Croeso i negeseuon TrC

Diweddariadau teithio byw am wasanaethau trên ledled y DU, yn uniongyrchol i'ch ffôn. Derbyn y diweddariadau hyn drwy WhatsApp neu Facebook Messenger.

Mae'n rhad ac am ddim, ar gael yn y Gymraeg, a does dim rhaid bod gennych docyn i'w ddefnyddio.

Boed gennych docyn neu'n talu wrth fynd, gall negeseuon TrC eich helpu i gynllunio'ch taith.

Mae negeseuon TrC ar hyn o bryd mewn cyfnod beta, sy'n golygu bod y gwasanaeth yn dal i gael ei ddatblygu a'i wella. Os sylwch unrhyw broblemau, cysylltwch â ni trwy gysylltiadau cwsmeriaid neu gyfryngau cymdeithasol:

trc.cymru/cysylltu-a-ni

 

Sut i gofrestru

System hysbysiadau personol ydy negeseuon TrC. Fe gewch hysbysiadau mewn amser real am eich taith, fel amcangyfrif amser cyrraedd, rhif platfform, cynnydd y daith, ac unrhyw oedi neu ganslo.

I fanteisio ar negeseuon TrC, dilynwch y ddolen isod i gofrestru:

 

Cwestiynau cyffredin

Sut mae negeseuon TrC yn gweithio?

Daw negeseuon TrC gan feddalwedd Darwin, peiriant gwybodaeth swyddogol Prydain am drenau, sy’n darparu amseroedd cyrraedd ac ymadael mewn amser-real, rhif platfformau, a fydd unrhyw oedi, newid amserlen neu unrhyw wasanaethau a gaiff eu canslo.

Dyma'r un peiriant sy'n darparu gwybodaeth amser-real ar gyfer Sgriniau Gwybodaeth Cwsmeriaid yn ein gorsafoedd a'r Sgrin Amseroedd Ymadael Byw ar ein gwefannau ac apiau.

Bydd negeseuon TrC yn anfon diweddariadau trwy WhatsApp neu Facebook Messenger i'r cwsmer yn seiliedig ar wybodaeth amser-real Darwin.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng hysbysiad taith fyw a hysbysiadau taith reolaidd?

Mae dewis 'Hysbysiad taith fyw' yn eich galluogi i sefydlu hysbysiad un-amser, sy'n golygu y bydd dim ond diweddariadau am y gwasanaeth penodol hwnnw yn cael ei anfon atoch ar y diwrnod a ddewiswch. Mae 'Hysbysiadau taith reolaidd' yn eich galluogi i sefydlu hysbysiadau ar gyfer sawl diwrnod.

Ar ba lwyfannau alla i dderbyn hysbysiadau gan negeseuon TrC?

Ar hyn o bryd gallwch dderbyn negeseuon TrC drwy:

  • WhatsApp
  • Facebook Messenger
Ble y gallaf gael mynediad i negeseuon TrC?

Gallwch ddod o hyd i bopeth sydd ei angen i gychwyn ar ein gwefan benodol:

Gallwch hefyd weld dolenni i sefydlu rhybuddion ar:

  • Cynllunwyr teithio ar-lein TrC (dod yn fuan)
  • Byrddau ymadael byw ar ap TrC (dod yn fuan)
  • Sgriniau cyffwrdd digidol mewn gorsafoedd dethol
  • Arddangosfeydd digidol ar wasanaethau dethol
  • Codau QR ar bosteri gorsaf (dod yn fuan)
A fydd negeseuon TrC yn dweud wrthyf os oes oedi neu ganslo?

Bydd. Mae negeseuon TrC yn monitro eich taith mewn amser real. Os bydd yn sylwi oedi, canslo, neu unrhyw beth a allai effeithio ar eich taith, bydd yn eich hysbysu ar unwaith.

A gall negeseuon TrC ail-gynllunio fy nhaith yn ystod tarfu?

Ie, mae negeseuon TrC yn gwybod pryd mae pethau'n mynd o'i le, ac yn gallu cynllunio llwybrau o amgylch tarfu (hyd yn oed os ydych eisoes yn teithio).

Alla i dderbyn hysbysiadau am bob gwasanaeth sy'n gadael neu'n cyrraedd fy hoff orsaf?

Na. Dim ond ar deithiau rhwng gorsafoedd penodol y gall hysbysiadau cael ei greu.

Os ydych chi'n sefydlu hysbysiadau taith reolaidd, byddwch chi'n derbyn hysbysiadau dim ond ar y dyddiau rydych chi wedi'u dewis. Mae'r amser rydych chi'n ei ddewis yn dweud wrth negeseuon TrC pryd i ddechrau monitro teithiau ac anfon diweddariadau ar gyfer teithiau rhwng y ddwy orsaf hynny.

A allaf dderbyn negeseuon TrC ar gyfer bysiau lleol?

Na. Ar hyn o bryd, mae negeseuon TrC yn cefnogi gwybodaeth ar gyfer teithiau rheilffordd yn unig.

A fydd negeseuon TrC yn rhoi gwybod i mi am wasanaethau bws yn lle trên neu waith peirianneg?

Gall negeseuon TrC eich helpu i aros yn wybodus am unrhyw darfu sy'n effeithio ar eich taith, gan gynnwys gwaith peirianneg a gwasanaethau bws yn lle trên. Fodd bynnag, mae rhai cyfyngiadau:

Ar gyfer gwaith peirianneg wedi'i gynllunio, mae negeseuon TrC ond yn anfon hysbysiadau ar ddiwrnod y daith ac nid yw'n darparu rhybuddion dros 24 awr ymlaen llaw.

Os yw gwaith peirianneg yn cau rhan o'ch llwybr, bydd negeseuon TrC yn ceisio ail-gynllunio'ch taith gan ddefnyddio gorsaf neu lwybr arall os yn bosibl, yn hytrach na'ch rhybuddio'n benodol bod y llwybr gwreiddiol ar gau.

Ar gyfer y diweddariadau diweddaraf yn ystod tarfu, ewch i'n tudalen pob diweddariad.

A allaf gael hysbysiadau am deithiau i Loegr neu'r Alban?

Ie, gellir defnyddio negeseuon TrC ar gyfer gwasanaethau rheilffordd ledled y DU, nid yn unig ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru.

Sut alla i ddatrys unrhyw broblemau gyda negeseuon TrC?

Os byddwch yn profi problemau gyda negeseuon TrC, rhowch wybod i ni drwy gysylltu ar un o'n sianeli cyfryngau cymdeithasol, a fydd yn codi hyn gyda'r tîm priodol. Anfonwch eich rhif ffôn, y dyddiad y sefydlwyd y rhybudd, a'r dyddiad roeddech chi'n teithio i:

WhatsApp: 07790 952 507
Facebook Messenger: @TfWTrafnidiaethCymru

A allaf rannu fy nhaith gyda rhywun?

Ie. Mae negeseuon TrC yn cynnwys nodwedd “Buddy”, sy’n caniatáu i chi rannu diweddariadau gyda rhywun arall.

I ddefnyddio hyn:

  • Trefnwch eich hysbysiadau teithio
  • Cliciwch y botwm 'Hoffech chi rannu eich diweddariadau gyda rhywun arall?'
  • Rhowch y cyswllt a ddewiswyd
A yw negeseuon TrC ar gael yn Gymraeg?

Ydyn. Gellir dewis y fersiwn Gymraeg, o’r enw negeseuon TrC, wrth setio lan eich hysbysiadau.

I newid i Gymraeg:

  • Cliciwch y rhestr o ieithoedd ar dudalen gosod y rhybudd
  • Dewiswch Gymraeg
  • Parhewch i drefnu eich taith

Os hoffech newid i Gymraeg ar ôl setio lan eich hysbysiadau:

  • Teipiwch ac anfon neges yn dweud 'Menu' i dderbyn yr opsiynau dewislen.
  • Fe welwch garwsél o opsiynau.
  • Ar eitem olaf y carwsél, cliciwch "Dewisiadau"
  • Bydd hwn yn agor y sgrin dewisiadau, lle gallwch ddiweddaru eich iaith.
Sut ydw i’n stopio neu reoli fy hysbysiadau?

Gallwch ddewis optio allan i hysbysiadau fesul taith. Os byddwch yn colli eich trên, dewiswch y botwm ‘Wedi'i golli’ i weld opsiynau teithio eraill. Yna gallwch ddewis ‘Cael Hysbysiadau Taith’ ar gyfer eich taith newydd a derbyn diweddariadau ar gyfer y gwasanaeth hwnnw yn lle.

Os ydych newydd sefydlu rhybudd ond nid ydych am dderbyn hysbysiadau mwyach, dewiswch ‘Na, optio allan’ yn y neges Croeso.

Gallwch hefyd reoli hysbysiadau ar gyfer teithiau unigol ar dudalen ‘Dangos teithiau’ neu drwy’r ddewislen ‘Opsiynau taith’.

Gallwch optio allan o rybuddion unrhyw bryd trwy ateb STOP ar Facebook Messenger. Bydd hyn yn rhoi diwedd ar eich rhybuddion ac yn tynnu eich tanysgrifiad.

Os hoffech optio allan o bob neges ar WhatsApp, bydd angen i chi ddewis gadael y sianel trwy dudalen gosodiadau'r sianel.

Nodwch: bydd hyn yn stopio pob rhybudd a ni fyddwch yn gallu derbyn negeseuon gan negeseuon TrC yn y dyfodol oni bai eich bod yn tanysgrifio eto.

Alla i osod hysbysiadau un amser?

Gallwch. Yn syml:

  • Rhowch eich gorsaf ymadael a'ch cyrchfan
  • Dewiswch eich amser teithio

Os ydych chi'n teithio ar yr un diwrnod, nid oes rhaid i chi ddewis dyddiad.

Dim ond rhybuddion ar gyfer y daith benodol yna y byddwch chi'n eu derbyn.

Alla i osod hysbysiadau ar ddyddiau penodol o'r wythnos?

Gallwch. Wrth osod eich hysbysiadau:

  • Rhowch fanylion eich taith
  • Dewiswch y dyddiau rydych chi'n teithio
  • Dewiswch eich amser teithio

Yna, byddwch yn derbyn rhybuddion ar bob diwrnod a ddewiswyd ar yr amser hwnnw.