Ynglŷn â Chanolfan Cymru

Cymuned gynhwysol a chydweithredol i bob gweithiwr proffesiynol ym maes y diwydiant trafnidiaeth yng Nghymru, sy’n ceisio gwella amrywiaeth a chynhwysiant yn y diwydiant.

Diolch i’n nifer gynyddol o aelodau, ein gwirfoddolwyr gwych a nawdd hael gan Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, cafodd Canolfan Menywod ym maes Trafnidiaeth Cymru ei lansio yn 2022. 

Er mwyn pennu ein nodau a’n hamcanion ar gyfer y ganolfan, rydym wedi uno â Chwarae Teg ac wedi lansio ymchwil er mwyn deall gwaith a phrofiadau menywod yn y sector trafnidiaeth yng Nghymru ac adnabod y rhwystrau y gallwn weithio i’w goresgyn.

Drwy roi sylw i straeon llwyddiant ac arfer gorau, rydym am ysbrydoli menywod ar draws y sector ac annog cydweithredu rhwng sefydliadau ac unigolion. Bydd ein digwyddiadau digidol ac wyneb yn wyneb, y cyfleoedd a gynigir gennym i rwydweithio a’n gweithdai yn gam cyntaf tuag at sefydlu cymuned lle gall gweithlu Cymru ym maes trafnidiaeth ffynnu.

 

Menywod ym maes Trafnidiaeth Crynodeb Gweithredol | Agor ar ffurf Dogfen

Adroddiad Menywod ym maes Trafnidiaeth | Agor ar ffurf Dogfen

 

Cyfryngau Cymdeithasol

Dilynwch ni ac ymunwch â’r gymuned:

WiT Wales LinkedIn icon

LinkedIn (Grŵp)

LinkedIn (Tudalen)

WiT Wales X icon
Twitter

 

Digwyddiadau