
Mae’r ffordd rydyn ni’n darparu bwyd a diod ar ein trenau yn newid
Rydyn ni wedi ailgyflwyno’r gwasanaeth troli ar ein trenau.
Mae ein gwasanaeth bwffe ar agor ar y gwasanaeth rhwng Caerdydd a Chaergybi ac rydyn ni wedi newid yr hyn rydyn ni’n ei gynnig i’r teithwyr dosbarth cyntaf.
Bydd eich tocyn dosbarth cyntaf nawr yn cynnwys diodydd poeth ac oer am ddim a byrbrydau fel bisgedi, cacennau a chreision, ynghyd â dewisiadau iach eraill, gobeithio byddwch chi’n eu mwynhau.
Beth allwch chi ei ddisgwyl
- Amrywiaeth ehangach o gynnyrch
- Mwy o ddewisiadau iach
- Mwy o gynnyrch lleol
- Prisiau gwahanol
Bydd bwydlenni newydd i’r cwsmeriaid dosbarth cyntaf ar gael yn fuan
Mae ein cogyddion wedi creu bwydlenni newydd gwych i chi roi cynnig arnyn nhw. Gobeithio byddwch chi’n mwynhau’r amrywiaeth ehangach byddwn ni nawr yn gynnig pan fyddwch chi’n teithio gyda ni.
Yn ogystal â diodydd a byrbrydau am ddim, bydd teithwyr dosbarth cyntaf nawr yn gallu dewis o’r opsiynau canlynol:
Brecwast |
£10.00 |
Cinio neu swper dau gwrs |
£17.00 |
Cinio neu swper tri chwrs |
£20.00 |
Dyfodol ein gwasanaeth arlwyo: Dewisiadau iach a chynnyrch lleol
Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i wella’r bwyd a diod sydd ar gael ar ein gwasanaethau a byddwn yn parhau i wneud hyn yn ystod y misoedd nesaf. Gobeithio byddwch chi’n mwynhau’r newidiadau.
Byddwn yn cyflwyno amrywiaeth o gynnyrch lleol, mwy opsiynau iach ochr yn ochr â rhai o’ch ffefrynnau.
Pa deithiau sydd â gwasanaeth arlwyo?
Rydyn ni nawr yn rhedeg chwe gwasanaeth math rhwng dinasoedd rhwng Caerdydd a Chaergybi. Mae pob un o’r rheini’n cynnwys cegin, cerbyd bwffe, ciosg a cherbyd dosbarth cyntaf, sy’n treblu nifer y gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig.
-
Cwestiynau Cyffredin
-
Pam nad yw’r pryd wedi’i gynnwys ym mhris y tocyn bellach?
Rydyn ni wedi adolygu’r ffordd rydyn ni’n prisio ac yn darparu’r profiad dosbarth cyntaf ar ein gwasanaethau gan feddwl am y trenau newydd fydd yn cael eu cyflwyno’r flwyddyn nesaf, a chostau darparu profiad o ansawdd uchel yn gyson. Rydyn ni eisiau dal ati i gynnig profiad bwyd a diod o’r ansawdd gorau ar ein trenau ac felly rydyn ni wedi newid y ffordd rydyn ni’n codi tâl amdano drwy ei wahanu oddi wrth gost y tocyn. Mae hyn yn ei wneud yn fwy cynaliadwy ac yn ei wneud yn decach i deithwyr dosbarth cyntaf ar drenau lle nad oes cegin a phan na fyddwn yn gallu cynnig gwasanaeth arlwyo ar y trên.
Beth sydd ar gael am ddim?
Bydd eich tocyn dosbarth cyntaf nawr yn cynnwys diodydd poeth ac oer am ddim, byrbrydau fel bisgedi, cacennau a chreision, ynghyd â dewisiadau iach eraill ar bob gwasanaeth sydd â chyfleusterau dosbarth cyntaf. Nid yw’r un o’r newidiadau hyn yn effeithio ar y gwasanaeth bar yn ein cerbyd bwffe.
Sut mae prynu tocyn ar gyfer y pryd?
Byddwch yn gallu mwynhau’r dewis hwn drwy brynu’r ategiad ychwanegol gan ein gwesteiwr dosbarth cyntaf.
Oes modd talu gydag arian parod?
Dim ond taliadau cerdyn rydyn ni’n eu derbyn a dydyn ni ddim yn gallu derbyn arian parod ar hyn o bryd
Beth yw amseroedd gadael y gwasanaethau hyn?
Caergybi i Gaerdydd
- 05:34
- 11:34
- 16:51
Caerdydd i Gaergybi
- 06:45
- 11:22
- 17:16
Pa mor aml mae’r gwasanaeth yn rhedeg?
Mae’r gwasanaethau’n rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener
Ydw i’n gallu uwchraddio i ddosbarth cyntaf pan fyddaf ar y trên?
Ydych, holwch oruchwyliwr y trên.
Ydw i’n cael prynu pryd mewn cerbyd dosbarth safonol?
Fel rhan o’n cynlluniau i’r dyfodol, byddwn yn cyflwyno bwydlenni safon bwyty yn y cerbydau dosbarth safonol.
Ydych chi wedi lleihau cost y tocyn dosbarth cyntaf yn unol â hynny?
Nac ydym. Rydyn ni wedi edrych ar gost gweithredu’r gwasanaeth ac yn unol â chwmnïau trenau eraill, rydyn ni wedi meddwl am fodel prisio sy’n cynnig y gwerth gorau ac sydd fwyaf cynaliadwy i’r dyfodol. Byddwn yn parhau i gynnig gwasanaeth am ddim i deithwyr dosbarth cyntaf. Dim ond y prydau bwyd ar y trên sy’n newid.
-
-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Gwirio capasiti