
Mae ein Hadroddiad Blynyddol yn edrych yn ôl ar ein llwyddiannau yn 2023/24.
Mae'r adroddiad yn manylu ar sut rydym yn chreu rhwydwaith trafnidiaeth ddiogel a chynaliadwy.
Er mwyn cynyddu capasiti’r rhwydwaith rheilffyrdd, rydym wedi dechrau defnyddio 46 o’n trenau 197 newydd ac wedi cynyddu nifer y cerbydau ar ein trenau. Mae trenau newydd yn rhedeg bob hanner awr ar Reilffordd Rhymni. Rydym wedi bod yn trydaneiddio Llinellau Craidd y Cymoedd yn raddol ac yn gwella Llinell Bae Caerdydd, gan wireddu’r addewid am Fetro De Cymru.
Yn sgil gwella amserlenni rhwng Wrecsam a Bidston mae mwy o wasanaethau rheilffyrdd nag erioed yn rhedeg bob dydd ar y llinell honno. Mae teithwyr bysiau ar wasanaethau TrawsCymru wedi cynyddu 24% ers y llynedd. Rydym wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i hyrwyddo’r defnydd o deithio llesol ar gyfer teithiau bob dydd. Mae mwy o drigolion lleol a thwristiaid bellach yn cael budd o wasanaethau bysiau gwell ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

James Price | Prif Swyddog Gweithredol
"Rydym wedi bod yn datblygu ac yn cyhoeddi llawer o gynlluniau i wella trafnidiaeth i bobl Cymru a’r gororau dros y pum mlynedd diwethaf. Er bod llawer i’w wneud o hyd, gwelwyd effeithiau cadarnhaol y cynlluniau a’r newidiadau hyn dros y flwyddyn ddiwethaf wrth iddynt gael eu cyflawni ar draws Rhwydwaith TrC."

Scott Waddington | Cadeirydd
"Mae gweld ein prosiectau’n dwyn ffrwyth eleni wedi fy nharo fel arwydd ffisegol o uchelgais TrC. Gwnaethom ailagor rheilffordd Treherbert, gan newid system signalau a oedd yn dyddio’n ôl i oes Fictoria. Mae trenau newydd yn rhedeg ar Reilffordd Rhymni a Chwm Ebwy. Gwnaethom helpu i gyflwyno bysiau trydan yng Ngwynedd. Mae Cymru'n haeddu’r gwelliannau modern a buddiol hyn i drafnidiaeth."

Heather Clash | Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Llywodraethu
"Bydd cynyddu refeniw teithwyr rheilffyrdd yn hanfodol i lwyddiant parhaus TrC. Mae refeniw teithwyr rheilffyrdd wedi adfer yn dda tuag at lefelau cyn pandemig y coronafeirws. Er mwyn darparu gwerth am arian i bwrs y wlad a lliniaru risgiau ariannol, ein her dros y blynyddoedd nesaf yw sicrhau cynnydd yn ein ffrydiau refeniw teithwyr presennol ac archwilio ffynonellau refeniw newydd."
Cipolwg ar y flwyddyn:
![]() |
Sicrhawyd cynnydd o 15%mewn refeniw rheilffyrdd ers y llynedd |
![]() |
Dechreuwyd defnyddio 46 o drenau 197 newydd ym mis Mawrth 2024 |
![]() |
Sicrhawyd gostyngiad mewn amseroedd ymatebi gwynion cwsmeriaid o 15 diwrnod gwaith i 4 diwrnod gwaith ar gyfartaledd |
![]() |
Dosbarthwyd £46 miliwn mewn cyllid teithio llesol |
![]() |
24% mwy o deithwyr ar fysiau TrawsCymru |