Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 13 Hydref 2023
TfW Rail Limited - Cofnodion y Bwrdd
13 Hydref 2023
09:00 - 14:00
Lleoliad: Llys Cadwyn, Pontypridd, ac ar-lein
Yn bresennol
James Price (Cadeirydd), Heather Clash, Jan Chaudhry Van der Velde, Marie Daly ac Alexia Course a Peter Strachan.
Hefyd yn bresennol
Julian Edwards (Cyfarwyddwr Anweithredol Cysylltiol) a Jeremy Morgan.
Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd.
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Dim.
1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod yn agored.
1c. Datgan Buddiant
Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
2. Sylw i ddiogelwch
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am Evotix, y system cronfa ddata diogelwch sydd wedi cael ei chyflwyno ar draws TrC ers diwedd mis Gorffennaf. Mae’r system yn adrodd ar ddamweiniau, digwyddiadau, arolygiadau ac archwiliadau ac mae’n rhoi cyfle i gael dadansoddiad a gwybodaeth fanwl.
3. Sylw i gwsmeriaid
Nododd y Bwrdd gynnydd yn erbyn ymrwymiad i wella’r ddarpariaeth ar gyfer y giatiau ar draws y rhwydwaith drwy gyfnod prawf o dri mis. Nododd y Bwrdd y cynnydd cyffredinol yn y ddarpariaeth ar gyfer y giatiau a’r budd net sy’n arwain at warchodaeth refeniw fwy cynhwysfawr. Croesawodd y Bwrdd ganlyniadau’r treial hyd yma a chytunodd ar yr angen am gynllun cyfathrebu mwy penodol sy’n cysylltu â thocynnau cosb [Action Marie Daly].
4. Cofnodion a Chamau Gweithredu
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod ar 15 Medi 2023, a nodwyd y Cofnod Camau Gweithredu diweddaraf. Gofynnodd y Bwrdd am drafodaeth gyda’r Adran Drafnidiaeth ynghylch peidio â chael unrhyw iawndal am weithredu diwydiannol yn Lloegr sy’n effeithio ar y rhwydwaith [Action Alexia Course].
5. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithrediadau
Derbyniodd a nododd y Bwrdd drosolwg o adroddiad y Prif Swyddog Gweithrediadau (Cyfnod y Rheilffordd 09 (23/24) a oedd wedi'i gynnwys yn y pecyn. Roedd yr uchafbwyntiau'n cynnwys:
- TYNNWYD
- Yn gyffredinol, mae'r perfformiad yn parhau ar lwybr sy'n gwella ond mae bodlonrwydd cwsmeriaid wedi dirywio. Croesawodd y Bwrdd y ffaith bod perfformiad Llinellau Craidd y Cymoedd yn 'wyrdd' am sawl mis.
- TYNNWYD
- Mae materion sy'n ymwneud â chriwiau trenau dan reolaeth ond mae problemau gyda cherbydau'n dal i fodoli. TYNNWYD. Fodd bynnag, dylai'r problemau leddfu gyda'r gwaith o glirio'r ffordd i Gaerfyrddin sydd ar fin digwydd.
- TYNNWYD
5.1 Adroddiad Dangosyddion Perfformiad Allweddol Strategol
Nododd y Bwrdd yr adroddiad.
5.2 Adroddiad Sicrhau Diogelwch
Nododd y Bwrdd fod pedwar marwolaeth ar y rhwydwaith yn ystod Cyfnod y Rheilffyrdd 06 (23/24). Nid oes unrhyw dueddiadau o ran lleoliad y digwyddiadau wedi cael eu nodi ac mae pob un yn wahanol o ran amgylchiadau a demograffeg. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda Network Rail (NR), Amey Infrastructure Wales (AIW), Heddlu Trafnidiaeth Prydain (BTP) a'r Samariaid i ganfod unrhyw gyfleoedd i liniaru. Nododd y Bwrdd y bydd Pwyllgor lechyd, Diogelwch a Lles Bwrdd TrC yn cynnal archwiliad manwl mewn perthynas ag atal hunanladdiad yn ei gyfarfod nesaf.
5.3 Dangosfwrdd Risg Rheilffyrdd
Nododd y Bwrdd y dangosfwrdd. Nodwyd bod angen adolygu nifer o risgiau. Cytunwyd i edrych yn fanylach yn y cyfarfod nesaf.
7. Diweddariad marchnata
Ymunodd Stephanie Raymond a Lewis Brencher a'r cyfarfod.
Nododd y Bwrdd y diweddariad marchnata a bod ffigurau o flwyddyn i flwyddyn yn dangos bod twf refeniw o £2.13m wedi cael ei briodoli i farchnata, ac am y cyfnod cyntaf eleni, bod y duedd hon o ran twf yn is na'r rhagolygon o - £0.03m. Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrch a oedd yn ceisio cymell cwsmeriaid i ddefnyddio gwasanaethau TAM; mesurau perfformiad; a chynlluniau ar gyfer gwasanaethau Dosbarth Cyntaf. Cytunodd y Bwrdd y dylai'r dull strategol o farchnata fod yn llai goddefol.
Cytunodd y Bwrdd i archwilio'r manteision o ddefnyddio technegau marchnata arloesol ac i'w drafod ymhellach yng nghyfarfod nesaf y Grwp Llywio Refeniw [Action Marie Daly/Lewis Brencher].
Nododd y Bwrdd y cynnig Dosbarth Cyntaf a chytunodd y byddai hyn yn cael ei gynnwys yn yr adolygiad MKIV sy'n mynd rhagddo. [Action Julian Edwards]. Cytunodd y Bwrdd i ddechrau rheoli refeniw gwasanaethau MKIV o ddydd Mercher 18 Hydref ymlaen.
8. Diweddariad masnachol
Nododd y Bwrdd yr adroddiad masnachol ar gyfer y cyfnod blaenorol a thrafododd yr angen am gyflymder, sicrwydd ac arloesi er mwyn sicrhau gwell perfformiad. Roedd y Bwrdd yn annog risg wedi'i reoli'n dda ac adolygiadau byw o fentrau. Cytunwyd y dylid cyflwyno data yn unol a'r llwybr a ddilynir [Action Alexia Course]. Cymeradwyodd y Bwrdd y defnydd o brisio a llaw.
TYNNWYD
Cafwyd trafodaeth am opsiynau ar gyfer lleihau'r niferoedd sy'n teithio heb docyn drwy gyflwyno dull mwy penderfynol y gellir ei roi ar waith yn gyflym. Cytunwyd i drafod y mater yn fanwl yng nghyfarfod nesaf y Grwp Llywio Refeniw.
Gadawodd Lewis Brencher y cyfarfod.
9. Adolygiad ariannol
TYNNWYD
Gadawodd Stephanie Raymond y cyfarfod.
10. Hyfforddiant Trenau Class 756
Ymunodd Dan Tipper a Rob Hale a'r cyfarfod.
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am hyfforddiant gyrwyr tenau Class 756. Roedd y Bwrdd yn awyddus i sicrhau darpariaeth ar gyfer Eisteddfod 2024 a chytunodd y dylid datblygu cynllun penodol [Action Jan Chaudhry Van-der-Velde].
Gadawodd Dan Tipper a Rob Haley cyfarfod.
Gan nad oedd unrhyw fater arall, diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cyfraniadau a daeth y cyfarfod i ben.