Mae teithio ar y trên o Fanceinion i Crewe yn gyflymach ac yn wyrddach na gyrru - gall hefyd fod yn rhatach. Gyda Wi-Fi a phwyntiau gwefru am ddim, gallwch gadw mewn cysylltiad â phobl, dal i fyny ar waith, neu ymlacio wrth i chi fwynhau'r golygfeydd cefn gwlad prydferth.
-
Wi-Fi am ddim
-
Pwyntiau gwefru
-
Uniongyrchol
Pa mor hir yw'r daith ar y trên o Fanceinion Piccadilly i Crewe?
Mae'n cymryd 30-40 munud, gyda gwasanaethau rheolaidd yn gweithredu o ddechrau'r bore hyd at ddiwedd y nos.
A oes trên uniongyrchol o Fanceinion Piccadilly i Crewe?
Ydy, mae'r rhan fwyaf o drenau ar y llwybr hwn yn uniongyrchol, gan gynnig profiad teithio di-dor a di-straen i gymudwyr a’r rhai sy’n gwneud teithiau diwrnod.
Pam teithio ar y trên?
Mae mynd ar y trên yn ffordd ddi-straen o deithio yn lle gyrru neu hedfan. Mae'r trên yn mynd â chi'n uniongyrchol o ganol dinas Manceinion i ganol Crewe, heb fod angen gwastraffu amser yn ceisio dod o hyd i le parcio a thalu amdano.
Pam ymweld â Crewe?
Mae Crewe yn adnabyddus am ei chysylltiad â'r rheilffordd a’i chyrsiau golff o’r radd flaenaf, ond mae cymaint mwy iddi. Mae cerddwyr brwd yn mwynhau’r ffaith bod y dref hon o fewn tafliad carreg at gyfres o lwybrau cerdded, ac mae Taith Gerdded Gylchol Crewe a Nantwich yn un o'r rhai mwyaf poblogaidd. Yn rychwantu 29 milltir, gallwch ymlwybro drwy gefn gwlad gogoneddus Swydd Gaer a gwerthfawrogi golygfeydd godidog, gan gynnwys Llyn Amwythig, Union Canal Swydd Amwythig a Sandbach Flashes.
Mae Canolfan Dreftadaeth Crewe yn olrhain hanes y rhanbarth, gydag arddangosfeydd yn dangos sut y cafodd y gamlas ei hadeiladu a'r rhan chwaraeodd y rheilffordd yn natblygiad Crewe. Yn briodol iawn, mae gan y Ganolfan Dreftadaeth ei rheilffordd fach ei hun - gallwch yrru trên rhyfeddol o bwerus, rheoli'r blwch signalau a hyd yn oed dod i adnabod y Trên Datblygedig i Deithwyr neu’r ‘Advanced Passenger Train’ cyflym iawn.
Mae Old Moreton Hall yn werth ymweld â hi. Mae'n neuadd drawiadol, wedi’i gwneud o bren du a gwyn sydd ar gam, o ganlyniad i ymsuddiant. Mae'n cael ei disgrifio gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol fel adeilad sydd “wedi’i dynnu o stori tylwyth teg, yn union fel tŷ sinsir". Wedi'i adeiladu ar ddechrau'r 1500au ar gyfer tirfeddianwyr cyfoethog, y Moretons, roedd y swm gormodol o bren a ddefnyddiwyd yn adlewyrchu statws y teulu o fewn y gymuned. Y tu mewn, mae'r neuadd wedi’i hadfer i'w gogoniant wreiddiol, wedi'i llenwi â'r celfi canoloesol a fyddai wedi bod o fewn ei muriau yn yr 16eg ganrif. Mae'r gerddi cyfagos yn hynod o dwt a thaclus, gyda'r Ardd Knot wedi'i thocio’n berffaith, perllan hardd a thwnnel coed ywen bendigedig.
Ar ôl i chi grwydro, daliwch drên TrC yn ôl i Fanceinion a dechreuwch gynllunio eich antur nesaf.
Awgrymiadau gwych ar gyfer prynu eich tocynnau trên o Fanceinion Piccadilly i Crewe
Arbedwch arian a theithiwch mewn ffordd sy'n addas i chi gyda'r opsiynau canlynol:
- Tocynnau Advance: Prynwch docynnau’n gynnar er mwyn manteisio ar ein prisiau rhataf. Dim ond nifer cyfyngedig o’r tocynnau hyn sydd ar gael a gallant werthu'n gyflym.
- Cardiau Rheilffordd: Manteisiwch ar ostyngiadau cardiau rheilffordd i arbed hyd at draean ar eich taith nesaf.
- Tocynnau unrhyw bryd: Mae ein tocynnau mwyaf hyblyg yn caniatáu i chi deithio unrhyw adeg o'r dydd, unrhyw ddiwrnod o'r wythnos.
Pam ddim defnyddio ein gwefan? Mae'n caniatáu ichi weld ein holl gynigion teithio sy'n addas i’r rhai sy’n ceisio arbed arian ac ar gael mewn un lle sy’n hawdd ei gyrchu.
*Tocynnau Advance yw ein prisiau gorau a gellir defnyddio gostyngiadau cerdyn rheilffordd wrth eu prynu. Ni allwn warantu argaeledd tocynnau Advance gan eu bod yn gyfyngedig o ran y niferoedd sydd ar gael a dim ond ar werth hyd at 18:00 cyn y diwrnod y byddwch yn teithio. Byddem yn argymell eich bod yn prynu'n gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi.
-
Cas-gwent Dewch i ddarganfod Visiting Chepstow
-
Caergybi Dewch i ddarganfod Visiting Holyhead
-
Ymweld â Chaerfyrddin Dewch i ddarganfod Visit Carmarthen
-