Gŵyl Y Gelli Gandryll 21 Mai - 31 Mai 2026
Mae un o wyliau llenyddol mwyaf a gorau’r byd yn digwydd bob blwyddyn yn “y dref lyfrau” Y Gelli Gandryll.
Wedi'i sefydlu yn sgil sgwrs o amgylch bwrdd cegin dros 39 mlynedd yn ôl, cynhaliwyd Gŵyl y Gelli gyntaf mewn gardd tafarn. Y dyddiau hyn mae'n denu 100,000 a mwy o ymwelwyr dros 11 diwrnod i ymgysylltu ag awduron, beirdd, athronwyr, haneswyr, gwyddonwyr, digrifwyr a cherddorion gwych o bob cwr o'r byd. Mae wedi symud i bentref pebyll mawr ar gyrion y dref gyda llwyfannau, caffis, siopau a bwytai.
Rhwng sesiynau, gall ymwelwyr ymlacio mewn cadeiriau lan mor ar lawnt y pentref, pori’r stondinau ac ymweld â siop lyfrau’r Ŵyl, sydd a 55,000 o deitlau gan siaradwyr gwadd. Neilltuir nosweithiau i gerddoriaeth, comedi a ffilm ar gyfer pob oed.
Mae mynediad i safle’r ŵyl am ddim: dim ond prynu tocynnau ar gyfer y digwyddiadau y mae gennych ddiddordeb ynddo sydd raid. Gellir archebu lle nawr ar wefan Gŵyl y Gelli, neu ffoniwch y swyddfa docynnau ar 01497 822 629.
Ewch i dudalennau Instagram, Facebook, TikTok a X Gŵyl y Gelli.
Sut i gyrraedd yno
Mae bysiau'r ŵyl yn rhedeg i'r orsaf reilffordd agosaf yn Henffordd ac oddi yno, 21 milltir i ffwrdd (34 km). Mae gan Traveline Cymru amserlenni ar gyfer y gwasanaethau bws rheolaidd o Henffordd a Merthyr Tudful.
I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu tocynnau, ewch i wefan Gŵyl y Gelli neu ffoniwch 01497 822629.
Ar ôl y digwyddiad
|
| Prynwch cyn teithioRhaid i chi brynu eich tocyn cyn mynd ar y trên. I arbed amser wedyn, prynwch docyn dwyffordd ar eich ffordd i mewn. Gallwch hefyd brynu’ch tocyn ar yr ap TrC neu ar wefan trc.cymru. Bydd Arolygwyr Diogelu Refeniw yn archwilio tocynnau cyn ac ar ôl y digwyddiad. |
|
| Diogelwch y cyhoeddBydd unrhyw un sydd dan ddylanwad alcohol sy'n cael ei ystyried yn fygythiad i'w diogelwch ei hun neu i ddiogelwch y cyhoedd yn cael ei atal rhag teithio. |
|
| Bydd unrhyw un sy’n defnyddio iaith ddifrïol neu ymddygiad bygythiol tuag ein cwsmeriaid neu ein cydweithwyr yn cael ei atal rhag teithio. |
Cadw ein cwsmeriaid yn ddiogel yn ystod digwyddiadau
Gall digwyddiadau mawr olygu bod mwy o bobl nag arfer yn defnyddio ein gwasanaethau. Byddwn yn cymryd camau ychwanegol i gadw ein cwsmeriaid i deithio’n ddiogel ac yn ddibynadwy.