Ewch i'r tabl cynnwys

Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 15 Mai 2025

Submitted by Content Publisher on

Cofnodion Bwrdd TrC

15 Mai 2025

09:30 - 16:00

 

Yn bresennol

Scott Waddington (Cadeirydd), Alun Bowen, Heather Clash, Vernon Everitt, Vinay Parmar, Louise Cheesman, Rhian Langham, a James Price.

Hefyd yn bresennol: Ian Lucas; Peter McDonald (Llywodraeth Cymru); Sam Hadley; a Jeremy Morgan.

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd.

 

Rhan A - Cyfarfod y Bwrdd Llawn

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Andrew Morgan (CLlLC); ac Alan McCarthy (Unite).

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datganodd fod y cyfarfod yn agored.

 

1c. Datgan Buddiant

Dim wedi’i ddatgan.

 

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 17 Ebrill 2025 yn gofnod gwir a chywir.

Nodwyd y log camau gweithredu.

 

2a. Sylw i Ddiogelwch

Bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad diweddar ynghylch aelod o'r cyhoedd nad oedd wedi’i erlyn ar ôl iddo dresmasu ar y cledrau yn Ne-ddwyrain Lloegr, ond ei fod wedi cyflawni'r un drosedd eto.

 

2b. Sylw i Gwsmeriaid

Cafwyd trafodaeth ar yr ymgyrch tuag at ddigideiddio, y cyfyngiadau y mae hyn yn eu gosod ar rai carfannau o gymdeithas, a'r angen i ystyried yr holl ystod o gwsmeriaid.

 

3. Perfformiad diogelwch

Ymunodd Seamus Scallon a Josh Hopkins â’r cyfarfod.

Nododd y Bwrdd gynnwys yr adroddiad perfformiad diogelwch. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:

  • Lansio'r Cynllun Iechyd, Diogelwch, Gwarchodaeth a Gwydnwch Busnes blynyddol yn ddiweddar, sy'n amlinellu'r ffocws strategol dros y flwyddyn nesaf.
  • Yr adroddiad diweddar y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd ar y digwyddiad yn Nhalerddig. Nododd y Bwrdd y cynnwys, a’i drafod.
  • Gwaith sy’n mynd ymlaen i fynd i'r afael ag ymosodiadau ar y rhwydwaith, yn enwedig o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithgareddau parhaus yn ymwneud ag osgoi gwrthdaro, rheoli rhanddeiliaid, meithrin partneriaethau, olrhain erlyniadau a rhoi cyhoeddusrwydd iddynt. TYNNWYD.
  • Gwaith parhaus ar reoli Signalau a Basiwyd yn Beryglus (SPADs), gan gynnwys cyflwyno Cynllun Gwella Diogelwch ar y Cyd gyda Network Rail, mwy o ffocws ar hyfforddiant, gwella'r System Rheoli Cymhwysedd, a chyflwyno Bwrdd Adolygu SPAD mewnol newydd ar gyfer pob digwyddiad.

 

4. Adroddiad Risgiau Strategol

Mae risgiau Haen 1 wrthi’n cael eu trafod gyda'r Tîm Arwain Gweithredol. TYNNWYD. Mae archwiliad dwfn wedi cael ei gynnal ar fysiau hydrogen. Nododd y Bwrdd fod nifer o risgiau a mesurau lliniaru prosiect sgorio risg uchel newydd wedi cael eu cynnwys, gan gynnwys Crossrail Caerdydd a Project Uno.

Nododd y Bwrdd yr adroddiad.

Gadawodd Seamus Scallon a Josh Hopkins y cyfarfod.

 

5. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Cafodd y Bwrdd drosolwg o Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol:

  • Gwaith ar newid diwylliannol o ran datblygiad parhaus y Rhwydwaith T. Nododd y Bwrdd y goblygiadau i ddiwylliant a dulliau gwneud penderfyniadau sydd wrthi'n cael eu hystyried, a'r angen i ystyried y system rheoli perfformiad drwy'r Pwyllgor Pobl [Cam Gweithredu Rhian Langham].
  • Diweddariad ar ddigwyddiad Talerddig, gan gynnwys trafodaeth ar gyfathrebu.
  • Amhariadau ar seilwaith a effeithiodd ar berfformiad gweithredol ar draws y rhwydwaith. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddysgu gwersi ac asesu sut gellid bod wedi osgoi'r digwyddiadau hyn.
  • Mae deddfwriaeth bysiau yn parhau ar ei llwybr drwy Senedd Cymru. Ceisir eglurder o hyd ynghylch masnachfreinio bysiau TYNNWYD.
  • Daethpwyd i gytundeb cyffredinol â Llywodraeth Cymru ar ddiwygio'r rheilffyrdd. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am sgyrsiau diweddar gyda’r DfT.
  • Mae cynnydd wedi'i wneud o ran datblygu rhaglen Rhwydwaith Gogledd Cymru. Bydd y Bwrdd yn cael diweddariad manwl mewn cyfarfod yn y dyfodol.
  • Mae trafodaethau'n parhau gyda CAF ynghylch iawndal penodedig a depo Caer.
  • TYNNWYD
  • Risgiau ariannol yn y flwyddyn gyfredol, yn enwedig ar Linellau Craidd y Cymoedd yng nghyd-destun cyflawni gwaith sylweddol yn erbyn cyllideb dynn a'r angen i redeg gwasanaethau ychwanegol yng Ngogledd Cymru.

 

6. Cyllid

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerwyd i ymateb i ymosodiadau seiber diweddar ar sefydliadau manwerthu, gan gynnwys rhinweddau gweithredu model dim ymddiriedaeth a gwell diwydrwydd dyladwy yn y gadwyn gyflenwi, yn ogystal ag ymarferion ar adfer ar ôl ymosodiadau seiber.

Rhannwyd canlyniadau ariannol y cyfnod gyda'r Bwrdd. Roedd tarfu ar seilwaith wedi arwain at golli refeniw. Mae cynlluniau'n cael eu rhoi ar waith i adfer y sefyllfa. Cafodd y Bwrdd wybodaeth am: gyfrifon rheoli a pherfformiad ariannol ar gyfer mis Ebrill 2025; rheoli'r bwlch cyllido ar gyfer 2025/26; asesu swyddogion cyfrifyddu i lywio llythyr o gysur Llywodraeth Cymru; a Pullman Rail Ltd. Nododd y Bwrdd fod deialog reolaidd gyda Network Rail yn parhau ynghylch taliadau Atodlen 4 ac Atodlen 8.

 

Rhan B - Sesiwn diweddariad gweithredol

7. Adrodd Corfforaethol

Ymunodd Zoe Smith-Doe â’r cyfarfod.

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf a nodi bod cerrig milltir y cynllun busnes ar gyfer 2024/25 wedi cael eu cyrraedd.

Nodwyd y Dangosyddion Perfformiad Allweddol Corfforaethol. Bydd y Bwrdd yn cael y fersiwn wedi'i chyhoeddi o'r Dangosyddion Perfformiad Allweddol cyn eu cyhoeddi, a bydd y rheini hefyd yn cael ei hadolygu gan Lewis Brencher a Sam Hadley [Cam Gweithredu Zoe Smith-Doe].

Gadawodd Zoe Smith-Doe y cyfarfod.

 

8. Adroddiad blynyddol

Ymunodd Ellen Filor â'r cyfarfod.

Cafodd y Bwrdd amlinelliad o'r Adroddiad Blynyddol a'r Datganiadau Ariannol drafft ar gyfer 2024/25, gydag egwyddorion arweiniol y nodau llesiant; gweledigaeth, cenhadaeth, pwrpas a gwerthoedd newydd TrC; cerbydau newydd; a pherfformiad sefydliadol ac ariannol cyffredinol. Gofynnodd y Bwrdd hefyd am naratif cryf ar bobl a diwylliant a'r angen i ddiolch i gwsmeriaid a'r undebau.

Gadawodd Ellen Filor y cyfarfod.

 

9. Bws hydrogen

Ymunodd Lee Robinson â’r cyfarfod.

Trafododd y Bwrdd risgiau yn ymwneud â'r rhaglen bysiau hydrogen.

TYNNWYD

Gadawodd Lee Robinson y cyfarfod.

 

10. Diweddariad Is-gwmni

Nododd y Bwrdd gynnwys amlinellol cyfarfod bwrdd diweddar Pullman Rail Ltd, a chafodd yr wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf.

Yn ddiweddar, bu Bwrdd Rheilffyrdd TrC yn trafod heriau yn ymwneud â pherfformiad, aeth ati i ymchwilio'n ddwfn i risg a diogelwch a bu'n ystyried cyllid a datblygiadau masnachol.

 

11. Bwrdd Cynghori

Mae'r Bwrdd Cynghori diweddar yn adolygu perfformiad rheilffyrdd gweithredol, masnachfreinio bysiau. Bu’r Bwrdd yn trafod rôl y grŵp yn y dyfodol a chynnal adolygiad [Cam Gweithredu Vinay Parmar a Lewis Brencher].

 

12. Bwrdd Llywio

Bu Bwrdd Llywio mis Ebrill yn trafod y sefyllfa ariannol ar ddiwedd y flwyddyn, rheoli gwastraff, strwythur Tîm Arwain Gweithredol diwygiedig TrC, Network North, refeniw yn y dyfodol, adroddiad RAIB ar y digwyddiad yn Nhalerddig, a diwygio'r rheilffyrdd.

 

13. Is-bwyllgorau

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd diweddar y Pwyllgor Prosiectau Mawr ac is bwyllgorau Chwsmeriaid a Chyfathrebu. Nododd y Bwrdd gynigion i ail-fframio'r Pwyllgor Cwsmeriaid a Chyfathrebu gyda'r nod o esblygu o fod yn bwyllgor sy'n canolbwyntio ar un rhan o'r system cwsmeriaid i fod yn fforwm integreiddio strategol yn dod â gwybodaeth, arloesedd a meddwl masnachol at ei gilydd, gyda thaith y cwsmer yn angorfa iddo.

 

14. Diweddariad ar Linellau Craidd y Cymoedd

Ymunodd Dan Tipper â’r cyfarfod.

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd allweddol a’r cerrig milltir a gyrhaeddwyd, gan gynnwys y canlynol:

  • Ffocws yn 2025/26 ar weddill y camau trydaneiddio.
  • Cwblhau'r profion Cl 756 angenrheidiol ar Coryton/Caerffili sy'n dal ar y trywydd iawn i ddod yn weithredol ar y llwybrau hyn erbyn dechrau mis Gorffennaf 2025.
  • Mae nifer o feddiannau a blocadau wedi'u cynllunio ar reilffordd Rhymni yn ystod 2025 er mwyn gallu cwblhau'r gwaith ffisegol a'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma.
  • Mae'r profi deinamig cychwynnol yn rhedeg ar Cl 398s.
  • Adolygiadau parhaus a gwersi a ddysgwyd o ddau ddigwyddiad gweithredol diweddar ym Mhont Croestoriad Caerdydd o ganlyniad i ddiffyg; a thân wrth ochr y rheilffordd ar Seilwaith Prif Linell Network Rail yn effeithio ar bwynt Cyflenwi Pŵer OLE ger Casnewydd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau, a daeth y cyfarfod i ben.