'u hamlder, wedi'i gyhoeddi ochr yn ochr â'r fframwaith.
Adroddiad Technegol y Fframwaith Monitro Teithio Llesol
Os oes gennych ymholiad ynghylch ffynonellau data neu fethodolegau amcangyfrifo, e-bostiwch ATMonitoring@tfw.wales.