Mae Cymraeg yn perthyn i ni gyd

Mae cenhadaeth Trafnidiaeth Cymru yn ymwneud â gyrru yn ei blaen gweledigaeth Llywodraeth Cymru o rwydwaith trafnidiaeth o ansawdd uchel, diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch y mae pobl Cymru yn falch ohono.  

Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar wella cysylltedd trwy gynllunio, comisiynu a rheoli rhwydweithiau trafnidiaeth effeithlon a thrwy ddefnyddio'r sgiliau gorau ar draws diwydiant, llywodraeth a chymdeithas.  Gyda'n gilydd, rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth sy'n addas ar gyfer y dyfodol, un sy'n cyfrannu at gynaliadwyedd hirdymor Cymru a'r cymunedau hynny sy'n gysylltiedig â ni, i helpu i gyflawni saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gwelwn y Gymraeg fel rhan annatod o'r weledigaeth hon

  • Yr ydym yn falch o fod yn weithredwr ac yn sefydliad dwyieithog yng Nghymru a'r Gororau.
  • Croesawn y Gymraeg fel iaith o ddewis i lawer ac fel rhan o'n diwylliant pob dydd.
  • Rydym yn croesawu adborth am ein gwasanaethau a byddwn yn hapus i drafod awgrymiadau ar sut y gallem wella yr hyn rydym yn ei gynnig i'n cwsmeriaid.

 

Beth sy'n digwydd?

  • Galluogi'r Gweithlu - byddwn yn darparu cyfle a chefnogaeth i bob cydweithiwr i wireddu eu huchelgeisiau o ran y Gymraeg, yn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg o fewn ein sefydliad ac yn creu amodau ffafriol ar gyfer dwyieithrwydd.
  • Gwella profiad y cwsmer: Ein nod yw gwella ein cynnig iaith o ran profiad y cwsmer.  Mae profiad y cwsmer yn elfen sylfaenol o wasanaeth TrC ac mae cyflawni'r ansawdd ieithyddol uchaf posibl yn rhan annatod o'n llwyddiant.  Bydd y profiad a gynigiwn i'n cwsmeriaid yn ddilys ac yn ddeniadol.
  • Cynyddu isadeiledd dwyieithog: Sicrhau seilwaith cwbl ddwyieithog, megis cyhoeddiadau gweledol a chlywedol, systemau y mae cwsmeriaid yn eu gweld, cyfarwyddiadau ac arwyddion dwyieithog.
  • Cynyddu cyfathrebu dwyieithog: Mae sicrhau cyfathrebu cwbl ddwyieithog nad yw'n seiliedig bobl sy’n gweithio i'r busnes, fel deunydd ysgrifenedig a chyfathrebu electronig, yn unol â Safonau'r Gymraeg.
  • Cynnydd cyfathrebu llafar ein weithwyr, megis cyhoeddiadau gorsafoedd a gwasanaethau swyddfa docynnau, gan ddefnyddio Cymraeg achlysurol.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o wasanaethau cwsmeriaid Cymraeg TrC.
  • Cynnydd mewn dewis iaith Cymraeg fel dewis iaith ar offer cyfathrebu, megis tanysgrifiadau yn y post, toglau iaith.
  • Hyrwyddo cysyniad y ‘cynnig rhagweithiol‘ yn hytrach nag ymagwedd adweithiol tuag at wasanaethau Cymraeg - fe wnawn geisio yn barhaus i wella ein safonau cyflawni gwasanaethau a sicrhau ein bod yn cydymffurfio ag o leiaf lleiafswm y gwaelodlin deddfwriaethol a datblygu o hynny.
  • Adeiladu cysylltiadau cryfach - Ein huchelgais yw cryfhau ein cysylltiadau â'n rhwydweithiau yng Nghymru a thu hwnt.  Rydym am allu meithrin ein perthnasoedd i gael dylanwad cadarnhaol hirhoedlog yn ein cymunedau. 
  • Arwain y gymuned drwy esiampl - Ymglymiad allweddol yn natblygiad Safonau'r Gymraeg yn y dyfodol (sector - benodol).
  • Ysgogi ymgysylltiad cymunedol - Cynyddu pwyntiau cyffwrdd gweithredol gyda chymunedau, grwpiau a sefydliadau Cymraeg.
  • Buddsoddiad cytûn yn ein cymunedau Cymraeg, megis noddi digwyddiadau diwylliannol arwyddocaol, defnyddio'r rhain fel cyfleoedd i ymgysylltu â'r rhai sy'n siarad Cymraeg, recriwtio a hyrwyddo llwyddiant.
  • Sicrhau bod platfformau ymgynghori a chyfleoedd i roi adborth/barn yn cael eu galluogi yn Gymraeg a sicrhau bod gennym y gallu i’w prosesu'n gywir.
  • Y Dreftadaeth Gymreig - Hyrwyddo'r defnydd o'r iaith Gymraeg, diwylliant a'i chyd-destun hanesyddol drwy weithgareddau archwilio.