Metro De Cymru - Rydym yn gweithio yn eich ardal

Metro De Cymru fydd yr uwchraddiad mwyaf i drafnidiaeth gyhoeddus yn Ne-ddwyrain Cymru ers cenhedlaeth. Bydd y system drafnidiaeth integredig hon o drenau, trenau tram, bysiau, cerdded, a seiclo yn darparu gwasanaeth modern y gall Gymru ymfalchio ynddo. Dros y blynyddoedd nesaf, mae gennym waith adeiladu, peirianneg, a seilwaith sylweddol i'w gwneud er mwyn uwchraddio'ch rhwydwaith trenau i fod yn barod ar gyfer y Metro, ac rydym wrthi'n gweithio yn eich ardal leol.

 

Cynnydd

Fel rhan o'n gwaith i gyflawni'ch Metro, byddwn yn parhau â'n gwaith i adeiladu pont droed hygyrch newydd yng ngorsaf Fernhill. Ym mis Ebrill 2023, gwnaethom gau'r ddwy groesfan sy'n agos at yr orsaf: Glenboi (croesfan gorsaf Fernhill) a Bruces Upper. Mae hyn wedi'n galluogi i barhau â'n gwaith trawsnewid ac uwchraddio llinell Aberdâr, sy'n cynnwys gosod system signalau a chyfarpar llinellau uwchben a fydd yn trydaneiddio'r trenau tram newydd. Caiff pont droed hygyrch gorsaf Fernhill ei hadeiladu yn lle'r ddwy groesfan hyn a fydd yn cau'n barhaol.

Yn y cyfamser, mae gennym wasanaeth bysiau gwennol o 6:00 tan 21:00 i helpu pobl i groesi'r rheilffordd yn ddiogel. Mae copi o'r amserlen a roddom yn yr orsaf yn yr Hydref ar y dudalen olaf.

Mae'n gwaith diweddar yn Fernhill yn paratoi ar gyfer ein compownd dros dro yn Abercwmboi ac ar safle'r bont newydd. Rydym wedi bod wrthi'n cludo offer adeiladu hanfodol ar y safle, gan gynnwys 14,000 tunnell o gerrig.

Rydym hefyd wedi bod yn paratoi'r llawr yn agos at orsaf Fernhill, ar safle'r bont droed newydd. Mae hyn wedi cynnwys tynnu llystyfiant i ffwrdd, clirio pridd a gwaith draenio hanfodol er mwyn atal llifogydd.

Rydym wedi adeiladu Pwynt Mynediad i gerbydau a threnau er mwyn i'n timau gael mynediad at ochr ogleddol yr orsaf. Mae hyn yn meddwl ni fydd angen inni ddefnyddio'r ffordd cymaint i gael mynediad at y safle gwaith a fydd yn lleihau nifer y cerbydau gwaith yn mynd a dod.

Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda'r awdurdod cynllunio lleol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, i gael caniatâd cynllunio ar gyfer y bont newydd.

 

Yr hyn sydd ar y gweilch y Gwanwyn hwn

Gan fod bellach gennym ganiatâd cynllunio, byddwn yn dechrau'r prif waith sef gosod pont droed ym mis Ebrill 2024, gan ddechrau â gwaith stancio fel sylfaen i'r bont droed newydd. Gall waith stancio fod yn swnllyd gan fod yn rhaid gwthio'r postyn/seilwaith yn ddwfn i'r pridd gan ddefnyddio peirianwaith trwm. Rydym yn bwriadu gwneud yr holl waith stancio yn ystod y dydd er mwyn osgoi unrhyw darfu.

Wrth i'r gwaith yng ngorsaf Fernhill gynyddu dros y misoedd nesaf, bydd mwy o fynd a dod ar safle compownd Abercwmboi. Lle'n bosib, caiff offer adeiladu hanfodol ar gyfer y gwaith hwn ei gludo yn ystod y dydd er mwyn lleihau'r tarfu. 

 

Pa olwg fydd ar y bont droed?

Bydd y bont droed yn werdd gyda rampiau a grisiau ar bob ochr y platfformau er mwyn bod yn hygyrch i bawb. Bydd ganddi hawl tramwy cyhoeddus ac felly bydd ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, a bydd o dan ofal Trafnidiaeth Cymru. Bydd Teledu Cylch Cyfyng ar waith yn yr orsaf er mwyn monitro pob dim.

Dengys y delweddau isod y cynlluniau ar gyfer y bont droed:

Drawing of Fernhill footbridge

Delwedd o Bont Droed Fernhill

 

Pont droed debyg

Mae gan orsaf Cyffordd Twnel Hafren bont droed debyg. Mae'r delweddau isod yn rhoi syniad o sut olwg fydd ar bont droed gorsaf Fernhill:

Photograph of Severn Tunnel Junction bridge

Pont Droed Cyffordd Twnel Hafren

Photograph of Severn Tunnel Junction bridge

 

Gweithio'n gyfrifol

Ochr yn ochr â'n partneriaid, rydym yn bwriadu gweithio'n gyfrifol, gan sicrhau bod rheolaeth dda dros ein safleoedd a bod ein cydweithwyr yn ystyriol o'n cymdogion. Rydym yn bwriadu cadw'r gymuned yn hysbys o unrhyw gynnydd ar waith allweddol rhwng nawr a dechrau'r Hydref pan rydym yn rhagweld cwblhau'r gwaith a gadael y safle. Byddwn yn rhoi dyddiad mwy cadarn ynglŷn â dyddiad gorffen ein gwaith yn fuan.

 

Digwyddiad galw heibio cymendol

I ddarganfod mwy am y cynllun, rydym wedi trefnu sesiwn galw heibio:

  • Lleoliad: Llyfrgell Aberpennar, Canolfan Pennar, Oxford Street, Aberpennar, CF45 3HD
  • Dyddiad: Dydd Llun 22 Ebrill
  • Amser: 17:00 i 20:00

Yn ystod y sesiwn galw heibio gallwn drafod manylion y gwaith arfaethedig gyda chi i sicrhau eich bod yn cael eich hysbysu'n llawn. Mae croeso i chi alw heibio i'n gweld unrhyw bryd rhwng 17:00 i 20:00.

 

Rhagor o wybodaeth

Mae'n tîm ar gael i siarad â chi 24/7, felly ffoniwch ni ar 03333 211 202. Fel arall, gallwch gysylltu â ni ar WhatsApp ar 07790 952 507 (07:00 - 20:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, 08:00 - 20:00 ddydd Sadwrn, a 11:00 - 20:00 ddydd Sul). Rydym yn derbyn niferoedd uchel o alwadau ffôn a negeseuon ond byddwn yn trosglwyddo'ch ymholiadau i'r tîm(au) cywir a fydd yn eich ateb cyn gynted â phosib.

Os hoffech ragor o wybodaeth neu hoffech dderbyn yr wybodaeth mewn fformat gwahanol, ewch i cysylltu â ni. Gallwch ddysgu mwy am ein gweledigaeth ar gyfer Metro De Cymru drwy fynd i Metro a mwy am ein gwaith adeiladu'r Metro ar Adeiladu ein Metro.

Ynghyd â Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i raglen uchelgeisiol o welliannau Metro a elwir yn Trawsnewidiad Llinellau Craidd y Cymoedd (LICYC). Ariannwyd y project trawsnewid hwn yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Fernhill shuttle bus poster