Diogelu Cymru
Y canllawiau presennol gan Lywodraeth Cymru yw aros gartref a gadael cartref dim ond os yw eich taith yn hanfodol.
Dim ond at ddibenion cyfyngedig y dylid defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus sy'n cynnwys:
• mynd i'r gwaith os na allwch weithio gartref.
• mynd i'r ysgol, y coleg neu ar gyfer addysg
• ar gyfer anghenion siopa neu feddygol hanfodol
• darparu gofal hanfodol
• dianc rhag risg o salwch neu anaf, megis i ddioddefwyr neu bobl sydd mewn perygl o gam-drin domestig
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Peidiwch â gadael cartref a theithio o gwbl os oes gennych unrhyw symptomau Coronafeirws.
Gallwch wirio canllawiau Llywodraeth Cymru yma.
Meddyliwch yn ofalus am:
• y teithiau a wnewch
• y bobl rydych chi'n cwrdd â nhw
• teithio i ardaloedd lle mae cyfraddau coronafeirws yn uchel
Os oes angen i chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus o hyd ar gyfer teithiau hanfodol, helpwch ni i gadw'r rhwydwaith mor ddiogel â phosibl drwy ddilyn ein canllawiau Teithio'n Saffach.
Amserlen lai
O ddydd Llun 25 Ionawr 2021, bydd gwasanaethau rheilffyrdd yn rhedeg ar amserlen lai i helpu i gadw gweithwyr allweddol, staff a'r rhai sydd angen gwneud teithiau hanfodol mor ddiogel â phosibl.
Mae gwasanaethau bysiau eisoes yn rhedeg amserlen lai.
Cynlluniwch ymlaen llaw a gwiriwch cyn i chi deithio.
Os ydych yn teithio ar y trên, defnyddiwch ein gwiriwr capasiti
Os ydych yn teithio ar fws, edrychwch ar wefan eich gweithredwr bysiau lleol i gael rhagor o wybodaeth. Gallwch ddod o hyd i restr o'r gweithredwyr lleol yma.
Teithio’n Saffach
|
Arhoswch gartref oni bai fod teithio'n hanfodol a pheidiwch â defnyddio cludiant cyhoeddus os nad ydych yn teimlo'n dda, waeth pa mor ysgafn yw'ch symptomau |
Dylech osgoi cyfnodau prysur os oes rhaid i chi deithio ac osgoi cyffwrdd ag arwynebau, botymau, drysau, eich wyneb a bwyta tra byddwch yn teithio lle bynnag y bo'n bosibl |
|
Dilynwch ein cyngor diweddaraf ar deithio a’n canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol, golchwch eich dwylo’n rheolaidd ac ystyriwch ddefnyddio rhywbeth i guddio’ch wyneb |
|
|
Cadwch yn heini wrth deithio – os yw’ch taith yn fyr, ceisiwch gerdded neu feicio |
Parchwch ein staff a theithwyr eraill pan fyddwch chi’n teithio |
Teithio i wledydd eraill y DU
Os oes angen i chi wneud taith hanfodol rhwng Cymru a rhan arall o'r DU, bydd angen i chi ddilyn y canllawiau ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Ni chaniateir teithio y tu allan i'r DU at ddibenion hamdden. Rhaid i chi gael esgus rhesymol dros deithio dramor.
Y cyngor diweddaraf ar deithio dramor
Mae’n rhaid i chi gael esgus rhesymol dros deithio dramor. I weld pa reolau sy’n berthnasol o ran eithriadau ac ynysu, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Cofiwch daro golwg ar gyngor y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (ar GOV.UK) cyn teithio
Os oes angen i chi deithio a bod gennych chi esgus rhesymol, gallwch chi ddefnyddio map IATA i gael rhagor o wybodaeth am y cyfyngiadau teithio yn eich cyrchfan. Mae’r map wedi’i ddarparu gan y Gymdeithas Trafnidiaeth Awyr Ryngwladol ac mae’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd.
Gorchuddion wyneb
Gallai gorchudd wyneb helpu i reoli’r feirws mewn rhai amgylchiadau penodol, ond mae dal angen i chi gadw pellter corfforol neu olchi eich dwylo’n rheolaidd.
Mae’n rhaid gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau lle mae’n anodd cadw pellter corfforol, fel ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Dewch â gorchudd wyneb gyda chi a'i roi ymlaen cyn:
- mynd i faes parcio gorsaf drenau
- mynd i orsaf
- mynd ar blatfform
- defnyddio ystafell aros
- mynd ar y bws neu’r trên
Does dim angen i blant o dan 11 oed, pobl anabl na phobl sy’n cael anawsterau anadlu wisgo gorchudd wyneb.
Mae rhestr lawn Llywodraeth Cymru o eithriadau ar gael yma. Mae rhagor o wybodaeth am ein nodyn eithrio personol ar gael yma.
Plant ar drafnidiaeth gyhoeddus
Caiff plant deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ond ystyriwch a fydden nhw’n gallu cerdded neu feicio, neu a ddylen nhw fod yng nghwmni oedolyn neu ofalwr cyfrifol.
Cysylltwch â’ch ysgol neu eich cyngor lleol i gael gwybod a yw cludiant i'r ysgol ar gael.
Dylech osgoi dod â phramiau a beiciau a sgwteri plant ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae angen i blant gadw pellter ffisegol ac mae’n bwysig eu bod yn:
- gwisgo gorchudd wyneb oni bai eich bod wedi’ch eithrio
- cadw pellter oddi wrth bobl sydd ddim yn byw gyda nhw lle bynnag bo hynny’n bosibl
- osgoi cyswllt corfforol a threulio cyn lleied o amser â phosibl yn agos i bobl eraill
- wynebu oddi wrth bobl sydd ddim yn byw gyda nhw
- osgoi cyffwrdd arwynebau ar y trên cymaint â phosibl
• osgoi bwyta ar y trên, os oes modd
• golchi eu dwylo’n drwyadl neu’n defnyddio hylif diheintio dwylo cyn ac ar ôl teithio
Os ydych chi’n oedolyn neu’n ofalwr sy’n gyfrifol am blentyn/plant, ceisiwch wneud yn siŵr eu bod yn cadw pellter ffisegol. Mae rhagor o wybodaeth am gadw pellter corfforol ar gael yma.
Fy Ngherdyn Teithio
Mae modd defnyddio Fy Ngherdyn Teithio ar fysiau o hyd. Byddwch yn deithwyr cyfrifol, cynlluniwch ymlaen llaw, gwisgwch orchudd wyneb a dilyn ein cyngor Teithio’n Saffach.
Mae rhagor o wybodaeth am Fy Ngherdyn Teithio ar gael yma.
Cardiau Teithio Rhatach
Mae modd defnyddio eich Cerdyn Teithio Rhatach ar fysiau o hyd. Byddwch yn deithwyr cyfrifol, cynlluniwch ymlaen llaw, gwisgwch orchudd wyneb a dilyn ein cyngor Teithio’n Saffach.
Mae rhagor o wybodaeth am deithio rhatach ar gael yma.
Y diweddaraf am deithiau
Bws
I gael cyngor ac arweiniad neu ddiweddariadau teithio:
- ewch i www.traveline.cymru
- ffoniwch 0800 464 00 00
- e-bostiwch feedback@traveline.cymru
- anfonwch neges at Traveline ar Facebook neu Twitter @TravelineCymru
- llwythwch ap Traveline Cymru i lawr am ddim
Gwnewch eich gwaith cartref Diweddariad Traveline Cymru ar y Coronafeirws cyn teithio rhag ofn bod unrhyw newidiadau munud olaf i wasanaethau.
Gallwch hefyd edrych ar wefan eich gweithredwr bysiau lleol i gael rhagor o wybodaeth. Mae dolen ar gael yn www.traveline.cymru.
Trenau
Am gyngor a chanllawiau:
- cliciwch yma i gael gwybodaeth am drenau
- ffoniwch 0333 3211202
- cysylltwch â’n tîm gwasanaethau i gwsmeriaid
- Llwythwch ein ap i lawr am ddim
- Ffoniwch ni ar 03330 0050 501 os ydych chi’n bwriadu teithio ar y trên a bod angen help arnoch chi i deithio.
Cofiwch edrych ar ein diweddariad coronafeirws.
Cerdded a beicio
Ceisiwch gerdded neu feicio, yn enwedig ar gyfer teithiau byr.
I gael cyngor, arweiniad a help i drefnu’ch taith:
- ewch i www.traveline.cymru
- ffoniwch 0800 464 00 00
- llwythwch ap Traveline Cymru i lawr am ddim ar Google Play neu’r App Store
- defnyddiwch gynllunydd teithiau Google Maps
Mae cynlluniau beicio cyhoeddus, fel NextBike yng Nghaerdydd yng Nghaerdydd, ar gael mewn rhai ardaloedd.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan eich cyngor lleol.
Cludiant cymunedol
I gael cyngor ac arweiniad ar wasanaethau cludiant cymunedol sy’n rhedeg yn eich ardal chi, cysylltwch â’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol (CTA):
- ffoniwch 01745 356 751 (Gogledd Cymru)
- ffoniwch 01792 844 290 (De Cymru)
- e-bostiwch advice@ctauk.org
- ewch i www.ctauk.org neu www.ctauk.org/covid19-guidance
Dolenni defnyddiol
- Byddwch yn deithiwr cyfrifol, cynlluniwch ymlaen llaw a defnyddiwch ein gwiriwr capasiti os ydych chi’n teithio ar drên
- Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin i gael gwybod mwy am yr hyn rydym yn ei wneud i sicrhau bod teithiau hanfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru mor ddiogel â phosibl.
- Gallwch chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ofal iechyd gan y GIG.
- Gallwch chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ofal iechyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma.
Rydyn ni yma i helpu os oes angen help arnoch chi i deithio
Os oes angen cymorth arnoch chi ar gyfer eich taith, bydd staff yn parhau i’ch helpu chi gyrraedd adref yn saff lle bynnag bo hynny’n bosibl. Ffoniwch ni cyn teithio oherwydd bydd hyn yn ein helpu ni i gynllunio a sicrhau nad ydych chi’n aros amdanom ni:
- ffoniwch ni ar 03330 0050 501 os ydych chi’n bwriadu teithio ar y trên a bod angen help arnoch chi i deithio.
- cysylltwch â’ch gweithredwr bysiau ynglŷn â’ch taith os oes angen help arnoch chi i deithio ar fws.
Er y gallai effaith y coronafeirws ar lefelau staff gyfyngu ar ein gallu ni i ddarparu gwasanaeth llawn, rydyn ni wedi ymrwymo i wneud popeth posibl i’ch helpu