Saif dinas Gymreig Casnewydd i'r dwyrain o Gaerdydd. Fel porth i Gymru, mae Casnewydd yn croesawu ymwelwyr o bedwar ban byd. Gyda dewis eang o dai llety, gwely a brecwast cyfforddus, a gwestai moethus, mae Casnewydd yn lleoliad delfrydol ar gyfer crwydro De Cymru, ond mae hefyd yn cynnig digonedd o atyniadau teuluol ei hun.
1. Gwarchodfa Natur Gwlyptiroedd Casnewydd yr RSPB
Ar gyrion Casnewydd ac yn cynnwys ardal o tua 100km, mae Gwarchodfa Natur Gwlyptiroedd Casnewydd yn gartref i amrywiaeth eang o anifeiliaid, adar a phlanhigion. Mae tua 100,000 o bobl yn ymweld â hi bob blwyddyn, ac mae’n cwmpasu cynefinoedd gwlyptir, aber a gwelyau cyrs. Gyda digon o guddfannau mewn lleoliadau da a’r cyfle i logi ysbienddrych, mae’n cynnig diwrnod allan gwych i’r rhai sy’n gwirioni ar fyd natur.
Lle gwych i wylio murmur dros 50,000 o ddrudwyod, byddwch hefyd yn gweld titwod barfog, crehyrod a gwyachod, a’r telor Cetti prin. Mae elyrch, tylluanod a hebogiaid yr ehedydd yn galw’r warchodfa’n gartref, a dyma’r unig safle magu yng Nghymru ar gyfer y cambig trawiadol.
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys llwybrau natur sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn, teithiau tywys a bwyty sy’n gweini prydau cartref blasus – i’w croesawu ar ôl ychydig oriau’n gwylio’r bywyd gwyllt.
- Lleoliad: Llai na 6 milltir o Orsaf Casnewydd
- Mynediad am Ddim
- Gwefan Gwlyptiroedd Casnewydd
2. Tŷ Tredegar
O bosib yn un o dai Siarl II gorau’r 17eg ganrif ym Mhrydain, mae Tŷ Tredegar, sy’n cael ei warchod gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i’w gael ar gyrion Casnewydd.
Adeiladodd Syr William Morgan a'i wraig y plas yn y 1670au a bu'n gartref i genedlaethau lawer o'r teulu Morgan. Fodd bynnag, mae rhan hynaf y tŷ yn dyddio'n ôl i'r 15fed ganrif a bu’r Brenin Siarl I yn ymwelydd yma. Parhaodd y statws a roddwyd gan Dŷ Tredegar i'r Morganiaid cefnog, ac roeddent yn berchen arno hyd farwolaeth y 6ed Barwn Tredegar di-etifedd yn 1962.
Bellach, mae Tŷ Tredegar yn gartref i amrywiaeth o weithgareddau, oll wedi’u gosod o fewn y tŷ godidog, y gerddi a’r parcdir eang. Yn cynnwys bron i 100 erw, mae’r tiroedd yn gartref i elyrch, gwyachod, moch daear a choedwigoedd anferth Sequoia. Gyda chroeso i gŵn, mae hwn yn ddiwrnod allan gwych i'r teulu cyfan.
- Eiddo a Gerddi trawiadol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Tocynnau o £6.10
- Gwefan Tŷ Tredegar
3. Pont Gludo Casnewydd
Yn croesi’r Afon Wysg, mae Pont Gludo Casnewydd restredig Gradd I yn un o’r ychydig rai sydd wedi goroesi ledled y byd. Wedi'i adeiladu ym 1906, a'i agor yr un flwyddyn gan Godfrey Morgan, Is-iarll 1af Tredegar, mae'n dal i fod yn weithredol heddiw - sy'n glod i'w gynllunydd, y Ffrancwr Ferdinand Arnodin.
Wedi’i hadeiladu i gludo nwyddau diwydiannol ar draws yr afon, tra’n dal i ganiatáu i longau uchel ddefnyddio’r ddyfrffordd, mae’r cynllun yn defnyddio llwyfannau crog, yn debyg i ‘fferi awyr’, sy’n cael eu cludo o un lan i’r afon i’r llall.
Mae’r bont gludo yn atgof poblogaidd iawn o rôl bwysig Casnewydd yng ngorffennol diwydiannol Prydain.
- Lleoliad: Dim ond 2.0 milltir o Orsaf Casnewydd
- Yn dyddio'n ôl i'r 1900au cynnar
- Gwefan Pont Gludo Casnewydd
4. Parc Belle Vue
Roedd y tir yr adeiladwyd Parc Belle Vue arno yn anrheg i bobl Casnewydd gan Godfrey Morgan, Is-iarll 1af Tredegar ym 1891 - ie, yr un dyn ag agorodd y Bont Gludo ac a oedd yn byw yn Nhŷ Tredegar ysblennydd.
Yn nodweddiadol o gynllun Fictoraidd, mae’r parc yn cynnwys pafiliynau, safleoedd band a gerddi cerrig mawr, ac i ddathlu cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1897, crëwyd Cylch Cerrig yr Orsedd. Mae lawnt fowlio boblogaidd, rhaeadrau ac ystafelloedd te hynaws wedi'u hychwanegu ers hynny.
Mae'r parc yn gartref i nifer o enghreifftiau o blanhigion prin, gan gynnwys sawl coeden ginkgo biloba, magnolias Himalaiaidd hardd, a'r goeden gwm seren, sy'n frodor o Ogledd America, ac mae'n lle rhyfeddol o heddychlon i ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd.
- Lleoliad: Dim ond 20 munud ar droed o Orsaf Casnewydd
- Hwyl i'r teulu cyfan
- Gwefan Parc Belle Vue
5. Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion
Mae naid ar fws neu daith gyflym ar y trên yn mynd â chi i ddinas Rufeinig Caerllion, neu Isca Siluram, sy’n cael ei gyfieithu fel “Caer y Lleng”. Fel un yn unig o dair caer llengfilwyr parhaol ym Mhrydain, gallwch archwilio olion y natatio anferth, neu bwll nofio awyr agored, a oedd unwaith yn dal mwy nag 80,000 galwyn o ddŵr. Bydd yr unig farics lleng Rufeinig sy'n dal i'w weld yn Ewrop yn uchafbwynt i'ch ymweliad, ynghyd â'r amffitheatr Rufeinig.
- Safle hanesyddol
- Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion
- Archwiliwch weddillion Rhufeinig hynafol
Ydych chi’n chwilio am le i fynd â’r teulu am dro neu ar eich beiciau ar hyd llwybr hawdd a hardd? Dylai Camlas y Pedwar Loc ar Ddeg fod ar eich rhestr o bethau y mae’n rhaid ymweld â nhw.
Mae gan Gasnewydd ei hun lawer o dirnodau hanesyddol i ymweld â nhw. Mae adeiladau hanesyddol yno, fel Ye Olde Murenger House, tafarn o'r 19eg ganrif gyda ffrynt yn yr arddull Duduraidd.
Castell o'r 14eg ganrif yw Castell Casnewydd a anrheithiwyd ym 1402 ac a adawyd mewn cyflwr gwael yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr. Ers hynny, mae wedi dod yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr sy’n dod i Gasnewydd.
Mae Eglwys Gadeiriol Casnewydd hyd yn oed yn hŷn, gan iddi gael ei sefydlu a'i hadeiladu yn ystod y 5ed ganrif. Goroesodd ymosodiad gan fôr-ladron yn ystod yr 11eg ganrif, hyd yn oed, a chafodd ei difrodi ymhellach yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr. Fel Castell Casnewydd a dinas Casnewydd ei hun, mae wedi bod drwy gyfnodau anodd. Dyma'r math o le y gallwch chi a'ch ffrindiau ymweld ag ef os ydych chi'n chwilio am le sy'n llawn hanes.
-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Gwirio capasiti
-
Cas-gwent Dewch i ddarganfod Visiting Chepstow
-
Caergybi Dewch i ddarganfod Visiting Holyhead
-
Ymweld â Chaerfyrddin Dewch i ddarganfod Visit Carmarthen
-