Ein Pwyllgor Cyfathrebu a Phrofiad Cwsmeriaid
Rôl ein Pwyllgor Cyfathrebu a Phrofiad Cwsmeriaid yw helpu bwrdd TrC i gyflawni ei gyfrifoldebau cyffredinol o ran cyfathrebu a phrofiad cwsmeriaid. Mae hyn yn cynnwys unrhyw faterion sy’n codi o weithgareddau’r cwmni a allai effeithio ar y cyhoedd gan gynnwys teithwyr, gweithwyr a chyflenwyr. Mae’r pwyllgor yn gwneud y canlynol:
- adolygu, monitro a rhoi cyfarwyddyd mewn cysylltiad â phynciau sy’n ymwneud â chwsmeriaid, a hynny i gyflawni pwrpas TrC sef Cadw Cymru i Symud yn ddiogel
- sicrhau bod llais y cwsmer yn cael ei flaenoriaethu a’i gadw wrth galon popeth a wnawn
- gweithio i drawsnewid profiad cwsmeriaid
- hwyluso cyfathrebu agored ac onest gyda’r cyhoedd
- goruchwylio arloesi digidol
Aelodau anweithredol
Vinay Parmar