Gwasanaethau Aberdâr
Bydd y gwasanaethau rhwng Aberdâr a Chaerdydd yn rhedeg yn ôl yr arfer i Radyr ond yna byddant yn teithio i Caerdydd Canolog ar hyd Lein y Ddinas, gan alw yn Danescourt, Y Tyllgoed, Parc Waun-Gron a Pharc Ninian. Ar ôl cyrraedd Caerdydd Canolog, bydd y trên yn parhau ar ei daith i Heol y Frenhines Caerdydd, Cathays a Llandaf, ac ymlaen i Merthyr Tudful.
Bydd teithiau i ac o Gaerdydd Canolog yn cymryd yr un amser ag y maent ar hyn o bryd. I'r teithwyr hynny sy'n teithio i Llandaf, Cathays neu Heol y Frenhines Caerdydd, mae dau opsiwn ar gael:
- Aros ar y trên ar ôl Caerdydd Canolog, gan y bydd yn parhau i Heol y Frenhines Caerdydd, Cathays, a Llandaf.
- Newid yng ngorsaf Pontypridd ar gyfer y gwasanaeth sy'n teithio i Gaerdydd a fydd yn gadael tua 5 munud yn ddiweddarach. Mae’r gwasanaeth hwn yn cychwyn ym Mhontypridd a bydd yn teithio i Gaerdydd drwy Landaf, Cathays, Heol y Frenhines Caerdydd a Bae Caerdydd.
Os ydych yn newid ym Mhontypridd i wasanaeth Caerdydd, bydd amseroedd teithio o Aberdâr i Landaf, Cathays a Heol y Frenhines Caerdydd yn cymryd yr un amser â heddiw.
Bydd gwasanaethau Caerdydd i Aberdâr hefyd yn rhedeg drwy Lein y Ddinas, gan deithio o Gaerdydd trwy Cathays, Heol y Frenhines Caerdydd, Caerdydd Canolog, Parc Ninian, Parc Waun-gron, Y Tyllgoed, Danescourt, Radur ac ymlaen i Aberdâr.
Ni fydd gwasanaethau Aberdâr a Merthyr yn parhau i deithio i Ben-y-bont ar Ogwr, Y Barri nac Ynys y Barri mwyach. Bydd angen i'r rhai sy'n dymuno teithio i'r cyrchfannau hyn newid yn Heol y Frenhines Caerdydd neu Gaerdydd Canolog.