Awgrymiadau ar gyfer teithiau haws | Tips for easier travel

Awgrymiadau ar gyfer teithiau haws

O deithiau diwrnod dros ŵyl y banc i wyliau dros benwythnos y Pasg, o dripiau dros y Nadolig i wyliau'r haf, gall teithio yn ystod oriau brig fod yn straen, yn enwedig gyda phlant ifanc.

Mae mwy a mwy ohonom yn mwynhau gwyliau gartref neu ‘staycations’ - gan ddewis treulio ein hamser hamdden gwerthfawr yn nes at adref. Gall ein trenau a'n gwasanaethau bws eich cludo i rai o draethau mwyaf prydferth y DU, parciau cenedlaethol syfrdanol, a dinasoedd, trefi a phentrefi sy'n llawn mannau gwyrdd, hanes a diwylliant - yn ogystal â digonedd o weithgareddau hwyliog i gadw'r plant yn brysur hefyd.

Cymerwch gipolwg ar ein hawgrymiadau defnyddiol er mwyn hwyluso eich teithiau yn ystod cyfnodau prysur.

 

Awgrymiadau i deithwyr

1. Cynlluniwch ymlaen llaw

2. Paciwch yn gall ac yn ysgafn

  • Crëwch restr wirio o eitemau hanfodol (byrbrydau, gemau, teganau neu ddillad ychwanegol).
  • Osgowch or-bacio - canolbwyntiwch ar bethau angenrheidiol er mwyn hwyluso cario bagiau.
  • Darganfyddwch beth allwch chi ddod gyda chi ar ein trenau yma.

3. Pecyn gweithgareddau teithio i blant

  • Dewch ag amrywiaeth o weithgareddau sy'n addas i oedran eich plant, fel llyfrau, gemau teithio neu ffilmiau a rhaglenni teledu wedi'u lawrlwytho ymlaen llaw ar dabled.
  • Os ydych chi'n chwilio am rywbeth gwahanol, beth am lawrlwytho ein pecyn gweithgareddau teithio i blant am ddim?

Drwy gynllunio ymlaen llaw, byddwch yn sicr o gael gwell profiad teithio a byddwch yn cyrraedd eich cyrchfan yn hamddenol ac yn barod i fwynhau eich trip.

 

Rhowch gynnig ar ein tocynnau teithio diderfyn

Y ffordd orau o osgoi tagfeydd traffig ar y ffyrdd yw trwy deithio ar y trên.

Mwynhewch deithio diderfyn ar draws ein rhwydwaith rheilffyrdd a llwybrau Traws Cymru penodol. Yn syml, dewiswch ranbarth, prynwch docyn a neidiwch ar/oddi ar y trên neu fws gymaint ag y dymunwch heb angen cynllunio ymlaen llaw.