Gwaith yng ngorsaf Fernhill Cwestiynau Cyffredin

 

Pa waith ydyn ni’n ei wneud yng ngorsaf Fernhill?

Fel rhan o’n gwaith i ddarparu Metro De Cymru, rydyn ni’n adeiladu pont droed hygyrch newydd yng ngorsaf Fernhill. Bydd hyn yn rhoi ffordd ddiogel a hygyrch o groesi’r rheilffordd yn lle croesfan reilffordd yr orsaf.

Pryd fyddwch chi’n gweithio?

Er ein bod yn bwriadu gwneud llawer o waith yn ystod y dydd er mwyn osgoi tarfu, rhaid gwneud rhywfaint yn ystod y nos tra nad yw trenau'n rhedeg er mwyn sicrhau diogelwch ein cydweithwyr. Bydd ein gwaith gyda'r nos yn ein galluogi i symud deunyddiau ar draws y rheilffordd yn ddiogel. Ar hyn o bryd, mae'r gwaith nos yma wedi'i drefnu ar gyfer dyddiau Sadwrn ond rydym yn adolygu’r sefyllfa bob wythnos i sicrhau ein bod yn gweithio gyda'r nos dim ond pan fo angen.

Mae faint o waith y mae'n rhaid i ni ei wneud ar y safle hwn yn golygu na fydd yn bosibl rhoi gwybod i’r gymuned bob tro y byddwn yn gweithio gyda'r nos, fodd bynnag, byddwn bob amser yn anelu at weithio'n gyfrifol, gan sicrhau bod ein safleoedd yn cael eu rheoli'n dda a bod ein gweithwyr yn ystyriol o'n cymdogion wrth ymyl y cledrau.

Pam ydych chi wedi cau’r ddwy groesfan reilffordd yn Fernhill?

Ym mis Ebrill 2023, fe wnaethom gau’r ddwy groesfan reilffordd sydd wrth ymyl yr orsaf: Glenboi (croesfan gorsaf Fernhill) a Bruces Upper. Roedd hyn yn golygu ein bod wedi gallu bwrw ymlaen â’n gwaith i drawsnewid ac i uwchraddio rheilffordd Aberdâr, gan gynnwys:

  • Gosod system signalau wedi’i huwchraddio
  • Gwneud gwaith mawr ar y cledrau
  • Gosod Cyfarpar Llinellau Uwchben (OLE) a fydd yn rhoi’r pŵer i’r trenau trydan newydd
  • Trydaneiddio’r llinell yn llawn. Cafodd y gwaith hwn ei orffen ym mis Hydref 2023. 

Oherwydd bod llawer o waith peirianneg yn cael ei wneud yn Fernhill, gyda llawer o beiriannau’n symud o gwmpas, penderfynwyd nad oedd hi’n ddiogel cadw’r croesfannau ar agor i’r cyhoedd.

A fydd y croesfannau rheilffordd yn ailagor ar ôl gorffen y gwaith seilwaith?

Bydd y croesfannau rheilffordd yn aros ar gau. Rydyn ni wedi gwneud cais am orchymyn i gau a dargyfeirio Glenboi (yng ngorsaf Fernhill) a Bruces Upper yn barhaol dros y bont droed hygyrch newydd yn yr orsaf, a fydd yn cynnwys rampiau a grisiau.

Pam mae angen i chi gau’r croesfannau’n barhaol?

Bydd nifer y trenau a fydd yn mynd dros y croesfannau hyn yn dyblu, o 4 trên yr awr i 8. Mae hyn yn golygu y bydd trên yn pasio dros y ddwy groesfan bob 7.5 munud.

Ochr yn ochr â’r risg uwch hon oherwydd y nifer cynyddol o wasanaethau trên, bydd y trenau tram Metro newydd yn dawelach ac yn cyflymu’n gyflymach o lawer na’n trenau diesel presennol, sy’n cynyddu’r risg y gallai’r rheini sy’n defnyddio’r groesfan gael eu taro gan drên.

Er ein bod yn deall bod cau croesfan reilffordd yn effeithio ar y gymuned leol, ac mae’n benderfyniad nad ydym yn ei wneud yn ysgafn, dyma’r ffordd fwyaf effeithiol o leihau’r risg o ddamwain.

Sut mae croesi’r rheilffordd pan fydd y croesfannau rheilffordd ar gau?

Ers mis Ebrill 2023 pan gaewyd y croesfannau rheilffordd, rydyn ni wedi bod yn rhedeg gwasanaeth bws gwennol i helpu pobl i groesi’r rheilffordd yn ddiogel. Mae’r gwasanaeth bws gwennol hwn ar gael rhwng 6am a 9pm ac mae’n rhedeg rhwng gorsaf Fernhill ac Ysbyty Cwm Cynon, lle gall y cyhoedd wedyn gyrraedd y Parc Heddwch ac Ysgol Gyfun Aberpennar.

Mae amserlen y bws gwennol ar gael yn yr orsaf ac yn safle bws Ysbyty Cwm Cynon.

Pam na allwch chi gadw un o’r croesfannau ar agor wrth i chi adeiladu’r bont newydd?

Allwn ni ddim cadw croesfan reilffordd Glenboi ar agor gan ei bod yng ngorsaf Fernhill. Mae ôl troed y bont newydd dros y groesfan bresennol, sy’n golygu y bydd ein timau’n gweithio’n agos iawn at y groesfan reilffordd i greu sylfeini’r bont newydd.

Ers cau’r croesfannau ym mis Ebrill 2023, rydyn ni wedi bod yn ymchwilio i weld a oes modd i ni agor croesfan Bruces Upper yn ddiogel dros dro wrth i ni adeiladu’r bont newydd yng Ngorsaf Fernhill. Fodd bynnag, gan nad yw dyluniad y groesfan yn cyrraedd y safon wrth gymharu â nifer o groesfannau rheilffordd eraill ar linellau craidd y cymoedd, ac oherwydd ei bod bellach ar ddarn o reilffordd sy’n cael ei drydaneiddio, byddai angen gwelliannau diogelwch sylweddol - hyd yn oed i ailagor y groesfan dros dro. Hefyd, pe bai croesfan Bruces Upper yn cael ei hailagor tra bo croesfan Glenboi yn dal ar gau, byddai nifer a math y defnyddwyr yn wahanol iawn, gan gynyddu’r risg ymhellach.

Sut bydd y bont newydd yn edrych?

Bydd y bont droed yn cael ei pheintio’n wyrdd a bydd yn hollol hygyrch, gyda rampiau a grisiau bob ochr i’r platfformau. Bydd yn hawl tramwy cyhoeddus felly bydd ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos a bydd yn cael ei chynnal a’i chadw gan Trafnidiaeth Cymru.

Mae’r llun gyferbyn yn dangos dyluniad y bont droed.

Drawing of Fernhill footbridge

A fydd y bont newydd yn hollol hygyrch?

Rydyn ni’n deall bod y croesfannau rheilffordd yn rhoi llwybr hygyrch dros y rheilffordd. Felly, rydyn ni wedi ymrwymo i osod pont newydd sy’n hollol hygyrch yng ngorsaf Fernhill, dim ond ychydig fetrau o groesfan reilffordd Glenboi.

Bydd graddiant cyson i’r ramp sy’n arwain at led y bont, a bydd yn cydymffurfio’n llwyr â safonau modern a’r Ddeddf Cydraddoldeb.

1:16 fydd graddiant pob rhan o’r ramp, fel sy’n cael ei ddangos yn y llun gyferbyn.

Byddwn yn sicrhau bod y bont wedi’i goleuo’n dda a bod camerâu teledu cylch cyfyng yn gweld pob rhan ohoni, gan helpu defnyddwyr i deimlo’n ddiogel.
Fernhill bridge graphic

Pam mai dim ond un bont ydych chi’n ei chodi ond yn cau dwy groesfan reilffordd?

Hyn a hyn o le sydd o fewn ffiniau ein tir yn safle croesfan Bruces Upper i adeiladu pont droed sy’n hollol hygyrch. Hefyd, mae’r llwybr dros y rheilffordd yn Bruces Upper yn gorlifo’n rheolaidd yn ystod misoedd y gaeaf felly byddai angen gwneud llawer iawn o waith draenio er mwyn diogelu unrhyw strwythur newydd rhag llifogydd.

Mae Bruces Uchaf gwta 220m i ffwrdd o orsaf Fernhill a’r bont newydd a fydd yn cael ei chodi. Rydyn ni’n credu mai’r ffordd fwyaf priodol o ddefnyddio arian cyhoeddus yw adeiladu un bont sy’n hollol hygyrch.

A fydd hawl tramwy cyhoeddus yn parhau yn y lleoliad hwn?

Bydd. Er y bydd yr Hawliau Tramwy Cyhoeddus dros y croesfannau rheilffordd yn cael eu cau/yn dod i ben, bydd Hawl Tramwy Cyhoeddus yn cael ei dargyfeirio dros y bont droed hygyrch newydd yn yr orsaf. Bydd hyn yn golygu bod y bont ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Pam na allwch chi godi pont lai?

Oherwydd ein bod yn dargyfeirio’r Hawl Tramwy Cyhoeddus dros y bont newydd, rhaid iddi fod yn hollol hygyrch a chydymffurfio â mynediad heb risiau.

Oherwydd hyn, mae’n rhaid i ni gynnwys ramp a grisiau yn y dyluniad. Gan fod angen i’r rampiau fod â graddiant hygyrch, 1:16 yn y dyluniad hwn, mae angen iddyn nhw fod yn hir er mwyn cyrraedd uchder y bont gan fod angen i’r bont fod yn ddigon uchel i roi lle i’r llinellau pŵer uwchben redeg oddi tani.

Pam gosod pont ac nid tanffordd?

Fe wnaethon ni edrych ar botensial adeiladu tanffordd o dan y rheilffordd, fodd bynnag, cafodd hyn ei ddiystyru ar gam cynnar iawn wrth edrych ar ein hopsiynau yn y safle hwn.  Mae twnelu tanffyrdd - yn enwedig o dan ffyrdd a rheilffyrdd - yn brosiectau peirianneg sifil mawr.  Mae angen llawer o dir o boptu i sicrhau graddiant cyson i mewn ac allan o’r danffordd, er mwyn sicrhau ei bod yn hygyrch, yn ogystal â phosibilrwydd dargyfeirio cyfleustodau fel rhan o’r gwaith adeiladu.

Yn hollbwysig, mae’r ardal hon hefyd yn cael llifogydd yn aml sy’n uwch na lefel y rheilffordd, felly byddai’n rhaid i ni gloddio i lawr i’r ddaear yn helaeth a byddai hefyd angen gorsaf bwmpio i ollwng dŵr i’r afon.

Mae tanffyrdd hefyd yn gallu denu ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrwy ymchwil rydyn ni wedi canfod bod pobl yn aml yn teimlo’n anniogel wrth eu defnyddio.

A fydd y cyhoedd yn cael eu diogelu rhag y llinellau pŵer uwchben wrth ddefnyddio’r bont?

Byddant. Mae’r dyluniad yn cynnwys parapetau uchel (rhwystrau diogelwch) ar ddec y bont, a fydd yn sicrhau na fydd neb yn gallu ymestyn drosodd a dod yn agos at y llinellau pŵer uwchben a fydd yn rhedeg o dan y bont.

Pam na allwch chi gadw’r croesfannau ar agor a’u huwchraddio, fel yng Nghwm-bach?

Lle bynnag y bo modd wrth ddarparu gwasanaeth rheilffordd cyflymach neu amlach, ein nod yw cau croesfannau rheilffordd a rhoi dewis arall diogel yn lle hynny. Mae pob safle croesfan reilffordd yn gwbl unigryw, ac mae’n rhaid i ni wneud penderfyniadau ar sail nifer o ffactorau gan gynnwys math a lefelau’r camddefnydd blaenorol, nifer a nodweddion y bobl sy’n croesi drosti bob dydd, cyflymder y trenau sy’n pasio heibio, tir a thopograffeg (sy’n gallu effeithio ar i ba raddau mae pobl yn gweld y groesfan ac oddi arni) a pha mor aml mae trenau’n pasio.

Yn achos croesfan reilffordd Cwm-bach, mae Hawl Tramwy Cyhoeddus yn mynd drosti.  Gan nad oes croesfan ddiogel arall gerllaw i fod yn ddargyfeiriad, nid ydym yn gallu cau’r groesfan a dargyfeirio’r hawl tramwy.  Roedden ni wedi ystyried cau’r groesfan ac adeiladu pont newydd yn y safle ond gan nad oes tir ar gael i ni, dydyn ni ddim yn gallu adeiladu un. Felly, er mwyn sicrhau bod y gymuned yn cadw’r cyswllt pwysig hwn, rydyn ni wedi cau’r groesfan dros dro i’w huwchraddio ac rydyn ni newydd osod llawer o nodweddion diogelwch gwell, gan gynnwys dec gwrth-lithro newydd ar y groesfan, arwyddion a rhwystrau newydd.

Nid ydym yn gallu gwneud gwaith uwchraddio tebyg yng nghroesfannau Glenboi na Bruces Upper gan fod strwythurau newydd y cyfarpar llinellau uwchben ar hyd ochr y rheilffordd hefyd wedi golygu na fyddai aelodau o’r cyhoedd yn gallu gweld mor bell i weld os oes trenau’n dod.

Mae hanes hir o dresmasu ar groesfannau Glenboi a Bruces Upper, gydag aelodau o’r cyhoedd yn mynd i ochr y rheilffordd yn rheolaidd gan ddefnyddio’r groesfan ac yna cerdded i lawr ar hyd ochr y cledrau i gyrraedd pen gogleddol y platfform yn Fernhill.

Pe bai croesfan Bruces Upper yn cael ei hailagor tra bo croesfan Glenboi yn dal ar gau (neu i’r gwrthwyneb), byddai nifer a math y defnyddwyr yn dra gwahanol ac roedd asesiad risg diweddar yn rhagweld y byddai llawer mwy yn ei defnyddio a fyddai’n golygu na fyddai’r peryglon cyffredinol i’r cyhoedd a fyddai’n ei defnyddio ac i’r teithwyr trên yn dderbyniol o safbwynt diogelwch.

Yn olaf, gan fod tir ar gael i ni yng Ngorsaf Fernhill, roedden ni’n awyddus i fwrw ymlaen â’r ateb mwyaf diogel ac adeiladu pont hygyrch newydd dros y rheilffordd.

Sut bydd y bont yn cael ei hadeiladu?

Rydyn ni eisoes wedi dechrau’r gwaith paratoi i godi’r bont newydd. Mae hyn yn cynnwys cael gwared ar lystyfiant, clirio pridd a gwaith draenio hanfodol i atal llifogydd yn yr orsaf.

Rydyn ni hefyd wedi gosod Pwynt Mynediad Ffyrdd-Rheilffyrdd (RRAP) i’r gogledd o’r orsaf, gan ganiatáu i’n timau gael mynediad i’r safle gwaith. Mae hyn yn golygu bod y tîm yn gallu danfon deunyddiau i’r safle ar drenau a dadlwytho’r deunyddiau gan ddefnyddio'r pwynt mynediad ffyrdd-rheilffyrdd, sy’n golygu na fydd angen i ni ddanfon cynifer o ddeunyddiau ar hyd y ffyrdd.

I greu sylfeini’r strwythur, byddwn ni’n gosod seilbyst. Mae hyn yn cynnwys dirgrynu neu forthwylio seilbost yn ddwfn i’r ddaear, sy’n creu sylfeini’r bont. Dim ond yn ystod y dydd y byddwn ni’n gwneud y gwaith yma.

Mae’r bont yn cael ei hadeiladu fesul adran mewn cyfleuster ar wahân, a bydd yn cael ei danfon i’r safle a’i rhoi at ei gilydd.

Gan y bydd rhagor o waith yng ngorsaf Fernhill dros y misoedd nesaf, bydd safle’r compownd yn Abercwmboi yn brysurach wrth i’r gwaith gosod ddechrau. Pan fo’n bosibl bydd y deunyddiau adeiladu hanfodol ar gyfer y cam hwn o’r gwaith yn cael eu danfon yn ystod y dydd er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl.

Rhagor o wybodaeth

Mae ein tîm ar gael i siarad â chi 24/7, felly mae croeso i chi ein ffonio ar 03333 211 202. Neu gallwch gysylltu â ni drwy WhatsApp ar 07790 952 507 (07:00 - 20:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener, 08:00 - 20:00 ar ddydd Sadwrn, a 11:00 - 20:00 ar ddydd Sul). Mae llawer iawn o bobl yn cysylltu â ni ond gallwn eich sicrhau y byddwn yn anfon eich ymholiadau ymlaen at y tîm/timau cywir a fydd yn dod yn ôl atoch chi cyn gynted â phosibl.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth neu gael yr wybodaeth mewn fformat arall, ewch i trc.cymru/cysylltu-a-ni. I gael rhagor o wybodaeth am ein gweledigaeth ar gyfer Metro De Cymru, ewch i trc.cymru/prosiectau/metro, a cheir rhagor o wybodaeth am ein gwaith yn adeiladu'r Metro yn trc.cymru/prosiectau/metro/adeiladu-ein-metro.

Mae Llywodraeth Cymru a TrC wedi ymrwymo i raglen uchelgeisiol o welliannau i’r Metro, sef Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd. Mae’r prosiect trawsnewid hwn wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.