Ydych chi wedi trefnu taith i Gaergybi ac yn chwilio am bethau hwyliog i’w gwneud a’u gweld? Isod, rydyn ni wedi dewis rhai o’r atyniadau y mae’n rhaid eu gweld. Dyma gyfle i ddysgu ble mae Caergybi, dysgu am ei hanes hynafol a gweld pa mor hawdd yw cyrraedd yno ar y trên.
Ble mae Caergybi?
Caergybi yw’r dref fwyaf ar Ynys Môn, neu ar Ynys Gybi. Mae Afon gul Cymyran yn gwahanu Caergybi ac Ynys Môn ei hun. Mae trenau rheolaidd yn gwasanaethu Gorsaf Caergybi ar Arglawdd Stanley.
Mae pobl wedi bod yn byw ar Ynys Gybi ers y cyfnodau cyn-hanesyddol. Mae olion siambrau claddu hynafol a’r crynhoad mwyaf o feini hirion ym Mhrydain i’w gweld ar draws yr ynys. Heddiw, mae porthladd fferi prysur yn cysylltu’r dref â dinasoedd Dulyn a Belfast yn Iwerddon.
Ymweld â Gwarchodfa RSPB Clogwyni Ynys Lawd
Uwchben y clogwyni garw, sy’n edrych tuag at ynys fach Ynys Lawd, mae Llwybr Arfordir Ynys Môn yn rhedeg ar draws clogwyni gwyntog Gwarchodfa RSPB Clogwyni Ynys Lawd. Mae oddeutu 180,000 o bobl yn ymweld â’r fan hon bob blwyddyn. Mae’n gartref i sawl rhywogaeth o blanhigion ac anifeiliaid, gyda chynefin amrywiol, y môr, yr arfordir, y clogwyni a’r rhostir.
Mae Gwarchodfa Ynys Lawd yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o warchod llawer o rywogaethau adar, gyda llawer ohonynt ond yn byw ar Ynys Gybi. Mae tua deg o barau bridio i’w gweld yn bwydo ac yn nythu yn rhostir y warchodfa. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer cadw brain coesgoch. Ynghyd â gwiberod a madfallod, mae’r rhostir hefyd yn gynefin pwysig i’r glesyn serennog, yr ehedyddion duon a’r cathadar llwydion.
Mae’r clogwyni’n gartref i lawer iawn o adar môr. Mae bron i 10,000 o adar môr yn nythu ar y silffoedd, gan gynnwys llursod a gwylogod, adar drycin y graig a gwylanod coesddu. Mae’n well gan y palod y clogwyni sydd heb llawer o laswellt, gan wthio drwy’r pridd rhydd i wneud eu nythod.
Wrth edrych allan ar y môr, mae’n bosibl y byddwch yn ddigon ffodus i weld dolffiniaid a llamidyddion o dan yr huganod sy’n plymio.
Mae’r warchodfa natur yn hafan i’r adar a’r ymwelwyr, ac mae rhwydwaith o lwybrau’n croesi’r warchodfa natur ar gael yma. Hefyd, mae mynediad at Oleudy Ynys Lawd ac mae sawl digwyddiad yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn.
Cerdded i’r gorffennol yn Nhai Crynion Mynydd Twr
Mae Tai Crynion Mynydd Twr, neu’r ‘Cytiau Gwyddelod’, dan ofal Cadw, ac mae mynediad yn rhad ac am ddim. Mae’r Tai Crynion yn dyddio’n ôl i’r Oes Haearn (tua 500 CC), a chredir bod 50 a mwy o dai yno’n wreiddiol. Heddiw, mae tua 20 o’r tai wedi goroesi ar ffurf sylfeini cytiau crwn.
Mae offer fflint mesolithig, siarcol neolithig mewn aelwyd a phentwr o gregyn brennig sydd wedi dyddio’n ôl i 200 CC wedi cael eu cloddio o’r safle. Mae eitemau ar gyfer paratoi bwyd wedi cael eu darganfod hefyd, gan gynnwys breuanau sy’n cael eu defnyddio i wasgu a malu grawn, offer torri a phowlenni bas hyd yn oed.
Mae Tai Crynion Mynydd Twr yn gysylltiad agos â’r gorffennol, ac nid yw’n teimlo’n bell yn ôl ar Ynys Gybi.
Gwneud dysgu’n hwyl yn Amgueddfa Forwrol Caergybi
Mae’r orsaf cychod achub hynaf yng Nghymru (yn dyddio’n ôl i 1858) yn gartref i Amgueddfa Forwrol Caergybi. Mae’r casgliadau’n adrodd stori Ynys Gybi a’i pherthynas â’r môr, ac mae’n ddiddorol ac yn drawiadol iawn. Dysgwch am hanes morwrol gwirioneddol drawiadol, gyda mynediad yn ddim ond £4.50.
Mae arddangosfa ‘Holyhead at War’ wedi’i lleoli mewn lloches rhag bomiau a adeiladwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, sydd erbyn hyn wedi cael eu hailadeiladu. Mae’n cynnwys pethau cofiadwy o’r rhyfel, a gasglwyd gan bobl a oedd yn y rhyfel neu aelodau o’u teulu.
Mae casgliadau eraill yn canolbwyntio ar longddrylliadau a stormydd peryglus a oedd yn atal teithiau achub yn ystod y nos, herfeiddwyr, gwrthryfelwyr a môr-ladron - gan gynnwys , o bosibl, yr enwog Jack Sparrow.
Mae arddangosfeydd rhyngweithiol yn dod â hanes syfrdanol Ynys Môn yn fyw o flaen eich llygaid, ac yn rhoi’r cyfle i chi gael profiad o fywyd ar y moroedd uchel drosoch eich hun.
Cael hwyl ym Mae Trearddur
Bydd oedolion a phlant wrth eu bodd yn crwydro’r traeth tywodlyd enfawr ym Mae Trearddur. Mae’n ffordd berffaith o dreulio diwrnod poeth yn yr haf, gyda thraethau hir, pyllau glan môr a llithrfeydd. Mae caffis a thoiledau hygyrch ar gael yno hefyd. Mae rhannau o’r traeth yn agored i gŵn drwy gydol y flwyddyn, felly nid oes yn rhaid i unrhyw un yn y teulu golli allan.
Parc Gwledig Morglawdd Caergybi
Mae Parc Gwledig Morglawdd Caergybi rywfaint y tu allan i Gaergybi, ac mae’n fan cychwyn gwych ar gyfer teithiau cerdded ar yr arfordir. Gallwch gerdded ar hyd Morglawdd Caergybi, sef y morglawdd hiraf yn y DU. Mae bron yn ddwy filltir o hyd. Mae gan y parc ganolfan ymwelwyr, cyfleusterau parcio a llwybrau troed addas. Mae Llwybr Arfordir Ynys Môn yn rhedeg drwy’r warchodfa, ac mae’n dilyn yr arfordir o amgylch Porth Namarch i Ynys Lawd a’r orsaf signalau niwl.
Parc Gwledig Morglawdd Caergybi
Gobeithio ein bod wedi rhoi rhywfaint o ysbrydoliaeth i chi ar gyfer eich ymweliad nesaf â Chaergybi. Dewch o hyd i amseroedd trenau a phrisiau tocynnau, a phrynwch eich tocyn heddiw.
-
Cas-gwent Dewch i ddarganfod Visiting Chepstow
-
Caergybi Dewch i ddarganfod Visiting Holyhead
-
Ymweld â Chaerfyrddin Dewch i ddarganfod Visit Carmarthen
-