Mae ein Hadroddiad Blynyddol yn edrych yn ôl ar ein llwyddiannau yn 2021/22
Mae'r adroddiad yn manylu ar sut rydym yn adfer o effaith y pandemig coronafeirws a chreu rhwydwaith trafnidiaeth ddiogel a chynaliadwy.
Ein nod yw gwneud teithio ar y rheilffyrdd yng Nghymru yn wirioneddol gynaliadwy ac yn addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth integredig sy’n addas ar gyfer y dyfodol, sy’n cyfrannu at gynaliadwyedd hirdymor Cymru a’r cymunedau hynny sydd wedi cysylltu â ni, i helpu i gyflawni saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Ein gweledigaeth yw creu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid drwy rwydwaith trafnidiaeth diogel y gall Cymru ymfalchio ynddo.
Ein pwrpas yw darparu gwasanaethau trafnidiaeth gynaliadwy sy’n cadw Cymru i symud.

Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol llawn ym

Datganiad y Cadeirydd | Scott Waddington
"Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un o heriau a newidiadau i Trafnidiaeth Cymru unwaith eto. Rydyn ni wedi parhau i weithio gyda phartneriaid i ddarparu gwasanaethau drwy’r pandemig mewn ffordd sydd wedi galluogi ein cwsmeriaid i deithio mor ddiogel a dibynadwy â phosibl, gan flaenoriaethu llesiant cwsmeriaid a chydweithwyr.
Rydyn ni hefyd wedi parhau â’n cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth Cymru wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer cynlluniau yn y dyfodol ac wrth barhau â’n rhaglenni adeiladu, gan gynnwys Metro De Cymru."

Datganiad y Prif Weithredwr | James Price
"Ein blaenoriaeth fel Trafnidiaeth Cymru yw sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw’r opsiwn hawsaf, mwyaf deniadol ac arferol i bobl Cymru. Rydyn ni’n creu’r set iawn o wasanaethau a chynnyrch ar gyfer y dyfodol ac yn cynyddu parodrwydd a gallu pobl i’w defnyddio.
Bydd hyn yn ein helpu i gyflawni’r targedau uchelgeisiol y mae Llywodraeth Cymru wedi’u pennu ar gyfer newid moddol ac i roi rhwydwaith trafnidiaeth i bobl Cymru y gallant fod yn falch ohono."
Cipolwg ar 2021/22
Ebrill - Mai
- Y trenau Dosbarth 197 newydd cyntaf yn dod oddi ar y llinell gynhyrchu.
- Lansio ein partneriaeth newydd gyda Stonewall Cymru.

Mehefin - Gorffennaf
- Diwedd cyfnod wrth i’n trenau Pacer olaf adael y gwasanaeth.
- Lansio cynllun peilot gwasanaeth bws newydd T10 TrawsCymru o Fangor i Gorwen.

Awst - Medi
- Cytundeb wedi’i lofnodi gyda Colas Rail UK i brynu Pullman Rail Limited.
- Pum busnes newydd yn cyflwyno eu syniadau busnes fel rhan o Labordy Trafnidiaeth Cymru.

Hydref - Tachwedd
- Cyfarpar llinell uwchben wedi’i osod rhwng Merthyr Tudful a Phontypridd.
- Lansio ein NVQ Lefel 3 newydd mewn gweithrediadau gyrwyr trenau.

Rhagfyr - Ionawr
- Y trenau Dosbarth 231 cyntaf yn cyrraedd Cymru o’r Swistir.
- Gorffen adnewyddu trenau pellter hir Dosbarth 175.

Chwefror - Mawrth
- Gwaith yn dechrau ar osod diffibrilwyr sy’n achub bywydau ar draws ein rhwydwaith.
- Paratoi ar gyfer lansio ‘Y Rhwydwaith Cymdeithasol Go Iawn’, ymgyrch drafnidiaeth gyhoeddus aml-ddull gyntaf Cymru.
