Cadwch yn ddiogel, cynlluniwch ymlaen llaw a byddwch yn deithiwr cyfrifol
Ystyriwch eraill wrth deithio. Gyda chyfyngiadau teithio yn codi ledled y DU, mae mwy ohonom yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Cyn teithio
- Cynlluniwch eich taith
- Gweithio gartref os gallwch chi.
- Peidiwch â theithio os ydych chi'n yn teimlo'n sâl
Wrth deithio
-
Gwisgwch orchudd gwyneb mewn tacsi oni bai eich bod wedi'ch eithrio
Cofiwch bod hyn yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru
-
Ceisiwch gerdded neu feicio ar deithiau byrrach.
-
Cadwch unrhyw ffenestri ar agor i helpu i awyru.
-
Byddwch yn barchus - nid yw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dderbyniol ar unrhyw ran o'n rhwydwaith.
-
Cadwch eich pellter - Mae Coronafeirws yn dal i fod yn ein cymunedau, helpwch ni i barhau i gadw Cymru'n Ddiogel trwy gadw pellter parchus oddi wrth deithwyr eraill os gallwch chi.
-
Golchwch eich dwylo am o leiaf 20 eiliad neu ddefnyddio glanweithydd dwylo yn rheolaidd
Defnyddio tacsi neu gerbyd llogi preifat
Defnyddiwch dacsi a cherbydau llogi preifat yn gyfrifol. Bydd eich cwmni tacsi neu logi preifat lleol yn dweud wrthych chi am y gwasanaethau maen nhw'n eu darparu ar hyn o bryd a'r mesurau diogelwch sydd ar waith.
Dilynwch gyngor y gyrrwr
Dilynwch gyngor y gyrrwr. Bydd eich gyrrwr yn gallu dweud wrthych am y mesurau sydd ar waith i sicrhau eich bod chi'n gallu teithio mor ddiogel â phosib. Efallai y gofynnir i chi eistedd ar yr ochr chwith yn y sedd gefn os ydych chi'n teithio ar eich pen eich hun, er enghraifft.
Gorchuddion wyneb
Mae gwisgo gorchudd gwyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru. Rhaid i chi barhau i wisgo gorchudd gwyneb ar ein holl wasanaethau trwy gydol eich taith, oni bai eich bod wedi'ch eithrio.
Dewch â gorchudd gwyneb gyda chi a'i wisgo:
- wrth aros mewn safle tacsi
- wrth deithio mewn tacsi
Nid oes rhaid i blant o dan 11 oed, pobl ag anawsterau anadlu neu bobl â salwch corfforol neu feddyliol neu nam neu anabledd wisgo gorchudd wyneb.
Gellir gweld rhestr lawn Llywodraeth Cymru yma
Dolenni defnyddiol
- Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Deithio’n Saffach a’n haddewid ni i chi yma.
- Byddwch yn deithiwr cyfrifol, cynlluniwch ymlaen llaw a defnyddiwch ein gwiriwr capasiti os ydych chi’n teithio ar drên
- Edrychwch ar wefan eich gweithredwr bysiau lleol i gael rhagor o wybodaeth. Gallwch ddod o hyd i'ch gweithredwr lleol yn https://www.cymraeg.traveline.cymru/
- Gallwch chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ofal iechyd gan y GIG.
- Gallwch chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ofal iechyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma.
- Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin i gael gwybod mwy am yr hyn rydym yn ei wneud i sicrhau bod teithiau hanfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru mor ddiogel â phosibl.