Trafnidiaeth Cymru Adroddiad Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau 2024
Dros y tair blynedd diwethaf, rydym wedi gweld gostyngiad yn ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Fodd bynnag, eleni, mae Grŵp TrC wedi gweld cynnydd bach yn y bwlch cyflog canolrifol rhwng y rhywiau-canlyniad sy’n siomedig iawn i ni. I’r gwrthwyneb, roedd Rheilffyrdd TrC wedi gwella drwy leihau’r bwlch cyflog canolrifol 2.1 pwynt canran.