Mae dal y trên er mwyn gwneud y daith fer o Gaer i Crewe yn eich galluogi i deithio’n gyfforddus, a chyrraedd yn hamddenol ac yn barod ar gyfer y diwrnod.
Cysylltwch â'n Wi-Fi am ddim, darllenwch y newyddion diweddaraf, sgroliwch drwy gyfryngau cymdeithasol neu dewch o hyd i'r atyniadau gorau yn Crewe.
-
Wi-Fi am ddim
-
Pwyntiau gwefru
-
Uniongyrchol
Pa mor hir yw'r daith ar y trên o Gaer i Crewe?
Mae’r gwasanaeth uniongyrchol yn cymryd tua 20-30 munud, gan fynd trwy gefn gwlad hardd Swydd Gaer. Mae'n gysylltiad cyfleus ac effeithlon rhwng dau gyrchfan hanesyddol.
Pam teithio o Gaer i Crewe ar y trên?
Yn dref swynol yng nghanol Swydd Gaer, mae Crewe yn cynnig cyfuniad hyfryd o hanes, diwylliant a harddwch naturiol. Archwiliwch y gwaith rheilffordd hanesyddol, sy'n dyst i dreftadaeth ddiwydiannol Prydain, a chamwch yn ôl mewn amser yng Nghanolfan Treftadaeth hynod ddiddorol Crewe. I’r rhai sy’n mwynhau gweithgareddau awyr agored, mae'r dref yn cynnig digon o gyfleoedd cerdded, beicio a physgota ar hyd y camlesi a’r afonydd hardd.
Celfyddyd a diwylliant Crewe
Fel tref sydd â threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog, mae gan Crewe sîn gelfyddydol fywiog ar gyfer trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae theatr hanesyddol y Lyceum yn ganolbwynt diwylliannol, sy'n cynnal amrywiaeth o berfformiadau, o ddramâu i gyngherddau cerddorol. Mae orielau a mannau celf y dref yn arddangos gwaith artistiaid lleol a rhyngwladol, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer mynegiant a gwerthfawrogiad artistig.
Siopa a marchnadoedd Crewe
Mae Marchnad Crewe yn lle gwych i chwilio am bethau anghyffredin. Mae stondinau sy'n cynnwys nwyddau lleol, cynnyrch crefftus a thrysorau eraill yn denu llawer o siopwyr o bell ac agos. P'un a ydych chi'n chwilio am gardigan glyd wedi'i gwau neu ddarn o emwaith arian wedi'i grefftio â llaw, fe ddewch chi o hyd i bopeth yma. Beth am sbwylio’ch hun a phrynu cyffug cartref blasus i’w fwyta ar y daith adref?
Archwiliwch hanes Crewe
Mae'r Neuadd Little Moreton o'r 16eg ganrif yn ysblennydd, gyda hanner yr adeilad wedi’i orchuddio â phren ac wedi'i hamgylchynu gan ffos amddiffynnol. Mae dyluniad dramatig, du a gwyn yr adeilad yn caniatáu i effeithiau'r ymsuddiant fod yn weladwy, ac mae llinellau'r adeilad a ddylai fod yn syth yn amlwg ar ogwydd. Mae’r adeilad trawiadol hwn, sy’n eiddo i’r National Trust, yn llawn dodrefn gwreiddiol ac mae tywyswyr y teithiau yn gwisgo gwisgoedd o’r cyfnod, sy’n dod â’r hanes yn fyw ac yn llwyddo i gyfleu bywyd yn Lloegr yn ystod oes y Tuduraidd.
Gweithgareddau teuluol Crewe
Mae Canolfan Dreftadaeth Crewe yn olrhain hanes y dref fawr hon drwy'r canrifoedd, gan gynnwys hanes y rheilffordd. Gall plant mawr a bach yrru trên, mynd ar daith ar y trên trac bach, neu archwilio'r trenau sydd yno dros dro a’r rheiny sy’n cael eu cadw yn y ganolfan yn barhaol. Gallwch weld blychau signal, rheolaethau cyffordd a'r goron ar y cyfan - y Trên Teithwyr Datblygedig (Advanced Passenger Train) o 1979 - prototeip a adeiladwyd yn Derby ac a gynlluniwyd i oleddfu er mwyn cyrraedd cyflymderau uwch, sy’n gwneud y safle hwn yn werth ymweld ag ef.
Mae'n enwog ledled y byd am gynhyrchu ceir Rolls-Royce tan 2002, ac erbyn hyn mae’n cynhyrchu ceir Bentley yn ffatri Pyms Lane. Mae teithiau dyddiol yn caniatáu ichi weld y moduron eiconig a’r dechnoleg o'r radd flaenaf gyda’ch llygaid eich hunain.
Beth i'w wneud ar eich taith yn ôl o Crewe
Ymlaciwch ar y trên adref i Gaer, a dechreuwch gynllunio eich diwrnod allan nesaf. Mae ein ap y gellir ei lawrlwytho yn rhoi mynediad i chi i'n cynigion arbennig er mwyn i chi arbed arian, gan gynnwys ein tocynnau Advance neu opsiynau unrhyw bryd.
-
Cas-gwent Dewch i ddarganfod Visiting Chepstow
-
Caergybi Dewch i ddarganfod Visiting Holyhead
-
Ymweld â Chaerfyrddin Dewch i ddarganfod Visit Carmarthen
-