Mae’r Is-ddeddfau Rheilffyrdd yn helpu i’ch cadw’n ddiogel ar y rheilffordd.

Maent yn ymwneud â threnau, rheilffyrdd a gorsafoedd ledled y wlad. Rhaid i chi gadw at reolau’r Is-ddeddfau wrth ddefnyddio’r rheilffyrdd.

Gallwch chi lwytho copi i lawr o wefan yr Adran Drafnidiaeth a chael mwy o wybodaeth yn yr adran Rheilffyrdd ar wefan Cymuned yr Heddlu.

 

Ymddygiad

Rydym am i chi gael taith ddiogel a chyfforddus. Mae’r Is-ddeddfau’n eich amddiffyn yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol a pheryglus. Maent hefyd yn cynnwys cyfyngiadau ar ysmygu, cerddoriaeth uchel ac eitemau y cewch ddod gyda chi ar y rheilffordd.  

 

Cyfarpar a diogelwch

Mae’r Is-ddeddfau’n glir ynglŷn â diogelwch. Mae eich diogelwch chi – a diogelwch pobl eraill sy’n defnyddio’r rheilffyrdd ac yn gweithio arnynt – yn bwysig iawn. Mae hyn yn cynnwys amddiffyn safleoedd a chyfarpar.  

 

Rheoli safleoedd

Am resymau diogelwch, rydym yn cyfyngu ar fynediad at rai rhannau o'r rheilffordd, fel traciau ac argloddiau. Mae ardaloedd eraill wedi’u cyfyngu i ddiben penodol. Er enghraifft ni chewch reidio beic ar blatfform gorsaf.  

 

Teithio a phrisiau

Mae gennym amrywiaeth o docynnau ar gael. Defnyddiwch ein cynllunydd taith i ddod o hyd i’r pris gorau ar gyfer eich taith.