Boed yn ddiwrnod allan i’r teulu, yn anrheg arbennig i chi eich hun neu’n daith fusnes, mae’n hawdd mynd o’r Fenni i Amwythig ar y trên.

Eisteddwch yn ôl a gadewch i ni wneud y gwaith i chi. Rydym ni’n darparu Wi-Fi am ddim ar y rhan fwyaf o’n trenau, felly beth am fwynhau’r ffilmiau diweddaraf, neu ffrydio eich hoff ganeuon?

 

Faint o amser mae’r trên o’r Fenni i Amwythig yn ei gymryd?

Mae trenau o’r Fenni i Amwythig fel arfer yn cymryd llai nag awr a hanner ac maen nhw’n rhedeg yn rheolaidd drwy gydol y dydd. Mae’n daith diwrnod ddelfrydol ar gyfer gwaith neu hwyl.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Pam teithio o’r Fenni i Amwythig ar y trên?

Mae gan Amwythig rywbeth hen a newydd sy’n gweddu i ddiddordebau pawb. Mae’r dref farchnad hyfryd yn cynnig cyfle perffaith i grwydro ac ymgolli mewn strydoedd hardd gyda siopau annibynnol.

Mwynhewch yr awyr agored neu, yn ystod y misoedd oerach, ymochelwch yn un o siopau coffi niferus Amwythig. Yn lle perffaith i gyplau neu deuluoedd, ewch i Amwythig o’r Fenni ar gyfer y diwrnod allan delfrydol.

Teithiwch yn ddidrafferth ar drên o’r Fenni i Amwythig gyda ni.  Llwythwch ein ap i lawr i brynnu tocynnau wrth deithio, i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am deithio a gweld ein gostyngiadau diweddaraf.