Teithio i Gastell Cas-gwent ar y trên

Station Icon
Yr orsaf agosaf: Cas-gwent

Location Icon
10 munud o cerdded  - gweld y map

 

Dim ond ychydig funudau ar droed o orsaf Cas-gwent, mae’r gaer odidog 600 oed hon ar ben y graig.

Y castell hwn, sy’n edrych dros Afon Gwy, oedd un o'r caerau Normanaidd cyntaf yng Nghymru, sy’n golygu ei fod yn gastell gwych i haneswyr brwd. 

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Gastell Cas-gwent a’i hanes drwy fynd i wefan Cadw.

 

Rydyn ni’n gweithio gyda Cadw i gynnig mynediad i 2 am bris 1 i’w safleoedd hanesyddol. 

Gyda thocyn trên dilys, fe gewch chi ac un person arall 2 docyn mynediad am bris 1 ar yr un diwrnod â’ch taith*, felly beth am gynllunio taith i Gastell Cas-gwent a dal y trên i fynd yno?  

*Telerau ac Amodau perthnasol.

  • Gweler y Telerau ac Amodau:
    • Bydd angen i chi ddangos eich tocyn trên Trafnidiaeth Cymru, sy’n ddilys ar gyfer taith sydd ar yr un diwrnod ag y byddwch yn ymweld ag atyniad Cadw.  Mae’r cynnig 2-am-1 ar gael yn safleoedd Cadw lle rydych yn talu am fynediad, a bydd angen i chi ei adbrynu ar yr un diwrnod ag y byddwch yn prynu’ch tocyn mynediad. Mae’n rhaid i’ch tocyn TrC fod yn ddilys ar gyfer yr orsaf drên agosaf i’r atyniad a ddewiswch.
    •  
    • Mae'r cynnig hwn yn ddilys tan 31 Mai 2024.
    •  
    • Mae rhagor o wybodaeth am y telerau ac amodau ar wefan Cadw.