Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru: Gwerthuso cynigion trafnidiaeth

Rydyn ni'n dilyn Canllawiau Gwerthuso Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru (WELTag) i werthuso atebion ar gyfer problemau sy’n ymwneud â thrafnidiaeth. Mae’n ein helpu i sicrhau’r canlyniadau gorau i bobl a chymunedau, yn ogystal â gwerth am arian cyhoeddus Cymru.

Mae WELTag yn mynnu bod pob prosiect, polisi a rhaglen yn cael ei gefnogi gan achos busnes sy’n dangos sut byddant yn darparu gwerth am arian yn erbyn amrywiaeth o feini prawf. Byddwn hefyd yn ymgynghori’n agos â phobl leol, cymunedau, rhanddeiliaid ac awdurdodau lleol mewn unrhyw brosiect sy’n ymwneud â thrafnidiaeth.

 

Proses WelTAG

 

Mwy o wybodaeth am broses WELTag