Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 23 Mehefin 2023
TfW Rail Limited - Cofnodion y Bwrdd
23 Mehefin 2023
09:30 - 13:00
Lleoliad: Tŷ San Padrig, Hybrid
Yn bresennol
James Price (Cadeirydd), Peter Strachan, Heather Clash, Marie Daly, ac Alexia Course.
Hefyd yn bresennol: Martyn Brennan (Eitem 5), Ryan Williams (Eitem 5), Stephanie Raymond (Eitemau 6-8), Lewis Brencher (Eitemau 6-13), Ross Whiting (Ysgrifennydd).
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Anfonodd Jan Chaudhry Van der Velde ei ymddiheuriadau. Cytunwyd i gysylltu ag aelodau’r bwrdd i weld gwrthdaro mewn dyddiaduron ac o bosibl i newid cyfarfodydd os oes angen [Cam gweithredu - Ysgrifennydd].
1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod yn agored.
1c. Datgan Buddiannau
Datganodd Peter Strachan fuddiant yn eitem 9, fel cynrychiolydd cwmni enwebedig Serco. Cytunwyd y byddai’n gadael y cyfarfod ar gyfer Eitem 9.
1d. Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod ar 26 Mai 2023, a chytunwyd ar fân newidiadau. Nodwyd a diwygiwyd y Log Camau Gweithredu diweddaraf.
2. Sylw i ddiogelwch
Nododd y Bwrdd y foment ddiogelwch yn y pecyn ar bwnc adar sy’n nythu.
3. Sylw i Gwsmeriaid
Nododd y Bwrdd y foment i gwsmeriaid yn y pecyn ar bwnc ymgyrch diogelwch cyhoeddus OLE, a chanfyddiadau papur RSSB diweddar ar effaith ymddygiad cwsmeriaid ar ddiogelwch, ac ymgyrch addysg bosibl.
4. TYNNWYD
TYNNWYD
5. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithrediadau - Cyfnod 02 (Marie Daly)
Derbyniodd a nododd y Bwrdd adroddiad y Prif Swyddog Gweithrediadau a oedd wedi'i gynnwys ym mhecyn y cyfarfod a rhoddodd sylw penodol i'r materion a'r camau gweithredu canlynol:
- Gwasanaethau bws yn lle trenau - Lee Robinson gyda chefnogaeth Marie Daly a James Price i ddysgu o'r ddarpariaeth gwasanaethau bws yn lle trenau a'i gynnwys yn y gwaith ehangach ar fasnachfreinio bysiau [Cam gweithredu - Lee Robinson, Marie Daly, James Price].
- Rheolwyr Ilwybr y Gororau i hyrwyddo a gwella ansawdd y gwasanaeth - Jan Chaudhry-Van der Velde a Piers Croft i gyflwyno yng nghyfarfod nesaf Bwrdd Rheilffyrdd TrC ar reoli llwybrau a materion ymarferol, gan gynnwys strategaeth glir a chynllun gweithredu - [Cam gweithredu - Jan Chaudhry-Van der Velde, Piers Croft].
- Paratoi ar gyfer tywydd cynnes dros yr haf - gan gynnwys cynllunio darpariaeth gwasanaethau dŵr ar y trên a chynllun parodrwydd yr haf, briffio staff, a chynllun cwsmeriaid 10 pwynt gan gynnwys darparu dŵr mewn gorsafoedd.
- TYNNWYD
- TYNNWYD
Nododd y Bwrdd ymddeoliad arfaethedig Martyn Brennan a diolchodd iddo am ei amser, ei werth a'i ymdrechion yn Trafnidiaeth Cymru a'r diwydiant rheilffyrdd drwy gydol ei yrfa.
5.1 Adroddiad Dangosyddion Perfformiad Allweddol Strategol
Nododd y Bwrdd yr adroddiad DPA Strategol yn y pecyn cyfarfod.
5.2 Adroddiad Sicrhau Diogelwch
Nododd y Bwrdd yr adroddiad Sicrhau Diogelwch ym mhecyn y cyfarfod. TYNNWYD.
5.3 Dangosfwrdd Risg Rheilffyrdd
Nododd y Bwrdd y Dangosfwrdd Risg Rheilffyrdd ym mhecyn y cyfarfod.
6. Diweddariad masnachol
Ymunodd Stephanie Raymond a Lewis Brencher â'r cyfarfod.
Derbyniodd a nododd y Bwrdd gyflwyniad diweddaru ar y strategaeth fasnachol P02 sydd wedi'i chynnwys ym mhecyn y cyfarfod.
TYNNWYD
7. Adolygiad ariannol
Derbyniodd a nododd y Bwrdd gyflwyniad diweddaru ar Adolygiad Ariannol Cyfnodol P02 sydd wedi'i chynnwys ym mhecyn y cyfarfod.
TYNNWYD
- TYNNWYD
- TYNNWYD
- TYNNWYD
8. Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Rheilffyrdd TrC Cyf
Cafodd y Bwrdd gyflwyniad diweddaru ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Rheilffyrdd TrC Cyf, TYNNWYD.
Cytunodd y Bwrdd i ddirprwyo awdurdod i Jan Chaudhry-Van der Velde i gymeradwyo fersiwn derfynol yr Adroddiad a'r Cyfrifon Blynyddol erbyn 29 Mehefin 2023, a chytunwyd y byddai'r fersiwn bresennol yn cael ei dosbarthu i'r aelodau ar gyfer sylwadau terfynol cyn 29 Mehefin 2023 [Cam gweithredu - Ysgrifennydd].
Gadawodd Stephanie Raymond y cyfarfod.
9. Cynrychiolydd a enwebir gan y cwmni ar y Bwrdd Cynlluniau a Gwasanaethau (SSB) a Chynghorau Cynllun
Gadawodd Peter Strachan y cyfarfod oherwydd gwrthdaro posibl rhwng buddiannau.
Ystyriodd y Bwrdd bapur crynodeb cynrychioliadol y Bwrdd Cynlluniau a Gwasanaethau a’r Cynghorau Cynllun a’r
cytundeb penodi cynrychioladol, gan gynnwys unrhyw risgiau neu rwymedigaethau, a nodwyd nad oes dim yn bodoli.
Ystyriodd y Bwrdd fanteision cynrychiolydd.
Cytunodd y Bwrdd i’r cynnig, ac y byddai Alexia Course yn llofnodi yn dilyn y cyfarfod [Cam gweithredu - Alexia Course] ac y byddai James Price yn mynd ar Fwrdd RDG [Cam Gweithredu - Ysgrifennydd].
10. Strategaeth Symleiddio Prisiau Tocynnau
Ailymunodd Peter Strachan â’r cyfarfod.
TYNNWYD
Cytunodd y Bwrdd i gymeradwyo a chefnogi’r dull gweithredu a’r strategaeth.
11. Diogelu Refeniw
Ystyriodd y Bwrdd gynnwys y papur diogelu refeniw a oedd wedi’i gynnwys ym mhecyn y cyfarfod. Yn dilyn trafodaeth ar deithio heb docyn a rheoli giatiau, cytunodd y Bwrdd i nodi’r papur a chymeradwyo datblygu diweddariad ar y ddogfen strategaeth diogelu refeniw.
12. Diweddariad Marchnata
Derbyniodd y Bwrdd ddiweddariad ar farchnata yn y pecyn cyfarfod a nododd y gweithgareddau cadarnhaol a oedd wedi digwydd.
TYNNWYD
13. Unrhyw Fater Arall
Ni chodwyd unrhyw faterion pellach.
Daeth y cyfarfod i ben a diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cyfraniadau.