Mwynhewch daith gylchol i’r ddau gyfeiriad o amgylch Gogledd Cymru, Manceinion, Lerpwl a Birmingham ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys taith sengl ar Reilffordd Ffestiniog.
Mae Rownd Ffestiniog yn cynnig taith gylchol i’r ddau gyfeiriad o amgylch y gylchdaith rhwng Amwythig - Caer - Cyffordd Llandudno - Blaenau Ffestiniog - Machynlleth - Amwythig ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, ynghyd â thaith sengl ar Reilffordd Ffestiniog i’r cyfeiriad teithio.
Mae tocynnau hefyd ar gael ar gyfer teithiau sy'n cychwyn o Birmingham, Manceinion a Lerpwl (gan ddefnyddio llwybrau daearyddol dynodedig).
Prisiau
Oedolyn | Plentyn | Teulu | Cardiau Rheilffordd* | |
O Fanceinion, Birmingham, Stockport, Wilmslow, Hooton, Runcorn, Warrington, Penbedw, Lerpwl a Wolverhampton. | £49.90 | £24.95 | £97.60 | £29.50 |
O bob gorsaf arall. | £44.30 | £22.15 | £85.40 |
*16-25, Anabl, Hŷn, Y ddau gyda’i gilydd
Gall plant 11-15 oed deithio am ddim ar drenau Trafnidiaeth Cymru yn ystod oriau tawel, a gall plant dan 11 oed deithio am ddim ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru unrhyw bryd, pan fydd oedolyn sy’n talu am docyn gyda nhw. trc.cymru/plant-i-gael-teithio-am-ddim.
Ble mae prynu tocyn Cylch Ffestiniog
Prynwch docyn tocyn Cylch Ffestiniog o swyddfa docynnau eich gorsaf leol. Os nad oes cyfleusterau prynu tocynnau yn yr orsaf lle rydych chi’n cychwyn eich taith, gallwch hefyd brynu tocyn Cylch Ffestiniog gan Oruchwyliwr ar wasanaeth trên Trafnidiaeth Cymru.
Map
Telerau ac amodau
- Yn ddilys i deithio unrhyw bryd bob dydd.
- Yn ddilys am un daith o amgylch y llwybr penodol yn y naill gyfeiriad neu’r llall, gan ddechrau a gorffen yn yr un orsaf.
- Yn ddilys am un daith ar Reilffordd Ffestiniog yn y cyfeiriad dan sylw.
-
Oeddech chi’n gwybod?Mae gan Gymru lawer i’w gynnigDarganfod hyd a lled rhwydwaith Trafnidiaeth CymruArchwiliwch ein Rhwydwaith