Canolbarth Cymru

Mae llawer o’n gorsafoedd ar draws Canolbarth Cymru’n gweithredu fel porth i lwybrau cerdded allweddol. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn cysylltu’n agos â rheilffordd y Cambrian, yn ogystal â safleoedd mynediad allweddol Clawdd Offa, gan ei gwneud yn hawdd i deithio ar drên i un cyfeiriad a dychwelyd y ffordd arall drwy gerdded.  Rydym wedi nodi rhai llwybrau allweddol isod:

 

Gorsafoedd porth Llwybr Arfordir Cymru

Aberystwyth

Boed a ydych yn cerdded i'r gogledd neu’r de, mae gennych ddau ddewis wrth adael gorsaf drenau Aberystwyth.

Dewis 1. Trowch i'r chwith am 0.2 milltir / 0.3 cilometr ar hyd Ffordd Alexandra yna Dan Dre (A487) i gyrraedd Llwybr Arfordir Cymru dros Bont Trefechan. Trowch i’r chwith i groesi'r bont ac ewch am y de tuag at Lanrhystud ac Aberaeron. Neu ewch yn syth yn eich blaen yma i weld y golygfeydd arfordirol i’r de a mynd heibio gweddillion Castell Aberystwyth, adeilad eiconig yr Hen Goleg, y pier a’r promenâd.

Dewis 2. Neu croeswch y brif ffordd wrth y goleuadau a mynd ar hyd Ffordd y Môr. Ewch yn syth yn eich blaen drwy'r dref i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru ar y promenâd. Yma fe allwch droi i'r dde i fynd i fyny Craig Glais a mynd i'r gogledd tuag at y Borth, neu fe allwch droi i'r chwith i fynd am gyfeiriad y de, heibio'r pier tuag at Aberaeron.

Y Borth

Dim ond tua dau gan llath yw Llwybr Arfordir Cymru o orsaf y Borth. Trowch i’r chwith wrth fynd allan o’r orsaf, i lawr Princess Street (B4353) i gyrraedd y llwybr wrth gyffordd gyda thrac ar y chwith.  Trowch i'r chwith yma i fynd am y gogledd drwy Gors Fochno a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi tuag at Fachynlleth, neu arhoswch ar y brif ffordd drwy'r Borth i fynd am y de tuag at Aberystwyth.

Machynlleth

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn pasio yn syth o flaen yr orsaf hon. Yn syml, ewch allan o'r orsaf i gyrraedd cefnffordd yr A487 a Llwybr Arfordir Cymru. Trowch i'r dde am Aberdyfi a throwch i’r chwith tuag at y Borth ac Aberystwyth.

Aberdyfi

Mae dwy daith gerdded gwbl wahanol yn aros amdanoch os ydych yn mynd oddi ar drên yn yr orsaf yma. Ewch i'r gogledd am Dywyn i gael taith gerdded hollol wastad, pum milltir o hyd, y tu ôl i dwyni Tywyn, neu ewch i'r dwyrain am lwybr sy’n mynd am yr ucheldir, i archwilio’r cefn gwlad uwchben Dyffryn Dyfi.

Y Bermo

Yma fe gewch chi daith gerdded hamddenol ar draws un o nodweddion archeolegol mwyaf eiconig Cymru, gan groesi aber Mawddach dros bont Abermaw, sydd wedi ymddangos mewn sawl llun. Dim ond ar droed, beic neu drên y gallwch chi ei chroesi.

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn 0.1 milltir / 0.15 cilometr o'r orsaf - ewch i lawr Ffordd y Traeth pan ewch oddi ar y trên.

 

Gorsafoedd porth Clawdd Offa

Y Trallwng

Ewch o'r orsaf a gwneud eich ffordd ar hyd y gamlas am tua 30 munud (2.5km) nes i chi gyrraedd llwybr Clawdd Offa ym Mhont Buttington. Oddi yma, mae darn 50km o'r llwybr troed enwog rhwng y Trallwng a Threfyclo. Ond byddwch yn ofalus, mae’r llwybr yma ar lethr i gyd, bron.

Cnwclas i Drefyclo

Taith gerdded gymedrol o 5 milltir o Gnwclas, gydag esgyniad graddol at Fryn y Beili, i gyrraedd Llwybr Glyndŵr, sy’n pasio heibio gwlad y bryniau at hen ardal Trefyclo, i’r Narrows a thŵr y cloc. Gallwch weld y daith gerdded lawn yma.

Mae Trefyclo hefyd yn gartref i ganolfan Clawdd Offa, lle gallwch gael hyd i fwy o wybodaeth am deithiau cerdded lleol.