Gwaith yn dechrau i gysylltu Canolfan Reoli Metro De Cymru â’r rhwydwaith rheilffyrdd

Mae’r gwaith i gysylltu Canolfan Reoli Metro De Cymru â’r rhwydwaith rheilffyrdd yn dechrau fis nesaf, yn barod ar gyfer y fflyd newydd gwerth £150m o drenau tram Metro.

Mae’r cynllun yn cynnwys codi’r bont ffordd a chreu twnnel newydd i gysylltu’r ganolfan reoli £100m, y cyfleuster cynnal a chadw a’r depo yn Ffynnon Taf, Caerdydd, â’r rhwydwaith rheilffyrdd.

Bydd Cam 1 yn cynnwys gwaith i baratoi’r safle ar gyfer y tunnel newydd rhwng 23 Awst a 10 Rhagfyr 2021.  Yn amodol ar ganiatâd cynllunio, bydd Cam 2 yn golygu adeiladu’r bont newydd rhwng 10 Rhagfyr 2021 a Hydref 2022. 

Bydd y gwaith hwn yn golygu cau Ffordd Bleddyn gydol hyd y gwaith, rhwng y gyffordd oddi ar Ffordd Caerdydd a’r fynedfa i faes parcio gorsaf drenau Ffynnon Taf.

Bydd y llwybr cerdded a beicio (Llwybr Taf) ar hyd y rhan hon o Ffordd Bleddyn hefyd ar gau o 25ain Hydref ymlaen. Bydd gwyriadau ar waith ar gyfer pob llwybr.

Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd TrC: “Mae gennym lawer iawn o waith i’w wneud i greu Metro De Cymru ac mae hwn yn gam hollbwysig yn y datblygiad.

“Rydyn ni’n deall bod hwn yn gyfnod hir o gau ffyrdd, ond does dim modd osgoi hyn oherwydd cymhlethdod gwaith adeiladu’r twnnel. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’r awdurdodau lleol i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o darfu.

Byddwn yn ymdrechu i weithio’n gyfrifol, gan sicrhau bod safleoedd yn cael eu rheoli’n dda a bod ein pobl yn ystyriol o gymdogion.

Bydd gorsaf drenau Ffynnon Taf yn aros ar agor i’r cyhoedd drwy gydol y gwaith a bydd mynediad iddi drwy fynedfa o Ffordd Moy/Ffordd Bleddyn o’r gogledd.

Bydd gwaith hefyd yn cael ei wneud i osod draeniau dwfn yn yr ardal tra bydd maes parcio gorsaf Ffynnon Taf yn cael ei addasu.

Dylai aelodau o’r cyhoedd sydd ag unrhyw gwestiynau ymweld â trc.cymru/cysylltu-a-ni neu ffonio 03333 211 202.

 

Ffordd Bleddyn tunnel

Image showing the proposed tunnel

 

Ffordd Bleddyn road closure vehicle diversion-2

Map of the Ffordd Bleddyn road closure vehicle diversion, please contact customer.relations@tfwrail.wales if you need any help

 

Ffordd Bleddyn road closure pedestrian and cycle diversion-2

Map of the Ffordd Bleddyn road closure pedestrian and cycle diversion, please contact customer.relations@tfwrail.wales if you need any help