Cymerwch gipolwg ar ein trenau Metro

Gallwch gael taith rithiol o’n trenau newydd drwy glicio’r botwm isod. Bydd y trenau hyn yn cynyddu ein capasiti yn sylweddol, ac yn trawsnewid profiadau cwsmeriaid wrth deithio.  Byddant hefyd yn cynnig llawer o nodweddion newydd, gan gynnwys mynediad gwastad, mwy o le i feiciau, a system awyru.

Bydd y profiad yn gweithio orau gan ddefnyddio clustffonau VR ond gallwch barhau i archwilio a symud drwy ddefnyddio’ch cyfrifiadur neu’ch ffôn symudol

Lansio VR

 

Defnyddiwch y ddewislen yn y daith ryngweithiol i symud o gwmpas ac i archwilio.

Symbol Gweithredu
Backward Mynd yn ôl i’r sgrin flaenorol
Screens Gweld pob sgrin 
Pan left Edrych i’r chwith
Right Edrych i’r dde
Up Edrych i fyny
Down Edrych i lawr
Zoom in Nesáu
Zoom out Pellhau
VR mode Defnyddio modd VR (yn rhannu’r sgrin ar gyfer sbectol VR)
Full screen Sgrin lawn
Hide menu Cuddio’r ddewislen
Forward Symud ymlaen
Gyro Defnyddio’r synwyryddion symud ar ffôn clyfar neu dabled i edrych o gwmpas.

 


Mae nifer o brosiectau Metro De Cymru wedi cael eu hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.