Manceinion i Henffordd gyda golygfeydd godidog

Eisteddwch yn ôl ac ymlaciwch wrth i chi deithio drwy rai o ardaloedd cefn gwlad mwyaf gogoneddus Prydain Fawr. Mae bryniau panoramig a choedwigoedd trwchus i’w gweld o boptu’r rheilffordd wrth i chi deithio drwy dirweddau gogoneddus y Gororau. Beth am ymlacio’n gyfforddus wrth i chi fynd heibio? Cysylltwch â’n Wi-Fi am ddim  a gwrando ar eich hoff ddewis o gerddoriaeth wrth fwynhau’r daith.

 

Faint o amser mae’r trên o Fanceinion i Henffordd yn ei gymryd?

Mae trenau o Fanceinion a Henffordd yn cymryd rhwng 2 a 2 awr a hanner fel arfer. 
 

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Pam teithio o Fanceinion i Henffordd?

Does dim gwadu atyniad a harddwch Henffordd, sy’n amlwg o’r eiliad rydych chi’n gadael yr orsaf. Mae adeiladau hanner pren a strydoedd coblog hen ffasiwn yn amgylchynu’r prif sgwâr. Yma, mae’r gwrthgyferbyniad rhwng y crefftwaith canoloesol a’r steil siop goffi gyfoes yn fwyaf amlwg. Mae Henffordd wedi ei lleoli ar y ffin â Chymru, ac mae’n dref sy’n llawn diwylliant. Yn wreiddiol, fe’i hystyriwyd yn dref Gymreig, gyda’r Brenin Richard I yn datgan hynny yn y 12fed ganrif.

Mae Henffordd yn cynnig amrywiaeth eang o siopau enwau mawr, sy’n berffaith ar gyfer pobl sy’n hoffi siopa, ac mae nifer o siopau labeli dylunwyr yno hefyd. Os ydych chi’n chwilio am rywbeth mwy anarferol, ewch i’r siopau bwtîc annibynnol lle byddwch chi’n dod o hyd i drysorau sy’n cael eu cynhyrchu’n lleol. Gallwch brynu gwaith gwau trwchus hyfryd, crochenwaith stiwdio a gemwaith arian wedi’i wneud â llaw, neu gacennau a chyffug blasus sy’n berffaith ar gyfer y rhai â dant melys. Beth bynnag rydych chi’n chwilio amdano, mae ar gael yma.

Mae’r eglwys gadeiriol yn gwylio dros sgwâr y dref ac mae wedi gwneud hynny ers yr 11eg ganrif. Mae’n gartref i drysor byd-enwog sy’n denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd. Mae’r Mappa Mundi yn fap o’r byd fel ag yr oedd yn y 14ed ganrif, a dyma’r map hynaf o’r byd sydd wedi goroesi. Cafodd y llawysgrif hynafol hon ei chreu gan yr ysgolheigion crefyddol mwyaf gwybodus, ac mae bellach ar Gofrestr Cof y Byd UNESCO. Mae’r map wedi ei addurno ag angenfilod a chreaduriaid môr brawychus y credwyd eu bod yn bodoli yn yr oes honno. Trysor arall y tu mewn i’r eglwys gadeiriol yw’r llyfrgell gadwynog - un o’r llyfrgelloedd mwyaf o’i math sydd ar ôl erbyn heddiw. Bydd y rheini ohonoch sy’n mwynhau dilyn hanes Podrick yn Game of Thrones yn adnabod y llyfrgell enwog. Roedd y llyfrau’n cael eu cadw mewn cadwynau er mwyn eu diogelu.

 

Llwythwch ein ap i lawr i weld ein cynigion arbed arian diweddaraf fel gostyngiadau i grwpiau. Yna dechreuwch gynllunio eich ymweliad nesaf â’r ddinas hanesyddol hardd hon.