
Ceiswich gerdded neu feicio pryd bynnag y gallwch chi
Helpwch ni i gadw Cymru'n Ddiogel trwy gerdded neu feicio teithiau byrrach
Mae diogelwch a lles ein cwsmeriaid a'n staff yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i ni.
Mynd â beic ar drên
Defnyddiwch y storfa feiciau yn ein gorsafoedd neu'n agos atynt lle mae ar gael ac osgoi mynd â'ch beic ar y trên.
Gallwch ddarganfod mwy am storio beiciau yn ein gorsafoedd yma.
Gallwch ddod â'ch beic ar y trên os ydych:
- ei angen i deithio i'r gwaith
- yn gallu ei blygu i arbed lle
Darganfyddwch fwy am gerdded a beicio yn lleol
Dewch o hyd i llwybrau cerdded a beicio pwrpasol lle rydych chi'n byw.
Efallai y bydd eich cyngor lleol hefyd yn trefnu cyfleusterau dros dro er mwyn ei gwneud hi'n haws i gerdded a beicio. Gallwch wirio beth sy'n digwydd lle rydych chi'n byw yma.
Y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol
Mae'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn rhwydwaith ledled y DU o lwybrau a llwybrau wedi'u cofnodi ar gyfer cerdded a beicio.
Cynlluniau beicio cyhoeddus
Gallwch logi beic o gynllun beicio cyhoeddus, fel Nextbike. Ar hyn o bryd dim ond mewn rhai rhannau o Gymru y maen nhw ar gael. Darganfyddwch fwy am ddefnyddio Nextbike yn ddiogel.