Datganiad i'r Wasg Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian

Submitted by Content Publisher on

Trafnidiaeth Cymru yn cychwyn ar genhadaeth amgylcheddol gydag ymddiriedolaeth leol.

Mae perllan a choetir yn cael eu creu ger caffi cymunedol fel rhan o ail brosiect gan Trafnidiaeth Cymru (TrC) ac Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian (CVT).

Mae CVT wedi gweithio mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau i sicrhau newid tymor hir ym maes iechyd a llesiant, cymunedau actif, addysg awyr agored a’r amgylchedd.

Fel rhan o’r prosiect coetiroedd hwn, byddwn yn creu coetir a pherllan ger safle presennol yr Ymddiriedolaeth a fydd yn cynnwys llwybrau a meinciau hygyrch i grwpiau cymunedol eu mwynhau. Defnyddir y safle at ddibenion dysgu addysgol a bydd yn canolbwyntio ar blannu planhigion synhwyraidd i gefnogi gwaith CVT gydag elusennau fel Sightlife.

Dywedodd Gavin Mcauley, Cydlynydd Datblygu Cymunedol yn CVT, “Mae’r Ymddiriedolaeth wedi creu partneriaeth gref gyda Trafnidiaeth Cymru ac mae’n gwerthfawrogi’r gefnogaeth maen nhw wedi’i rhoi i’n helusen a’n cymuned. 

Rydyn ni eisoes wedi creu gofod awyr agored anhygoel sy’n helpu i ddarparu adnodd sydd wir ei angen i hyrwyddo bwyta’n gynaliadwy ac yn iachach, llesiant ein gwirfoddolwyr, ein staff a’n cyfranogwyr, a gwella byd natur a chefnogi bioamrywiaeth.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at bennod nesaf ein partneriaeth â TrC wrth i ni greu coetir, gyda choed ffrwythau hardd, man eistedd a llwybrau hygyrch. Defnyddir y gofod i wella iechyd meddyliol, emosiynol a chorfforol y cymunedau gan eu haddysgu a’u hysbysu am faterion amgylcheddol.”

Dywedodd Leyton Powell, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynaliadwyedd TrC: “Bydd y prosiect Coed  Cymunedol yn helpu i wneud coetiroedd yn fwy hygyrch a gwydn, gan gefnogi iechyd a llesiant cymunedau a darparu ardaloedd ar gyfer rhagor o gysylltiadau a bioamrywiaeth bywyd gwyllt. Mae prosiectau fel hyn yn bwysig i ni yn TrC, mae creu rhwydwaith mwy cysylltiedig yn golygu mwy na gwell opsiynau trafnidiaeth. Drwy weithio’n agos gyda’n cymunedau, gallwn sicrhau ein bod yn adeiladu rhwydwaith y mae ar Gymru ei angen, yn ei haeddu ac sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Mae TrC ac 11 o bartneriaid cymunedol ar draws Cymru wedi cael £100,000 gan Gynllun Coed Cymunedol Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd y prosiectau a ariennir gan y cynllun grant hwn yn helpu i lywio syniadau Llywodraeth Cymru ar ddatblygiad hirdymor y Goedwig Genedlaethol yng Nghymru.

Mae’r prosiect naw mis yn gydweithrediad gyda sefydliadau ar hyd a lled Cymru, sy’n cynnwys cynghorau lleol, mentrau cymdeithasol ac elusennau coetir a chymunedol.  Gyda’n gilydd, byddwn yn creu safleoedd coetir newydd ac yn gwella coetiroedd sydd eisoes yn bodoli mewn naw ardal ar hyd a lled Cymru. 

Mae’r prosiect yn rhan o raglen ehangach TrC, Coed Cymunedol, sy’n cael ei hariannu gan y cynllun Coed Cymunedol. Mae’n cael ei ddarparu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru