Ewch i'r tabl cynnwys

Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 10 Tachwedd 2023

Submitted by Content Publisher on

TfW Rail Limited - Cofnodion y Bwrdd

10 Tachwedd 2023

09:00 - 14:30

Lleoliad: St Patricks House, Caerdydd ac ar-lein

 

Yn bresennol

James Price (Cadeirydd), Heather Clash, Jan Chaudhry Van der Velde, Marie Daly ac Alexia Course a Peter Strachan.

 

Hefyd yn bresennol

Julian Edwards (Cyfarwyddwr Anweithredol Cysylltiol) a Ross Whiting (Ysgrifennydd).

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd.

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dim.

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod yn agored.

 

1c. Datgan Buddiant

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

2. Sylw i ddiogelwch

Ystyriodd y Bwrdd Adroddiad RAIB ar achosion gwrthdrawiad Cyffordd Twnnel Salisbury 2021 a gwersi y gellid eu rhoi ar waith gan gynnwys mesurau lliniaru adlyniad gwael ac argymhellion ynghylch y cerbydau, lle mae tebygrwydd i’r hyn a weithredir gan Rheilffyrdd TrC.

 

3. Sylw i Gwsmeriaid

Croesawodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf ar Brosiect Sero a oedd yn dangos arwyddion o newid cynaliadwy. Rhoddwyd ystyriaeth i sut i osgoi llithro’n ôl, sicrhau newid meddylfryd parhaus, annog hunan-wasanaeth, awtomeiddio ymholiadau ailadroddus e.e. ad-daliadau am oedi, a sut mae’r Bwrdd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf. Cytunwyd y byddai data cwynion cwsmeriaid yn cael eu cynnwys yn y Dangosyddion Perfformiad Allweddol [Cam Gweithredu Marie Daly].

 

4. Cofnodion a Chamau Gweithredu

Cymeradwyodd y Bwrdd gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2023 fel cofnod cywir, gyda man ddiwygiad o dan eitem 5.2. Nodwyd a diwygiwyd y log camau gweithredu diweddaraf.

 

5. Achos Busnes Capex Class 230

Ymunodd Rob Hale a Ryan Williams a'r cyfarfod.

Rhoddwyd trosolwg i'r Bwrdd o'r achos busnes. Roedd yn canolbwyntio ar wariant cyfalaf gan y byddai gwaith cynnal a chadw yn cael ei ystyried ar wahan. Yr argymhelliad oedd y dylid cymeradwyo'r buddsoddiad yn yr unedau Class 230.

Trafododd yr aelodau y materion canlynol:

  • Cydbwyso'r angen i sicrhau buddsoddiad mewn unedau Class 230 yn erbyn yr hyn sy'n debygol o'u disodli yn y dyfodol.
  • Pwysigrwydd buddsoddi i sicrhau gwasanaeth dibynadwy gan ddefnyddio unedau Class 230 yn unig. Nodwyd na fyddai unrhyw fuddsoddiad yn golygu y byddai angen cerbydau eraill fel unedau ClasslS0 a Class 197 i sicrhau dibynadwyedd ar reilffordd Wrecsam-Bidston. Gallai hyn gael sgil effeithiau ar wasanaethau era ill.
  • A fyddai modd dod o hyd i unedau eraill i gymryd lie neu i ategu unedau Class 230 er mwyn gwella dibynadwyedd. Nodwyd mai'r buddsoddiad arfaethedig fyddai'r opsiwn rhataf heb orfod aberthu ar yr amserlenni.
  • Gwelliannau a wnaed i unedau Class 230 a sut mae buddsoddiad ychwanegol yn adeiladu ar hyn ac yn arwain at elw ychwanegol ar fuddsoddiad ar unedau Class 230 drwy wella eu dibynadwyedd a'u gwerth gweddilliol.
  • TYNNWYD
  • A fyddai buddsoddi mewn dwy yn hytrach na thair uned yn well na phrofi'r manteision. Pe bai'r Bwrdd yn cymeradwyo'r buddsoddiad llawn, nodwyd y gallai'r drydedd uned o fuddsoddiad fod yn destun penderfyniad o blaid neu yn erbyn gan y Pwyllgor Buddsoddi unwaith y byddai'r manteision a'r gost yn glir.
  • Pa lefel o dwf refeniw y gel lid ei disgwyl pe bai dibynadwyedd yn cynyddu. Cytunwyd y byddai Alexia Course a'i thim yn modelu refeniw [Cam Gweithredu - Alexia Course].
  • Sut mae bodloni'r gwariant cyfalaf arfaethedig gan nad oedd y buddsoddiad yn y gyllideb na'r rhagolwg ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2024.
  • Yr angen i sicrhau gwerth am arian ar gyfer cynnal a chadw. Derbyniwyd cynnig i ddefnyddio arbenigwr peirianneg cynhyrchu annibynnol i adolygu'r prosesau cynnal a chadw a sefydlu gwell effeithlonrwydd a gwerth am arian.

Cymeradwyodd y Bwrdd yr achos busnes.

Gadawodd Rob Haley cyfarfod.

 

6. Argaeledd Fflyd a'i Faint yn y Dyfodol

Gofynnwyd i'r Bwrdd ystyried a chynnig cwestiynau am argaeledd fflyd a hyder tymor hwy yn y cymarebau argaeledd. Rhodwyd trosolwg iddynt o'r sefyllfa bresennol, gan nodi lefelau uchel o anwadalrwydd ac adferiad cyflym ar ol achosion o darfu. Teimlwyd bod y niferoedd presennol y fflyd yn gywir, ond nodwyd bod risgiau'n bodoli yn y dyfodol, yn enwedig o ran unedau Class197 a data a oedd yn awgrymu gofynion ychwanegol yn y dyfodol.

Cytunwyd y byddai'r cymarebau argaeledd ar gyfer y fflyd yn y cyflwr terfynol ar gyfer Rheilffordd Cymru a'r Gororau yn cael eu hadolygu yn eu cyfanrwydd, gan ystyried penderfyniadau optimeiddio amserlenni Bullseye, i sicrhau eu bod yn realistig ac nad ydynt yn rhy optimistaidd. [Cam Gweithredu Jan Chaudhry-Van der-Velde].

Gadawodd Ryan Williams y cyfarfod. Bu awr o fw/ch yn y cyfarfod i gynnal gwasanaeth Dydd y Cofio.

 

7. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithrediadau

Derbyniodd a nododd y Bwrdd drosolwg o adroddiad y Prif Swyddog Gweithrediadau. Roedd y trosolwg yn canolbwyntio ar y materion canlynol:

  • Pwysau sydd i ddod yn y fflyd ac amcangyfrifon, gan gynnwys sut i fynd i'r afael a hyn heb gael effeithiau niweidiol ar hyfforddiant i yrwyr ar unedau mwy newydd. Awgrymodd yr aelodau atebion posibl gan gynnwys defnyddio unedau Class 175, Class 197, neu wasanaethau siarter posibl.
  • Effaith y gwaith ar reilffordd Glynebwy a sut mae gwaith ehangach ar seilwaith yn effeithio ar argaeledd y fflyd.
  • Gwella'r sefyllfa o ran unedau MklV a risgiau posibl. TYNNWYD.
  • Systemau trin y cledrau a systemau WSP a oedd ar waith yn ystod tymor cwymp y dail. Nodwyd bod trafodaethau'n cael eu cynnal gyda NR ar yr hyn sy'n gwneud safle'n un ag adlyniad isel.
  • Roedd dau SPAD categori Ayn ystod y cyfnod, a gwrthdrawiad ar gyflymder isel rhwng uned Class 175 ac uned Class 158 wrth nesau at Dreganna yn ystod gwaith caniataol, ac roedd ymchwiliadau'n cael eu cynnal. Nid oedd unrhyw anafiadau a chafodd y man ddifrod ei drwsio ar y safle.
  • Y wybodaeth ddiweddaraf ar Fynwent y Crynwyr nad oedd wedi agor eto oherwydd materion munud olaf ynghylch caniatad cynllunio. Y nod newydd oedd agor yn ystod wythnos gyntaf mis lonawr 2024.
  • TYNNWYD.

 

7.1 Adroddiad Dangosyddion Perfformiad Allweddol Strategol

Nododd y Bwrdd yr adroddiad. Roedd stormydd diweddar wedi achosi problemau perfformiad dros dro, ond roedd y darlun hirdymor yn dda.

 

7.2 Adroddiad Sicrhau Diogelwch

Nododd y Bwrdd yr adroddiad. Gwnaed ymholiad mewn perthynas ag offeryn a adawyd mewn twnnel a achosodd aflonyddwch.

 

8. Dangosfwrdd Risg Rheilffyrdd

Derbyniodd a nododd y Bwrdd drosolwg o'r dangosfwrdd risg. Mae'r dangosfwrdd wedi cael ei gynnal yn ddiweddar i adolygu risgiau a'r ffocws cychwynnol oedd golwg o'r brig i lawr ar risgiau mawr.

Trafododd yr aelodau'r dangosfwrdd, gan nodi bod y prif risgiau'n cynnwys cyfyngiadau cyllido, diffyg twf refeniw, ansicrwydd ynghylch prisiau tocynnau, perfformiad gwasanaeth, ffactorau allanol, a'r gadwyn gyflenwi. Nodwyd pryder bod gormod o fanylion a gormod o risgiau’n cael eu cyflwyno i’r Bwrdd, a bod rhai wedi dyddio neu’n fusnes fel arfer.

Cytunodd y Bwrdd y byddai cyfarfod yn cael ei gynnal rhwng Marie Daly, Jan Chaudhry-Van der Velde, Alexia Course a Leyton Powell i drafod rheoli risg [Cam Gweithredu - Marie Daly, Jan Chaudhry Van der Velde, Alexia Course] . Fe wnaeth y Bwrdd hefyd argymell cael trafodaeth ehangach ym Mwrdd TrC a Thîm Arwain Gweithredol TrC ynghylch rheoli risg. 

 

9. Diweddariad ar Farchnata

Ymunodd Lewis Brencher â’r cyfarfod.

Nododd y Bwrdd ddiweddariad marchnata a oedd yn cynnwys TAM a chyfleoedd, gwariant marchnata yn seiliedig ar elw, cyfleoedd ar arfordir Gogledd Cymru, a digwyddiadau.

TYNNWYD

 

10. Diweddariad masnachol

Nododd a derbyniodd y Bwrdd drosolwg o’r diweddariad masnachol. TYNNWYD. oedd y diweddariad yn cynnig golwg tua’r dyfodol, gan gynnwys uchafbwynt y prosiect a chynnal dadansoddiad o ran ei effeithiau. Roedd cam agored y cynllun peilot PAYG ar fin dechrau, ond byddai GWR y tu hwnt i’r cwmpas. Nodwyd y byddai diwygiadau i’r cynnig prisiau tocynnau rheoledig yn cael ei gyflwyno unwaith eto i’r Bwrdd.

Trafododd yr aelodau’r dull prisiau a newidiadau posibl yn y ffordd y byddant yn cael eu rheoleiddio yn y dyfodol gan yr Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru.

 

11. Adolygiad ariannol

Nododd y Bwrdd yr adolygiad ariannol, a oedd yn pwysleisio cymhorthdal refeniw ffafriol, setlo hawliadau atodlen 4 hanesyddol gyda dau arall i’w setlo, sicrwydd, diwedd blwyddyn, hyder i gynnal canlyniadau yn debyg i R2, newidiadau o ran dyfarniad cyflog, a risgiau. TYNNWYD.

Nodwyd y byddai trafodaethau’n cael eu cynnal yn y dyfodol ar Atodlen 4 ac Atodlen 8 ond y byddent yn debygol o aros yng nghyfundrefn Atodlen 4 Network Rail ond yn dod allan ohoni o ran rhwydwaith Llinellau Craidd y Cymoedd. Byddai hyn yn golygu y byddai angen ysgwyddo’r effaith ar refeniw a chostau adnewyddu rheilffyrdd ar gyfer eiddo Llinellau Craidd y Cymoedd.

Trafododd y Bwrdd brosiectau, gwaith sy’n mynd rhagddo gyda’r gyllideb rheilffyrdd v2 a sesiynau adolygu gan gymheiriaid, gwybodaeth gynyddol am gyllid, a’r posibilrwydd y gallai disgwyliadau refeniw fod yn is nag y dylent fod oherwydd gwelliannau arfaethedig mewn capasiti ac y gallai fod ystod i’r refeniw.

Gadawodd Stephanie Raymond y cyfarfod.

 

12. TrC 2.0

Derbyniodd a nododd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf ar TrC 2.0, gan gynnwys y posibilrwydd o ail-frandio a’r hyn sydd angen ei wneud ar gyfer 2026. Cytunwyd y dylid anfon unrhyw nodiadau ac adborth at Marie Daly.

 

13. Trawsnewid Swyddfeydd Tocynnau

Derbyniodd a nododd y Bwrdd drosolwg o’r papur, a oedd yn canolbwyntio ar waith a oedd yn cael ei wneud am y model adnoddau, yr angen i greu atebion ar y cyd, a rheolaeth a chyfathrebu sensitif. Trafododd yr aelodau pa newidiadau fyddai’n briodol a pha opsiynau oedd ar gael, a chysylltiadau â’r strategaeth ddi-arian.

Gadawodd Heather Clash y cyfarfod.

 

14. Cyflog

Derbyniodd a nododd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau a chytundebau cyflog a oedd wedi’u cyflawni. Byddai rhagor o drafodaethau’n cael eu cynnal a byddai cytundebau’n cael eu cyflwyno i’r Bwrdd eu cadarnhau.

 

15. Unrhyw Fater Arall

Nododd un aelod fod glanhau yn un ffactor cyffredin sy’n arwain at gwynion. Clywodd y Bwrdd bod archwiliad dwfn wedi’i drefnu i ddeall a datrys hyn.

 

Gan nad oedd unrhyw fater arall, diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cyfraniadau a daeth y cyfarfod i ben.