Pa dystiolaeth sydd angen ei chyflwyno?

Pan fyddwch chi’n gwneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach mae angen i chi ddarparu tystiolaeth fel y gallwn wirio eich bod chi’n gymwys i dderbyn un. Mae’r dystiolaeth sy’n ofynnol yn wahanol yn dibynnu ar ba fath o gerdyn rydych chi’n gwneud cais amdano.


60 oed neu Drosodd

Mae’n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o (a) eich cyfeiriad a (b) eich oedran.

 

Anabl

Mae’n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o (a) eich cyfeiriad a (b) eich oedran ac (c) eich anabledd.

 

60 oed neu Drosodd ac Anabl

Gan fod yr hawliau teithio yr un fath i bobl 60 oed a throsodd a phobl anabl, mae’n rhaid i chi wneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach 60 neu drosodd (oni bai eich bod chi’n gwneud cais am Gerdyn Teithio Person Anabl gyda Chydymaith hefyd, sydd ond ar gael i rai ymgeiswyr anabl).

 

Anabl gyda chydymaith

Dylech gysylltu â'ch cyngor yn y lle cyntaf gan nad yw'r cardiau hyn ar gael ond yn eithriadol.

 

Newid enw

Mae’n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’ch enw newydd.

 

Newid cyfeiriad

Mae’n rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’ch cyfeiriad newydd.

 

Sut mae cyflwyno tystiolaeth?

Dylech gyflwyno copi clir o'r dogfennau perthnasol gyda'ch ffurflen gais wedi'i llenwi.

Gallwch gysylltu â’ch cyngor am gymorth os nad ydych yn siŵr pa ddogfennau i’w darparu.

Peidiwch ag anfon copïau gwreiddiol atom o unrhyw un o'ch dogfennau, gan na fyddwn yn gallu eu hanfon yn ôl atoch.

 

Tystiolaeth o enw

Cyflwynwch gopi o un o’r canlynol:

  • Pasbort cyfredol;
  • Trwydded Yrru gyfredol;
  • Tystysgrif Geni (sy’n cynnwys enw’r ymgeisydd).

Dim ond copïau wedi'u sganio o ffotograffau o ddogfennau y dylech eu darparu. Peidiwch ag anfon copïau gwreiddiol o unrhyw ddogfennau fel pasbortau neu drwyddedau gyrru.

 

Tystiolaeth o gyfeiriad

Ar gyfer pob cerdyn (60 oed neu drosodd, anabl ac anabl gyda chydymaith), mae gofyn i chi gyflwyno copi o unrhyw ddau o’r canlynol:

  • Bil y Dreth Gyngor neu dystiolaeth o esemptiad y Dreth Gyngor (blwyddyn ariannol gyfredol)
  • Tystiolaeth o daliadau rhent (o fewn y 3 mis diwethaf)
  • Trwydded yrru gyfredol
  • Dogfennau budd-daliadau a phensiwn (blwyddyn ariannol gyfredol)
  • Bil cyfleustodau ond nid ffôn symudol (o fewn y 3 mis diwethaf)
  • Cadarnhad bod yr ymgeisydd ar y Gofrestr Etholiadol ar gyfer Etholiadau Seneddol y DU
  • Cadarnhad bod yr ymgeisydd ar Gofrestr yr Ysgol
  • Tystiolaeth bod yr ymgeisydd yn ddibynnydd person sy’n byw yn ardal y cyngor
  • Tystiolaeth bod yr ymgeisydd yn derbyn gofal gan y cyngor neu asiantaeth gymeradwy ac yn byw yn ardal y cyngor
  • Tystiolaeth bod yr ymgeisydd wedi cofrestru’n barhaol gyda meddyg teulu lleol
  • Tystiolaeth o ddogfennau gan y Swyddfa Gartref yn cadarnhau hawl preswylio

Dylech ddarparu copi o lythyr neu ohebiaeth gan yr asiantaeth neu sefydliad swyddogol priodol naill ai fel dogfen swyddogol neu ar bapur pennawd y sefydliad.

 

Tystiolaeth o oedran

Cyflwynwch gopi o un o’r canlynol:

  • Pasbort cyfredol;
  • Trwydded Yrru gyfredol;
  • Tystysgrif Geni (sy’n cynnwys enw’r ymgeisydd).

Dim ond copïau wedi'u sganio o ffotograffau o ddogfennau y dylech eu darparu. Peidiwch ag anfon copïau gwreiddiol o unrhyw ddogfennau fel pasbortau neu drwyddedau gyrru.

 

Tystiolaeth o newid enw

Cyflwynwch gopi o ddogfen gyfreithiol sy’n dangos yn glir beth yw’r enw newydd a’r cyswllt â’r enw blaenorol, fel tystysgrif priodas neu weithred newid enw.
 

Tystiolaeth ar gyfer Cerdyn Teithio Person Anabl

Os ydych chi’n gwneud cais am gerdyn teithio person anabl, dylech gyflenwi copi o un o’r darnau canlynol o dystiolaeth:

Llythyr dyfarnu Lwfans Byw i’r Anabl gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, sy’n rhoi manylion dyfarniad Cyfradd Uwch Elfen Symudedd.

Datganiad o Hawl i Daliad Annibyniaeth Personol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n dangos:

  • 8 pwynt neu fwy o dan Ddisgrifydd 7 “Cyfathrebu’n Llafar”; neu
  • 12 pwynt o dan Ddisgrifydd 11 “Cynllunio a Dilyn Taith”; neu
  • 8 pwynt neu fwy o dan Ddisgrifydd 12 “Symud o Gwmpas”.

Noder: PEIDIWCH ag adio disgrifyddion y Taliad Annibynniaeth Personol a’u sgoriau unigol at ei gilydd.

 

Llythyr dyfarnu Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel Veterans UK ar bapur pennawd swyddogol.

 

Llythyr dyfarnu’r Weinyddiaeth Amddiffyn o dan dariffau 1-8 Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog ar bapur pennawd swyddogol.

1. Cymeradwyaeth Asesu Cymhwyster gan yr awdurdod lleol eich bod yn bodloni un o’r meini prawf canlynol:

i). Wedi colli llawer o’ch golwg yn y ddwy lygad.

ii). Nam difrifol ar y golwg – methu darllen (gyda sbectol os ydych chi’n gwisgo rhai) llythyren uchaf prawf llygaid safonol o bellter o 3 metr neu lai.

iii). Nam ar y golwg – ond yn gallu darllen (gyda sbectol os ydych chi’n gwisgo rhai) llythyren uchaf prawf llygaid safonol o bellter o 6 metr neu lai.

 

2. Cwbl fyddar neu nam difrifol ar eich clyw, nam ar y clyw yn y ddwy glust o 70 desibel (dBHL) neu fwy.

 

3. Methu siarad – nid ydych chi’n gallu cyfathrebu’n llafar mewn unrhyw iaith.

 

4. Nam neu anaf sy’n cael effaith niweidiol hirdymor ar eich gallu i gerdded.

 

5. Heb freichiau neu wedi colli’r defnydd o’r ddwy fraich am yr hirdymor.

 

6. Nam Gwybyddol.

 

7. Ni fyddech yn cael trwydded i yrru cerbyd modur o dan Ran II Deddf Trafnidiaeth Ffyrdd 1988, yn unol ag adran 92 y Ddeddf honno (ffitrwydd corfforol) ac eithrio ar sail camddefnyddio cyffuriau neu alcohol yn ddyfal.

 

Os ydych chi’n bodloni un o’r meini prawf cymhwyster 1 i 7 uchod, ac nad ydych chi wedi cael eich asesu gan eich awdurdod lleol, cysylltwch â’ch awdurdod lleol am ragor o wybodaeth.

 

Tystiolaeth ar gyfer Cerdyn Teithio Anabledd gyda Chydymaith

Bydd eich awdurdod lleol yn asesu a ydych chi’n bodloni’r meini prawf canlynol:

  • Ymddygiad heriol: mae angen goruchwylio’r ymgeisydd drwy’r amser;
  • Namau gwybyddol a meddyliol difrifol (gan gynnwys pobl heb ymwybyddiaeth o risg a gallu cyfyngedig i gynllunio a dilyn taith);
  • Cyfuniad o nam ar y golwg a’r clyw neu nam ar y golwg a llefaredd sy’n atal rhywun rhag gallu symud o gwmpas yn annibynnol; neu
  • Cael trafferth defnyddio cadair olwyn yn annibynnol.

 

Beth rydyn ni’n ei wneud gyda’r dystiolaeth?

Mae’r dystiolaeth a gyflwynwch yn cael ei defnyddio i ddilysu’ch cais a thrwy ei chyflwyno rydych chi’n gwarantu ei bod yn gywir.

Efallai y byddwn yn gwirio bod y ddogfen yn ddilys gyda’r asiantaeth yn y llywodraeth a gynhyrchodd y ddogfen. Er enghraifft, efallai y byddwn yn cysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae cyflenwi dogfennau ffug yn fwriadol yn dwyll.

Efallai y bydd yr awdurdod lleol yn cadw tystiolaeth (neu luniau digidol o dystiolaeth) yn ddiogel ac yn ei rhannu â Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru at ddibenion gweinyddu’r cynllun.