Mae’r Fenni wedi’i hamgylchynu gan fynyddoedd ac mae’n fan cychwyn gwych i archwilio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae yno hefyd ddigon o atyniadau ac mae’n gyrchfan berffaith ar gyfer gwyliau penwythnos i bob aelod o’r teulu.
1. Dringo Pen-y-fâl
Mae mynydd Pen-y-Fâl, sy’n edrych dros y Fenni, yn wirioneddol ysblennydd. Wedi'i naddu allan o dywodfaen coch llawn haearn, mae'n hafan i fywyd gwyllt. Mae dewis o deithiau cerdded i’r copa, gyda rhai’n anoddach nag eraill. Ar y copa byddwch chi’n cael eich gwobrwyo â’r olygfa fwyaf godidog o Fannau Brycheiniog a De-orllewin Lloegr.
- Dringo’r copa enwog
- Crwydro o amgylch ysblander cefn gwlad
- Gwefan Mynydd Pen-y-fâl
2. Cyfle i flasu gwin yn Sugar Loaf Vineyards
Yn llechu wrth droed Mynydd Pen-y-fâl mae rhai o'r gwinllannoedd mwyaf prydferth y gallech eu dychmygu. Mae Sugar Loaf Vineyards yn cynnig blasu gwin, cyrsiau mewn gwerthfawrogi gwin ac amrywiaeth o brydau blasus yn y bwyty sy'n edrych dros y gwinllannoedd. Mae yna hefyd siop ar y safle sy’n gwerthu canhwyllau crefftus, sebonau, a siocledi Cymreig blasus.
- Blasu gwin
- Llety ym mythynnod gwyliau Sugar Loaf Vineyards
- Gwefan Sugar Loaf Vineyards
3. Dysgu am Gymru yn Amgueddfa’r Fenni
Mae’r castell yn gartref i gasgliad hynod ddiddorol o drysorau y mae Amgueddfa’r Fenni yn gofalu amdanynt. Er i nifer o adeiladau o fewn y castell gael eu dinistrio yn y Rhyfel Cartref yn ystod y 1640au, mae'r adeiladwaith mwy newydd - porthordy hela sy'n eiddo i Ardalydd y Fenni - yn gartref i'r amgueddfa.
Tra bod hanes Cymru ac yn arbennig y Fenni ei hun yn ganolbwynt i gasgliadau'r amgueddfa, mae yna arddangosfeydd o bellach i ffwrdd hefyd. Gyda phwyslais ar y ffordd wledig o fyw, mae yna hefyd ddarganfyddiadau archeolegol sy'n dyddio'n ôl i'r cyfnod Mesolithig, gan gynnwys arfwisgoedd Rhufeinig, arddangosfeydd astudiaethau natur, a llawer mwy. P’un a ydych chi’n hoff o hanes ai peidio, mae’n werth ymweld â’r amgueddfa a’i chartref unigryw.
- Crwydro o amgylch y castell a’r amgueddfa
- Hwyl am ddim i’r teulu cyfan
- Gwefan Amgueddfa’r Fenni
4. Mwynhau Eich Hun yn y Farchnad
Mae Marchnad y Fenni yn denu ymwelwyr o bell ac agos a dyma’r farchnad fwyaf yng Nghymru gyfan. Byddwch yn dod ar draws marchnadoedd hen bethau a chrefftwaith a marchnad ffermwyr draddodiadol hefyd.
Gyda dros 200 o stondinau, mae rhywbeth i blesio pawb, boed yn ddanteithion blasus, yn emwaith hardd neu’n nwyddau gwlân wedi’u gwneud â llaw. Mae’r stondinau yn gwerthu bwyd stryd i siopwyr llwglyd ac mae caffis lle gallwch fynd i orffwys ac ymlacio, neu wylio’r byd yn gwibio heibio. Mae cymaint yn digwydd yma, ac mae yma ddigonedd o ddewisiadau.
- Perffaith ar gyfer therapi siopa
- Prynu eitemau crefft lleol a danteithion artisan
- Rhywbeth addas i bob poced
5. Canolfan Ymwelwyr Glanfa a Chamlas Goetre
Mae Glanfa Goetre ar gyrion y Fenni. Mae’n fan cychwyn gwych ar gyfer teithiau cerdded a beicio ar hyd Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog. Neu gallwch logi canŵ neu gwch camlas i deithio ar y dŵr. Mae yna gaffi clyd hefyd i fwynhau lluniaeth haeddiannol.
- Gwych i’r bobl sy’n hoffi hanes
- Cychod, pysgota, beicio a cherdded
- Llogi cwch neu ganŵ
Mae’r Fenni yn lle gwych ar gyfer gwyliau neu benwythnos hir. Gallwch ymlacio ymhell oddi wrth bwysau bywyd bob dydd. Teithio gyda phlant? Mae digon i’w difyrru - fyddan nhw ddim eisiau gadael.
Dysgwch fwy am y Fenni a sut i gyrraedd yno ar y trên ar rwydwaith Trafnidiaeth Cymru.
-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Gwirio capasiti
-
Cas-gwent Dewch i ddarganfod Visiting Chepstow
-
Caergybi Dewch i ddarganfod Visiting Holyhead
-
Ymweld â Chaerfyrddin Dewch i ddarganfod Visit Carmarthen
-