Mae’r rhain yn ddangosfyrddau hanesyddol ac wedi’u gadael er mwyn etifeddiaeth a thryloywder.
I gael y dangosfyrddau diweddaraf ewch i dudalen we Mesurau monitro.
Mesurau allweddol
- M1 Canran y teithiau yn ôl cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus
- M2 Canran y cerbydau allyriadau isel iawn neu dim allyriadau
- M3 Cyfanswm cilomedrau cerbyd a deithiwyd
- M4 Pellter cyfartalog a deithiwyd fesul person
- M5 Canran y gweithlu sy’n gweithio o bell yn rheolaidd
- M6 Allyriadau nwyon tŷ gwydr o’r sector trafnidiaeth
Mesurau atodol
- S1 Amser teithio cyfartalog i wasanaethau addysg, iechyd a hamdden
- S2 Canran y bobl sy’n fodlon ar eu gallu i gael gafael ar wasanaethau yn eu hardal leol
- S3 Canran y bobl o fewn pellter cerdded i ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy
- S4 Canran y bobl sy’n cerdded neu’n beicio o leiaf unwaith yr wythnos fel ffordd o deithio
- S5 Canran y teithiau i orsaf drenau drwy gerdded, beicio neu ar fws
- S6 Canran y teithiau i atyniadau i ymwelwyr drwy ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy
- S7 Canran y rhwydwaith rheilffyrdd sydd wedi’i drydaneiddio
- S8 Canran y llwythi a gafodd eu cludo ar y tir gan drenau
- S9 Canran y gwasanaethau bws a thrên ar amser
- S10 Nifer y mannau gwefru cerbydau trydan sydd ar gael i’r cyhoedd
- S11 Canran y bobl a oedd yn fodlon ar eu taith
- S12 Canran y bobl sy’n fodlon ar eu gallu i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn annibynnol
- S13 Canran y gorsafoedd trefnau heb risiau
- S14 Canran y bysiau a’r trenau sydd â gwybodaeth glyweledol
- S15 Canran y siaradwyr Cymraeg sy’n defnyddio gwasanaethau Cymraeg yn y sector trafnidiaeth
- S16 Oedi cyfartalog fesul cilomedr a deithiwyd
- S17 Cost gyfartalog fesul cilomedr a deithiwyd drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
- S18 Canran y bobl sy’n teimlo na allant fforddio teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus
- S19 Pobl a laddwyd neu a anafwyd ar y rhwydwaith trafnidiaeth
- S20 Canran y bobl sy’n teimlo bod croeso iddynt a’u bod yn ddiogel wrth deithio
- S21 Canran y seilwaith trafnidiaeth mewn cyflwr da
- S22 Canran y seilwaith trafnidiaeth sydd mewn perygl o lifogydd
- S23 Lefel y llygryddion aer o’r sector trafnidiaeth
- S24 Canran y bobl sy’n cael eu poeni’n rheolaidd gan sŵn y tu allan i’r cartref a achosir gan drafnidiaeth
- S25 Hectarau o gynefin ar yr ystâd trafnidiaeth sy’n cael eu cynnal neu eu gwella er lles bioamrywiaeth
- S26 Canran y gwastraff a gynhyrchir gan y sector trafnidiaeth sy’n cael ei ailddefnyddio neu ei ailgylchu
- S27 Canran yr asedau hanesyddol dynodedig ar yr ystad drafnidiaeth sydd mewn cyflwr sefydlog neu sy’n gwella