Ein Pwyllgor Prosiectau Mawr
Rôl ein Pwyllgor Prosiectau Mawr yw adolygu a chraffu ar brosiectau mawr a gwneud argymhellion ynghylch y prosiectau mawr hynny. Mae’r pwyllgor yn gwneud y canlynol:
- ystyried goblygiadau ymgymryd â phrosiectau a rhaglenni mawr
- argymell cymeradwyo llyfr gwaith prosiectau mawr a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol
- argymell cymeradwyo trefn flaenoriaethu ar gyfer cyflawni prosiectau mawr
- craffu ar y gwaith o gyflawni prosiectau mawr a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â’r ffordd y mae TrC yn cyflawni amcanion corfforaethol a busnes fel y cytunwyd yn llythyr cylch gwaith Llywodraeth Cymru
- cefnogi bwrdd TrC i wneud argymhellion ar gaffael i gefnogi amcanion TrC
- monitro sut mae TrC yn gweithredu Strategaeth Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru; ac yn
- monitro a chraffu ar waith y swyddfa rheoli portffolio
Aelodau anweithredol
![Vernon Everitt Profile](/sites/default/files/2021-06/VernonEveritt.png)
Vernon Everitt
Cadeirydd
![Alun Bowen Profile](/sites/default/files/2021-06/AlunBowen.png)
Alun Bowen
Dirprwy gadeirydd