
10k Ynys y Barri
Bydd ras 10K Ynys y Barri yn dychwelyd ddydd Sul 15 Mehefin. Mae’n rhan o gyfres 10K Rhedeg Cymru. Mae disgwyl i’r niferoedd fod yn uchel, felly byddwn yn rhedeg dau wasanaeth ychwanegol ac yn newid amser un o’n gwasanaethau er mwyn cyrraedd yn gynharach, gan roi digon o amser i redwyr gyrraedd erbyn 10:00.
Dyma’r amserau newydd ar gyfer y gwasanaethau:
- NEWYDD - 07:54 Caerdydd Canolog i Ynys y Barri (yn cyrraedd Ynys y Barri am 08:24)
- NEWYDD - 08:09 Caerdydd Canolog i Ynys y Barri (yn cyrraedd Ynys y Barri am 08:43)
- 08:29 Caerdydd Canolog i Ynys y Barri (yn cyrraedd Ynys y Barri am 08:59)
- AMSER GWAHANOL - 09:08 Caerdydd Canolog i Ynys y Barri (yn cyrraedd Ynys y Barri am 09:38)
Pob lwc wrth TrC i’r rhedwyr i gyd!
Ar ôl y digywddiad
![]() | Prynwch cyn teithioRhaid i chi brynu eich tocyn cyn mynd ar y trên. I arbed amser wedyn, prynwch docyn dwyffordd ar eich ffordd i mewn. Gallwch hefyd brynu’ch tocyn ar yr ap TrC neu ar wefan trc.cymru. Bydd Arolygwyr Diogelu Refeniw yn archwilio tocynnau cyn ac ar ôl y digywddiad. |
![]() | Diogelwch y cyhoeddBydd unrhyw un sy’n defnyddio iaith ddifrïol neu ymddygiad bygythiol tuag ein cwsmeriaid neu ein cydweithwyr yn cael ei atal rhag teithio. |
Cadw ein cwsmeriaid yn ddiogel yn ystod digwyddiadau
Gall digwyddiadau mawr olygu bod mwy o bobl nag arfer yn defnyddio ein gwasanaethau. Byddwn yn cymryd camau ychwanegol i gadw ein cwsmeriaid i deithio’n ddiogel ac yn ddibynadwy.