Mae ein Hadroddiad Blynyddol yn edrych yn ôl ar ein llwyddiannau yn 2022/23.

Mae'r adroddiad yn manylu ar sut rydym yn chreu rhwydwaith trafnidiaeth ddiogel a chynaliadwy.

Yn Trafnidiaeth Cymru, rydym eisiau newid y ffordd mae pobl yn teithio. Rydym eisiau i bobl gerdded, beicio, teithio ar olwynion a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na gyrru eu car. Rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru i leihau 10% ar deithiau mewn ceir yng Nghymru erbyn 2030.

Hoffen ddiolch i bobl Cymru a’r gororau am eu hamynedd wrth inni drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus. Wrth i ni wella ein seilwaith i wella gwasanaethau, bydd hyn yn tarfu ar gymunedau ac rydym yn parhau i’w leihau lle bynnag y bo modd. Mae’r ôl-effeithiau tymor byr yn angenrheidiol ar gyfer nodau tymor hir trafnidiaeth gyhoeddus fodern a chynaliadwy.

Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol llawn

Adroddiad blynyddol 2022/23

Scott Waddington | Cadeirydd

"Mae angen i drafnidiaeth gyhoeddus fod o leiaf yr un mor gyfleus â defnyddio car. Er mwyn hwyluso hyn, rydym wedi canoli ein gwasanaethau i gwsmeriaid yng Nghanolfan Ymgysylltu â Chwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru. Rydym yn sefydlu cynlluniau peilot i ddangos amseroedd bysiau byw mewn safleoedd bysiau. Rydym yn buddsoddi mewn canolfannau trafnidiaeth i alluogi pobl i feicio, cerdded a theithio ar olwynion i orsafoedd trenau a bysiau."

James Price

James Price | Prif Swyddog Gweithredol

"Mae mwy o bobl nag erioed yn rhyngweithio â’n llwyfannau digidol. Mae 424,000 o ddefnyddwyr yn ymweld â’n gwefan bob mis ar gyfartaledd, cynnydd o 70% ers y llynedd. Mae gwerthiant tocynnau trên ar ein ap wedi cynyddu 55%. Mae bron pawb yng Nghymru wedi gweld ein hymgyrch Rhwydwaith Cymdeithasol Go Iawn, ymgyrch drafnidiaeth amlddull sy’n annog mwy o bobl i gerdded, beicio, teithio ar olwynion a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Rydym wedi ehangu ein gallu i gynnig cynllunio teithio ar-lein drwy brynu Traveline Cymru."

Heather Clash

Heather Clash | Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Llywodraethu

"Nawr yn fwy nag erioed, mae angen i ni sicrhau bod popeth a wnawn yn darparu gwerth am arian i bobl Cymru. O fewn ein Cynllun Busnes a’n Cyllideb, byddwn yn parhau i herio ein cost net a sicrhau bod ein gwasanaethau mor fforddiadwy â phosibl."

 

Uchafbwyntiau:

Red EV charger icon

Mae bysiau trydan wedi cael eu lansio ar lwybr TrawsCymru T1

Red clock icon

Mae hyd teithiau ar gyfartaledd 14% yn hirach na chyn y pandemig

Red defibrillator icon

210 o ddiffibriliwyr wedi’u gosod ar draws Cymru a’r gororau

Red contact centre icon

Mae 3.3 miliwn darn o wybodaeth am gynllunio teithiau ar draws y wefan a’r ganolfan gyswllt

Red badge icon

Gostyngodd y bylchau cyflog rhwng y rhywiau i 14% ar gyfer TrC Group a 19.2% ar gyfer Rheilffyrdd TrC

Red time icon

Rhoddodd gwirfoddolwyr dros 1,300 o oriau o’u hamser i brosiectau coetiroedd cymunedol