Mae’n hawdd cael y trên o Gaer i Amwythig gyda ni. Boed ar gyfer gwaith neu bleser, teithiwch yn ddi-drafferth ar y llwybr poblogaidd hwn.

Faint o amser mae’r trên o Gaer i Amwythig yn ei gymryd?

Mae ein trenau o Gaer i Amwythig yn mynd â chi o orsaf i orsaf mewn llai nag awr. Gyda theithiau drwy gydol y dydd, yn dechrau tua 05.30 tan 22.30, byddwch chi’n cyrraedd yn teimlo’n braf. Teithiwch yn y Dosbarth Cyntaf i gael y profiad mwyaf cyfforddus o deithio.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Pam teithio o Gaer i Amwythig ar y trên?

Mae Amwythig, tref sir brysur ardal syfrdanol Swydd Amwythig, yn adnabyddus am ei phensaernïaeth hyfryd a'i swyn hen ffasiwn gan ei gwneud yn lleoliad delfrydol ar gyfer taith undydd. Mae adeiladau pren du a gwyn sydd mewn cyflwr gogoneddus ar hyd ymylon prif sgwâr y farchnad, ac mae strydoedd bach tywyll yn eich arwain ar ddawns hudol, gan ddirwyn i ben lle gwnaethoch chi ddechrau.

Nid yw pwysigrwydd therapi siopa wedi cael ei anghofio yn yr hen fyd hwn. Mae holl enwau mawr y stryd fawr ar gael yma, ochr yn ochr â manwerthwyr annibynnol a siopau bwtîc bohemaidd sy’n llawn anrhegion a nwyddau wedi’u gwneud â llaw. Mae digon o siopau coffi lle gallwch chi orffwys a chasglu eich meddyliau, cyn mynd i grwydro. Os yw’n well gennych chi brofiad bwyta cain, mae’r danteithion gastronomig yn flasus ac yn gosmopolitan.

Mae’r trên o Gaer i Amwythig yn ffordd ddidrafferth o deithio. Llwythwch ein ap i lawr i archebu tocynnau trên yn hawdd wrth deithio, i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am deithio a gweld ein gostyngiadau diweddaraf.