Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig Cofnodion y Bwrdd - 5 Rhagfyr 2023
TfW Rail Limited - Cofnodion y Bwrdd
5 Rhagfyr 2023
09:00 - 14:30
Lleoliad: St Patricks House, Caerdydd ac ar-lein
Yn bresennol
James Price (Cadeirydd), Heather Clash, Jan Chaudhry Van der Velde, Marie Daly ac Alexia Course a Peter Strachan.
Hefyd yn bresennol
Julian Edwards (Cyfarwyddwr Anweithredol Cysylltiol) a Jeremy Morgan (Ysgrifennydd).
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Dim.
1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod yn agored.
1c. Datgan Buddiant
Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
2. Sylw i ddiogelwch
Wrth i dymor yr Hydref ddirwyn i ben, bu cynnydd yn y munudau o oedi’n gysylltiedig ag adlyniad o 11,000 y llynedd i tua 19,000 eleni. Mae TINS hefyd wedi mwy na dyblu. Y prif yrwyr yw amodau tywydd tymhorol, gan gynnwys nifer o stormydd, ynghyd â phroblemau gyda’r ffordd mae Network Rail yn rheoli’r gwaith tymhorol o drin y cledrau. Cytunodd y Bwrdd y dylid ymchwilio i’r posibilrwydd o fod yn ddyledus Network Rail i am drin y cledrau, a dylid codi’r mater gyda Dan Tipper a Network Rail [Cam Gweithredu Jan Chaudhry van der Velde]. Cytunwyd y dylid gwahodd Nick Millington i ddod i un o gyfarfodydd y Bwrdd yn y dyfodol [Cam Gweithredu Jan Chaudhry Van der Velde].
3. Sylw i Gwsmeriaid
Trafododd y Bwrdd wybodaeth amser real i gwsmeriaid, sut mae mantieisio’n llawn ar ddefnyddio data bob dydd a’r posibilrwydd o’i gysylltu â chwynion cwsmeriaid. Rydym yn edrych ar arferion da ar draws y diwydiant a thu hwnt.
4. Cofnodion a Chamau Gweithredu
Cymeradwyodd y Bwrdd gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2023 fel cofnod cywir. Nodwyd a diwygiwyd y log camau gweithredu diweddaraf.
5. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithrediadau
Derbyniodd a nododd y Bwrdd drosolwg o adroddiad y Prif Swyddog Gweithrediadau. Roedd y trosolwg yn canolbwyntio ar y materion canlynol:
- TYNNWYD
- Diffyg turn yng Nghaergybi. Hysbyswyd y Bwrdd bod disgwyl i'r rhaglen wreiddiol gael ei chyflawni yn Hydref 2024 ond bod problemau gyda chontractwyr a rheolwyr rhaglenni wedi achosi oedi o dri mis. Hysbyswyd y Bwrdd bod Dan Tipper nawr yn cymryd rheolaeth uniongyrchol ychwanegol dros y rhaglen sydd wedi'i gohirio ar hyn o bryd ond i fod i ailddechrau ym mis lonawr 2024. TYNNWYD.
- Dyrannu gyrwyr a diagramau i wneud cymaint o ddefnydd a phosibl o unedau Class 756, a chyflymu'r broses o'u cyflwyno i'r gwasanaeth.
- Capasiti trenau mewn perthynas a'r newidiadau sydd ar y gweill i'r amserlen. Atgoffwyd y Bwrdd bod ymrwymiad cyhoeddus na fydd cwsmer fwy nag 20 munud i ffwrdd o doiled a gofynnodd am ddiweddariad dros dro ar y sefyllfa [Cam gweithredu Jan Chaudhry van der Velde].
- Mae angen adolygu'r ffigurau diweddaraf ar y capasiti a gynlluniwyd ar gyfer rheilffordd Rhymni [Cam Gweithredu Jan Chaudhry van der Velde].
- Rhaglenni dibynadwyedd fflyd. Bydd gofyn i Ryan Williams roi cyflwyniad mewn cyfarfod yn y dyfodol [Cam Gweithredu Jan Chaudhry van der Velde].
- Roedd penodiad wedi'i wneud ar gyfer r61 y Cyfarwyddwr Gweithrediadau. Bydd y sawl a benodwyd yn dechrau ym mis Mai 2024. Croesawodd y Bwrdd y penodiad.
6. Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2025-2029
Ymunodd Stephanie Raymond a'r cyfarfod.
Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am drafodaethau diweddar gyda Llywodraeth Cymru ar Gynllun Ariannol Tymor Canolig drafft 2025-2029, gan gynnwys rhagdybiaethau allweddol sy'n sail i'r cynllun ac amrywiadau o'r fersiynau blaenorol. Atgoffwyd y Bwrdd o'r cyfyngiadau ariannol sylweddol ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Gofynnodd y Bwrdd am waith ychwanegol i adolygu’r posibilrwydd o wneud arbedion maint pellach, i sicrhau bod twf teithwyr yn cael ei gynnwys yn y gwaith modelu, i gynnwys tabl gyda niferoedd y cynigion gwreiddiol, ac i ddileu chwyddiant [Cam Gweithredu Stephanie Raymond].
7. Adolygiad ariannol
Nododd y Bwrdd yr adolygiad ariannol, a oedd yn pwysleisio’r sefyllfa bresennol o ran gweithredu a chymhorthdal cyfalaf a’r sefyllfa alldro diwedd blwyddyn.
7.1 Adroddiad Dangosyddion Perfformiad Allweddol Strategol
Nododd y Bwrdd yr adroddiad.
7.2 Adroddiad Sicrhau Diogelwch
Nododd y Bwrdd yr adroddiad.
8. Dangosfwrdd Risg Rheilffyrdd
Derbyniodd a nododd y Bwrdd drosolwg o’r dangosfwrdd risg.
9. Diweddariad ar Farchnata
Ymunodd Lewis Brencher â’r cyfarfod.
Nododd y Bwrdd ddiweddariad marchnata a oedd yn cynnwys y canlynol:
- Perfformiad yn erbyn y targedau ar ddechrau’r flwyddyn.
- Arferion da drwy asiantaethau gyda darparwyr trafnidiaeth eraill.
- Gwariant marchnata wedi’i ailflaenoriaethu ar gyfer rhaglenni yng Ngogledd Cymru. Adolygodd a chroesawodd y Bwrdd yr hysbyseb ‘ar alw’.
- Yr angen i dynnu sylw at achosion lle mae darparwyr tocynnau eraill yn codi ffi archebu a hyrwyddo ap TrC lle nad oes ffi archebu.
10. Diweddariad masnachol
Ymunodd Chris Williams â’r cyfarfod
Nododd a derbyniodd y Bwrdd drosolwg o’r diweddariad masnachol a oedd yn cynnwys y canlynol:
- Nid yw’r Bwrdd am fod yn rhy bwrpasol wrth ragweld, ac mae angen iddo herio’r model masnachol a’i ddilysu. Mae angen ‘post-mortem’ ar ôl rhagolygon h.y. yr hyn y credwyd fyddai’n digwydd yn erbyn yr hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd [Cam Gweithredu Alexia Course], yn ogystal â defnyddio’r un model i ‘edrych yn ôl’.
- Nodwyd y rhagolwg refeniw diweddaraf. Cytunwyd y dylid craffu ar y rhagolwg pum mlynedd a’i gysylltu â’r gyllideb [Cam Gweithredu Alexia Course].
- Y Strategaeth Brisiau bresennol. Trafododd y Bwrdd fod prisiau wedi’u rheoleiddio yn llai amlwg, yr heriau masnachol nawr ac yn y dyfodol.
- Yr angen i gael eitem sefydlog ar yr agenda ynghylch llinell y Gororau y bydd Piers Croft yn cael ei wahodd iddi [Cam Gweithredu Jan Chaudhry van der Velde].
Gadawodd Chris Williams a Lewis Brencher y cyfarfod.
11. Strategaeth datgarboneiddio cerbydau 2025 a thu hwnt
Ymunodd Rob Hale a'r cyfarfod.
Nododd y Bwrdd y strategaeth ddrafft a chroesawodd amseriad y papur. Cytunwyd bod trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yn allweddol o ran y cyfeiriad a gymerir ac y dylid rhannu'r strategaeth a nhw [Cam Gweithredu Alexia Course].
Nododd y Bwrdd fod angen gwneud nifer o benderfyniadau allweddol yn y tymor byr, fel defnyddio locomotifau ar gyfer MKIVs, Wrecsam i Bidston; rhaglen trosi hybrid unedau Class 231 a Class 197.
Cytunwyd y dylid cyflwyno opsiynau posibl i gwrdd a thargedau carbon gyda'r Dirprwy Weinidog.
TYNNWYD
Gan nad oedd unrhyw fater arall, diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cyfraniadau a daeth y cyfarfod i ben.