Parth Poppit

Mae’r gwasanaeth bws ‘405 Roced Poppit’, sy’n gweithredu ar hyd yr arfordir rhwng Abergwaun ac Aberteifi, bellach yn cael ei redeg fel gwasanaeth fflecsi. Mae’r gwasanaeth yn gwasanaethu’r ardal rhwng Abergwaun ac Aberteifi, yn ogystal â’r ardal i’r de - cyn belled â Chrymych. Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu teithiau i Ganolfan Iechyd Integredig Aberteifi.
Pethau i’w gwneud
- Treuliwch ddiwrnod ar y traeth. Mae traethau hyfryd yn y rhan hon o Sir Benfro, gan gynnwys Traeth Mawr Trefdraeth a Thraeth Poppit.
- Cerddwch ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro a mwynhau’r bywyd gwyllt a’r harddwch syfrdanol. Mae arfordir gogledd Sir Benfro yn lle gwych i weld dolffiniaid, llamidyddion a morloi.
- Ewch i ymweld â chaer Castell Henllys o’r oes haearn, er mwyn cael blas ar fywyd 2000 a mwy o flynyddoedd yn ôl.
- Ewch ar antur i fryniau’r Preseli, sef tarddle cerrig gleision Côr y Cewri. Teithiwch i Grymych neu i Fwlch Gwynt er mwyn cerdded ar hyd yr Heol Aur - taith gerdded saith milltir ar hyd crib ysblennydd y Preseli , neu ewch i Garn Ingli (Mynydd o Angylion), sydd uwchlaw pentref arfordirol a hardd Trefdraeth.
- Ewch i dref prysur Aberteifi, i fwynhau'r caffis, siopau a’r castell.
Cysylltiadau teithio pellach
- Cysylltiadau rheilffyrdd tuag at Abertawe a Chaerdydd o orsafoedd Abergwaun.
- Gwasanaeth T11 TrawsCymru rhwng Hwlffordd ac Abergwaun, drwy Dyddewi.
- Gwasanaeth T5 TrawsCymru rhwng Hwlffordd ac Aberystwyth, drwy Abergwaun.
Archebu ymlaen llaw
30 diwrnod.
Cŵn ar y bws
Ie. Yn ôl disgresiwn y gyrrwr ar yr amod eu bod yn lân, yn ymddwyn yn dda ac yn cael eu cadw ar dennyn.
Map
Oriau gwasanaeth
-
Dydd Llun
07:30 - 18:30
-
Dydd Mawrth
07:30 - 18:30
-
Dydd Mercher
07:30 - 18:30
-
Dydd Iau
07:30 - 18:30
-
Dydd Gwener
07:30 - 18:30
-
Dydd Sadwrn
07:30 - 18:30
-
Dim gwasanaeth ar Wyliau Banc.
⠀