Cadw’n heini a mwynhau’r awyr agored
Pa ffordd well o gadw’n heini a gwneud eich rhan dros yr amgylchedd na theithio ar droed lle gallwch chi, rhwng mynd ar y bws neu’r trên.
Mae cerdded ac olwynio yn dda i’ch iechyd ac i’n hamgylchedd felly gwnewch fwy o gamau a theimlo’r manteision.
Gallwch gynllunio eich taith gyda chynllunydd teithiau Traveline Cymru.
Beth sy'n digwydd yn eich ardal chi?
Yn ôl y gyfraith, rhaid i awdurdodau lleol annog cerdded a beicio. Maen nhw’n cyflawni hyn drwy wneud pethau fel gwella llwybrau beicio. Cewch wybod beth sy’n digwydd yn eich ardal chi yma.