An aerial view of Crewe

Pan fydd pobl yn meddwl am Crewe, mae llawer yn meddwl am reilffyrdd

Wyddoch chi bod Crewe yn un o'r lleoliadau mwyaf blaenllaw yn y 19eg ganrif ar gyfer arloesi, peirianneg a dylunio rheilffyrdd? Heddiw, mae Crewe yn fwy na lle sy'n enwog am drenau yn unig - er ei fod yn parhau i fod yn un o'r canolfannau rheilffordd mwyaf yn y DU. Mae yno sîn gerddoriaeth fyw ffyniannus, siopau, bariau, tafarndai a bwytai gydag amrywiaeth o fwydydd.

 

Atyniadau gwerth chweil:

  • Mae'r Farchnad yno yn lle unigryw lle mae amrywiaeth o fwyd, nwyddau ac adloniant. 
  • Yng Nghanolfan Treftadaeth Crewe daw hanes yr ardal yn fyw, gan eich galluogi i ddysgu sut y daeth Crewe yn brifddinas rheilffordd y byd.
  • Mae Parc y Frenhines mewn 44 erw ac mae'n adeilad rhestredig Gradd II - dihangfa berffaith ar gyfer mynd am dro neu bicnic yn y parc. 
  • Beth am fwynhau un o'r sioeau rhagorol yn Edwardian Lyceum Theatre.

Mae Crewe hefyd yn gartref i'r Crewe Makers Market, a gynhelir yn y dref ar y trydydd dydd Sul ym mhob mis. Yma, mae dros 60 o stondinau yn arddangos bwyd a diod lleol arobryn a chelfyddydau a chrefftau, gan gynnwys cynnyrch gan grefftwyr artisan.

 

Teithio i Crewe ar ein gwasanaeth Dosbarth Cyntaf

Mae ein Prif Wasanaeth rhwng Caerdydd a Manceinion yn galw yn Crewe. Beth am dretio eich hun ar eich antur a theithio Dosbarth Cyntaf? Mae ein gwasanaeth bwyta Dosbarth Cyntaf yn cynnwys prydau clasurol, tymhorol wedi'u gweini mewn steil ac amgylchedd gartrefol. 

Mae tocynnau Dosbarth Cyntaf ar gael ar gyfer teithio rhwng Crewe a rhai cyrchfannau. Darganfyddwch beth sy’n bosibl ar gyfer eich taith chi   yma.

Gallwch brynu eich tocyn Dosbarth Cyntaf ar ein ap ac ar ein gwefan, o'ch swyddfa docynnau agosaf neu beiriant tocynnau.