Submitted by content-admin on

 

Beth yw Parcio a Theithio Caerdydd?

Mae'n system lle rydych chi'n parcio'ch car mewn maes parcio dynodedig ac yn defnyddio'r trên am weddill eich taith.

Yn syml, parciwch yn yr orsaf, prynwch docyn fel arfer a theithiwch i'r ddinas.

 

Pa ardaloedd alla i deithio iddynt ac oddi yno, o Gaerdydd?

P'un a ydych yn bwriadu gwneud rhywfaint o siopa yng nghanol y ddinas neu fynychu gêm yn Stadiwm Principality, mae'n debygol y bydd llwybr parcio a theithio ar gael o'ch man cychwyn.

Rydym wedi rhannu'r 24 gorsaf gyda chyfleusterau parcio a theithio i Gaerdydd Canolog yn bedwar parth a welir uchod, i'ch helpu i ddod o hyd i'r opsiwn mwyaf cyfleus.

Bydd ein holl lwybrau Parcio a Theithio yn mynd â chi i Gaerdydd Canolog ar y trên ac yn darparu teithiau yn ôl trwy gydol y dydd.

 

Sut ydw i'n dod o hyd i amserlenni Parcio a Theithio Caerdydd?

Gallwch fwrw golwg arnynt a chynllunio eich taith gan ddefnyddio ein ap neu gwefan.