Beth am barhau â’ch antur ar droed gydag un o deithiau cerdded y Cerddwyr
Mae ein gorsafoedd rheilffordd yn fannau cychwyn ar gyfer digonedd o deithiau cerdded hyfryd o gwmpas pentrefi, trefi a dinasoedd Cymru.
Tarwch olwg ar y teithiau cerdded a’r teithiau ar olwynion hyn gan Cerddwyr Cymru sy’n dechrau cyn gynted ag y byddwch chi wedi camu oddi ar y trên. Mae rhywbeth ar gyfer pob gallu, a gallwch chi eu mwynhau ar eich cyflymder eich hun, boed hynny drwy grwydro’n hamddenol neu fynd ar daith gerdded egnïol.
Y Cerddwyr sy’n creu’r llwybrau cerdded hyn, ar gyfer cerddwyr. Maen nhw’n ymwneud â’i gwneud hi’n haws i ni i gyd gadw’n heini, cadw’n iach a mwynhau bod allan yn yr awyr agored yng Nghymru. Beth am barhau â’ch antur ar droed? Dewch o hyd i lwybr lle gallwch gamu oddi ar y trên a chrwydro ar droed yn eich ardal chi.
Aberdâr
O’r orsaf, ewch i ganol y dref brysur cyn mentro i amgylchedd hyfryd parc Fictoraidd Gradd II Aberdâr gyda’r llyn cychod. Beth am alw mewn caffi neu siop leol ar eich taith yn ôl a mwynhau rhywfaint o luniaeth ar eich ffordd yn ôl i’r orsaf? Mae hon yn daith wych os oes gennych chi blant neu os ydych chi’n defnyddio cadair olwyn neu sgwter symudedd, gyda chroesfannau ffordd diogel a hygyrch, pontydd i gerddwyr a digon o fannau chwarae yn y parc, sydd hefyd â thoiledau cyhoeddus.
Aberystwyth
Gadewch y trên ac ewch i Draeth y De a'r harbwr hardd. Ewch am dro i mewn i'r tir gan ddilyn Afon Ystwyth ar lwybr troellog heibio i dir fferm golygfaol. Nesaf, dilynwch y llwybr troed heibio Plas Tanybwlch cyn ailymuno ag arfordir Ceredigion ar draeth Tan Y Bwlch. Os ydych chi awydd ymestyn eich taith gerdded, beth am ddargyfeirio i fyny bryngaer Geltaidd hynafol Pen Dinas? Nid yw’r daith gerdded hon yn rhy anodd, ond mae’n un hir gyda rhywfaint o dir anwastad. Byddwch hefyd yn dod o hyd i gaffi a thoiledau yng nghanol y dref.
Bangor
Ewch oddi ar y trên ym Mangor a gallwch fwynhau taith hamddenol drwy'r dref. Nid yw’r daith gerdded yn cymryd gormod o amser a gallwch fynd ar hyd y Fenai fawreddog ar y ffordd i’r pier. Mae Bangor yn ddinas gadeiriol sydd hefyd yn digwydd bod yr hynaf yng Nghymru. Byddwch yn mynd heibio i barcdir hyfryd ar y llwybr hwn ac yn dod o hyd i gaffis a thoiledau yng nghanol y dref ac wrth y pier. Mae hwn yn un gwych i roi cynnig arno os ydych chi'n teithio gyda phlant, sy'n gallu ymweld â'r pier am ddim.
Abermaw
O’r orsaf ewch i’r traeth, gan fynd heibio’r promenâd, gorsaf y bad achub a’r harbwr hanesyddol – a oedd unwaith yn un o brif ganolfannau adeiladu llongau Cymru. Dilynwch Lwybr Arfordir Cymru ar draws pont restredig Gradd II Abermaw, y draphont bren hiraf yng Nghymru ac un o’r hynaf sy’n cael ei defnyddio’n rheolaidd ym Mhrydain. Cerddwch o amgylch yr aber a dilynwch reilffordd fach Fairbourne i ddod o hyd i gaffi a thoiledau. Unwaith y byddwch yn barod, gallwch neidio ar y fferi am hwylio hamddenol yn ôl i Bermo.
Ynys y Barri
Gadewch y trên a mynd am dro ar hyd Llwybr hardd Arfordir Cymru. Byddwch yn mwynhau golygfeydd godidog ar draws aber afon Hafren, heibio i’r Sefydliad Arfordirol Cenedlaethol ac adeiladau magnelau arfordirol yr Ail Ryfel Byd, cyn cael cyfle i fynd am dro ar hyd y traeth a’r promenâd enwog. Mae’r llwybr hwn yn hygyrch i gadeiriau olwyn, sgwteri symudedd a bygis. Mae toiledau cyhoeddus ym Mae Whitmore a digon o lefydd i chi gael lluniaeth ar hyd y promenâd ac yn y dref.
Blaenau Ffestiniog
Gadewch y trên a mynd drwy’r stryd fawr hyfryd sydd wedi’i hamgylchynu gan fynyddoedd Parc Cenedlaethol Eryri. Dilynwch y ‘llwybr llechi’ enwog cyn dod at ran serth, sy’n arwain at olygfeydd godidog i chi ar draws mynyddoedd Moelwyn ac argae Stwlan. Mae digon o dir anwastad yma, felly cofiwch ddod â’ch esgidiau cerdded gyda chi. Mae toiledau yng nghanol y dref yn ogystal â chaffis a thafarn os yw eich taith yn codi chwant bwyd neu syched arnoch chi.
Caergwrle
O'r orsaf, cerddwch drwy'r pentref i fyny at gastell Caergwrle. Wedi’i adeiladu rhwng 1278 a 1282 gan Dafydd ap Gruffudd, hwn oedd y castell olaf i gael ei adeiladu gan dywysog Cymreig brodorol ac mae’r ddringfa fer yn werth yr ymdrech i archwilio’r hen adfeilion. Byddwch hefyd yn croesi’r ‘bont ceffyl pwn’ gyda’i chilfachau siâp V a oedd yn caniatáu i gerddwyr gadw’n glir o’r ceffylau pwn a oedd unwaith yn taranu ar ei draws. Fe welwch chi gaffis ger yr orsaf ac yn y pentref os yw'r holl hanes hwnnw'n eich gwneud chi'n llwglyd.
Bae Caerdydd
O’r orsaf, ewch heibio i fwytai bywiog Bae Caerdydd, yn ogystal â thirnodau fel y Senedd, Canolfan Mileniwm Cymru, Roald Dahl Plass ac Adeilad y Pierhead. Nesaf, ymunwch ag ymyl y dŵr a dilyn Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Bae Caerdydd lle byddwch hefyd yn cael cipolwg ar eglwys Norwyaidd enwog Caerdydd. Mae hon yn daith gerdded hawdd sy’n hygyrch i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn a sgwter symudedd. Mae’n ffordd wych o brofi prifddinas ffyniannus ac arfordir tawel Cymru i gyd ar yr un pryd.
Bae Colwyn
Gadewch y trên a dilynwch Lwybr Arfordir Cymru, sy’n ymylu ar ymyl y traeth. Mae’r llwybr yn mynd â chi i Landrillo-yn-Rhos lle byddwch chi’n dod o hyd i ddigonedd o siopau, caffis a thoiledau. Efallai y byddwch am aros yma am ychydig os ydych chi'n teithio gyda phlant ac yn treulio peth amser ar lan y môr neu yn y maes chwarae cyfagos. Ymhellach ymlaen fe welwch Gapel Sant Trillo ar lan y môr. Mae ei alter wedi'i adeiladu dros ffynnon naturiol y credir ei bod yn ffynnon sanctaidd hynafol.
Cricieth
Gadewch y trên a dilyn y llwybr sy’n croesi’r cledrau i ddechrau. Gallwch fwynhau gwyrddni gwyllt gwarchodfa natur ar eich ffordd wrth i chi ddilyn y llwybr hwn i’r traeth, gorsaf hanesyddol y bad achub a chastell cadarn Castell Cricieth. Cerddwch ar draws glan y môr neu’r prom; chi biau’r dewis. Mae digon o gaffis yng nghanol y dref ac ar lan y traeth os yw eich taith gerdded wedi codi chwant bwyd arnoch chi. Mae toiledau cyhoeddus yng nghanol y dref a ger y traeth.
Fflint
Gadewch yr orsaf ac fe welwch eich hun yn fuan yng nghastell nerthol y Fflint, un o’r cestyll cynharaf a mwyaf anarferol o blith cestyll Lloegr a adeiladwyd yng Nghymru ac mae’n werth ymweld ag ef. Yn ôl ar lwybr yr arfordir, fe gewch chi olygfeydd gwych ar draws Aber Afon Dyfrdwy i Gilgwri. Mae hwn yn lle gwych i wylio adar pan fydd y llanw allan, gyda llawer o rywogaethau i'w canfod yn y morfa heli. Fe welwch y ‘Flintshire Guardian’ sy’n edrych allan i Ynys Hillbre o Drwyn y Fflint. Byddwch hefyd yn dod o hyd i ddigonedd o gaffis yng nghanol y dref.
Gwersyllt
Dewch oddi ar y trên yng Ngwersyllt ar gyfer Parc Gwledig hardd Dyfroedd Alyn, gan basio’r clwb criced lleol ar eich ffordd. Yn y parc, beth am dreulio ychydig o amser yn crwydro’n heddychlon ar hyd glannau afon Alyn a’i gored? Nesaf, dringwch yn ysgafn tua’r ganolfan ymwelwyr lle gallwch ddod o hyd i gaffi, toiledau a maes chwarae - gwych os ydych chi’n teithio gyda phlant. Mae hon yn daith gerdded hawdd, ond bydd yn cymryd peth amser, felly cofiwch ystyried hyn.
Penarlâg
Gadewch yr orsaf a dilynwch y llwybr troed; gallech stopio yn y maes chwarae ar y ffordd os oes gennych blant. Daliwch ati i gerdded heibio’r eglwys, sy’n aml yn agored i ymwelwyr. Mae’n werth ymweld â Llyfrgell hanesyddol Gladstone, sy’n gartref i gasgliad o dros 250,000 o eitemau wedi’u hargraffu, gan gynnwys rhai diwinyddol, hanesyddol, diwylliannol a gwleidyddol. Nesaf, byddwch yn mentro heibio castell canoloesol Gradd I Penarlâg, y gallwch ei weld o’r parcdir hardd o’i gwmpas.
Llandeilo
Dewch oddi ar y trên yma i fynd am dro hawdd mewn coedwig sy’n cymryd oddeutu awr. Bydd y prif lwybr yn mynd â chi heibio Parc Penllan gyda’r llwyfan band lle gallwch stopio i fwynhau golygfeydd godidog o’r bryniau cyfagos. Byddwch yn mynd drwy goetir tawel wrth i chi fynd tuag at safle hardd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mharc Dinefwr. Mae dewisiadau ar gael yma o ran bwyd a diod a thoiledau, yn ogystal ag yng nghanol y dref ar eich taith yn ôl. Mae llwybr hygyrch ar gael i chi fynd i'r parc os ydych chi'n defnyddio cadair olwyn neu sgwter symudedd.
Llanrwst
O’r orsaf, cerddwch drwy’r dref farchnad cyn croesi afon Conwy ar bont grog Pont Gŵyr. Byddwch yn mynd dros rai camfeydd ac yn pasio drwy gaeau gwyrdd hyfryd, gan ddilyn glannau’r afon. Ond byddwch yn ofalus oherwydd mae’n gallu bod yn eithaf corsiog yma ar ôl glaw trwm. Os oes gennych blant, fe welwch faes chwarae ychydig cyn i chi groesi’r afon eto ar bont fwa garreg wych. Mae caffis a thoiledau yng nghanol y dref os ydych chi’n awyddus i gael rhywbeth i’w fwyta neu yfed, neu’n teimlo fel cael seibiant.
Penrhyndeudraeth
Gadewch y trên a dilynwch y ffordd am ychydig cyn cyrraedd gwarchodfa natur Gwaith Powdwr. Ar un adeg yn safle ffatri arfau byd-enwog, mae bellach yn cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Parhewch ar eich taith i fyny'r allt i gyrraedd ardal o rostir cyn mynd yn ôl i'r orsaf. Taith gerdded fer yw hon, ond mae’n ddringfa serth mewn rhai ardaloedd gyda thir anwastad, felly efallai y byddai’n werth dod â’ch esgidiau cerdded. Fe welwch chi gaffis a thoiledau yng nghanol y dref ychydig bellter o’r orsaf.
Prestatyn
Dilynwch lwybr Clawdd Offa, y gwrthglawdd hynafol a fu unwaith yn rhwystr rhwng Cymru a Lloegr. Dringwch allt Prestatyn i gael golygfeydd godidog o’r ardal gyfagos cyn disgyn i bentref bach Bryniau ar eich ffordd i safle Graig Fawr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymhellach ymlaen, fe ddowch at lwybr hen reilffordd a arferai wasanaethu mwyngloddiau a chwareli’r llechweddau cyfagos. Mae hon yn daith gerdded hir, anturus gyda thir serth ac anwastad - felly byddwch yn barod.
Pwllheli
Gadewch yr orsaf a cherdded ychydig drwy'r ardal wlyptir golygfaol i gyrraedd glan y môr. O'r fan hon gallwch naill ai gerdded ar hyd y traeth neu'r promenâd. Dilynwch y llwybr heibio Crochan Berw (sy’n cael ei gyfieithu fel “crochan berw”), brigiad creigiog ychydig uwchben y môr sy’n cynnig golygfeydd godidog o fynyddoedd Eryri. Fe welwch chi gaffis yng nghanol y dref ac ar lan y traeth yn ogystal â meysydd chwarae yn y dref os ydych chi'n dod â phlant gyda chi am dro.
Rhosneigr
Gadewch yr orsaf ac ewch heibio'r clwb golff ar eich ffordd i'r tŵr cloc coffa yng nghanol y pentref. Oddi yma fe gewch olygfeydd i RAF Fali a Mynydd Twr, mynydd uchaf Ynys Gybi, Ynys Môn. Wedi’i leoli ar Lwybr Arfordir Ynys Môn, mae gan Rosneigr ddigonedd o siopau a chaffis lleol os ydych chi awydd cymryd egwyl gysur yma. Ewch ymlaen i lan y môr i archwilio’r twyni tywod a chael golygfeydd gwych ar draws yr arfordir. Fe welwch doiledau cyhoeddus yma hefyd.
Trehafod
Gadewch y trên a mynd ar daith gerdded hamddenol i lawr Cwm Rhondda, a oedd yn arfer bod yn ganolbwynt maes glo De Cymru. Y dyddiau hyn, byddwch yn gweld dyfroedd clir fel crisial a choetir golygfaol, gan gael ymdeimlad o hanes a natur. Treuliwch ychydig o amser yn crwydro Parc Gwledig Barry Sidings, lle mae maes chwarae, caffi a thoiledau. Teimlo’n anturus? Ewch am dro i fyny’r mynyddoedd i weld y Rhondda o fyny fry. Daw’r llwybr hwn i ben ym Mhontypridd; mwynhewch yr hyn sydd gan ganol y dref brysur i’w gynnig.