Ewch i'r tabl cynnwys

Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 16 Ionawr 2025

Submitted by Content Publisher on

Cofnodion Bwrdd TrC

16 Ionawr 2025

09:00 - 16:00

Lleoliad - Llys Cadwyn a Teams

 

Yn Bresennol:

Scott Waddington (Cadeirydd), Alun Bowen, Heather Clash, Vernon Everitt, Louise Cheeseman, Rhian Langham, Vinay Parmar a James Price.

 

Hefyd yn bresennol:

Jeremy Morgan, Stephen Morgan, Sam Hadley (TrC), Peter McDonald (Llywodraeth Cymru), Andrew Morgan (CLlLC) ac Alan McCarthy (Unite).

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd.

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Dim.

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod yn agored.

 

1c. Datgan Buddiant

Un o Gyfarwyddwyr Go Ahead Group Ltd yw Louise Cheesman.

 

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 18 Rhagfyr 2024 yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd y Log Camau Gweithredu.

 

1e. Sylw i ddiogelwch

Cafodd y Bwrdd wybod am ddamwain yr haf diwethaf lle mai’r person cyntaf i gyrraedd oedd un o weithwyr Network Rail, a oedd wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf. Ystyriodd y Bwrdd y posibilrwydd y gallai cydweithwyr TrC fod yn yr un sefyllfa, a’r diwylliant o wasanaethu’r gymuned ehangach.

 

1f. Sylw i Gwsmeriaid

Bu’r Bwrdd yn trin a thrafod profiad cadarnhaol nifer o aelodau o ddefnyddio system Talu Wrth Fynd TrC.

 

2. Diweddariad ar Ddiogelwch

Ymunodd Dean Katchi â’r cyfarfod.

Derbyniodd a nododd y Bwrdd drosolwg o’r adroddiad Iechyd, Diogelwch a Chadernid a oedd wedi’i gynnwys yn y pecyn.

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:

  • Cyfarfodydd diweddar gyda thîm y Fasnachfraint Bysiau i adolygu fersiwn ddrafft o’r dull gweithredu strategol cyffredinol ar gyfer diogelwch a gwarchodaeth fel rhan o’r gwaith parhaus ar y fasnachfraint bysiau.
  • Datblygu Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer 2025/26, a fydd yn cyd-fynd â’r Cynllun Iechyd, Diogelwch, Gwarchodaeth a Chadernid. Y nod yw sefydlu metrigau clir, perthnasol a mesuradwy a fydd yn gwella’r broses o wneud penderfyniadau, yn sicrhau atebolrwydd ar bob lefel o’r busnes, ac yn creu cysylltiadau cliriach â’r cynllun busnes blynyddol. Croesawodd y Bwrdd y dull gweithredu, gan roi anogaeth i wneud yn siŵr ei fod yn cyd-fynd â Gweledigaeth Sero [Gweithredu - Dean Katchi].
  • Yn ystod y cyfnod diwethaf, gwelwyd cynnydd yn nifer y damweiniau nad oeddent yn ymwneud â’r gweithlu, mewn gorsafoedd yn bennaf. Holodd y Bwrdd am gynlluniau ar gyfer digwyddiadau nad ydynt yn ymwneud â’r gweithlu a dywedwyd bod y dull o ymdrin â digwyddiadau o’r fath yn cael ei adolygu gan y Grŵp Llywio ar gyfer Atal Damweiniau Cwsmeriaid. Trafododd y Bwrdd y ddarpariaeth hyfforddiant gyrwyr bysiau a staff cyfnewidfeydd ar gefnogi cwsmeriaid â dementia [Gweithredu - Dean Katchi].
  • Daeth Ymgyrch Genesis i ben yn llwyddiannus dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Gwrthodwyd i dros 200 o bobl deithio oherwydd ymddygiad annerbyniol neu am eu bod wedi meddwi. 

Ymunodd Josh Hopkins â’r cyfarfod.

  • Gofynnodd y Bwrdd am gynnig a chynllun ar gyfer gwaith pellach i gefnogi diogelwch menywod a merched [Gweithredu - Josh Hopkins]. Nododd y Bwrdd fod gweithdrefnau diogelu wedi cael eu hadnewyddu a bod hyfforddiant yn cael ei gyflwyno. 

Ymunodd Jan Chaudhry Van der Velde â’r cyfarfod.

  • Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd mewn perthynas â’r ymchwiliad i ddigwyddiad Talerddig.

Gadawodd Dean Katchi y cyfarfod.

 

3. Rheoli risg yn strategol

Nododd y Bwrdd gynnwys yr adroddiad rheoli risg strategol a chafodd ei friffio ynghylch gweithdai ac ymarferion manwl diweddar ac arfaethedig i reoli risg, gweithdy proses rheoli risg arfaethedig y Tîm Arwain Gweithredol, a mân newidiadau i’r Gofrestr Risg Strategol.

Gadawodd Jan Chaudhry Van der Velde a Josh Hopkins y cyfarfod.

 

4. Adroddiad a diweddariad y Prif Swyddog Gweithredol

Cafodd y Bwrdd drosolwg o adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol:

  • Cafodd gwaith mawr ar signalau fel rhan o Brosiect Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd ei wneud dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Er y cafwyd rhai problemau, llwyddwyd i’w lliniaru. Diolchodd y Bwrdd i’r timau perthnasol am gwblhau’r gwaith yn llwyddiannus.
  • Mae perfformiad gweithredol y rheilffyrdd wedi parhau â’i lwybr gwell, gyda’r effaith ar amser mae teithwyr yn ei golli (PTL) ar Linellau Craidd y Cymoedd yn ystod y cyfnod llawn diwethaf, a dim ond wedi'i golli o drwch blewyn ar gyfer Cymru a’r Gororau. TYNNWYD. Trafododd y Bwrdd achosion o ganslo a rhoddwyd gwybod iddo am y materion sy’n effeithio ar argaeledd unedau ar hyn o bryd, yn enwedig argaeledd unedau CAF o ddepo Caer. Bydd adolygiad arbenigol yn cael ei gynnal, ac roedd bwriad i gynnal ‘uwchgynhadledd’ hefyd, a fydd yn cynnwys TrC, Llywodraeth Cymru a CAF. Nododd y Bwrdd y mater ehangach o ddod o hyd i gydbwysedd rhwng canslo gwasanaethau a chyflawni targedau PTL.
  • Cafodd materion yn ymwneud ag integreiddio trenau Dosbarth 756 ar y rhwydwaith eu crynhoi, gyda gwaith yn mynd rhagddo i ddod o hyd i’r rhesymau a’r atebion ar gyfer cael un uned yn llai yn gwasanaethu na’r bwriad. Rhoddwyd sicrwydd i’r Bwrdd nad yw methiant parhaus goleuadau yn peri risg i ddiogelwch. Mae’r offer yn cael ei brofi.
  • Atgoffwyd y Bwrdd o’r newidiadau sylweddol mewn gwasanaeth oherwydd y newid i’r amserlen ym mis Rhagfyr 2024. Achosodd y newid nifer o broblemau, yn bennaf mewn perthynas â thagfeydd yn Nepo Treganna. Mae mesurau lliniaru posibl yn cael eu hystyried.
  • Mae trafodaethau mewnol a gyda Network Rail yn parhau ar ddiwygio’r rheilffyrdd. Trafododd y Bwrdd angen TrC i rannu ac egluro ei ofynion penodol o’r ymarfer gyda swyddogion yr Adran Drafnidiaeth a GBR, ynghyd â risgiau a chyfleoedd posibl y rhaglen. Nododd y Bwrdd yr eglurder sy’n dod i’r amlwg ynghylch sut bydd TrC a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r endid newydd drwy egwyddorion polisi cyffredin Llywodraeth Cymru. Gofynnodd y Bwrdd a oes cyswllt wedi cael ei wneud â busnesau eraill y mae diwygio’r rheilffyrdd yn effeithio arnynt, fel gweithredwyr cludo nwyddau a gweithredwyr mynediad agored [Gweithredu - James Price]. Adolygodd y Bwrdd fodel ar gyfer sut gallai diwygio rheilffyrdd weithio yng Nghymru, a gofynnodd am i senarios amrywiol o sut byddai penderfyniadau’n cael eu gwneud drwy’r system hon gael eu profi [Gweithredu - James Price], yn enwedig sut byddai Atodlen 4 ac Atodlen 8 yn cael eu rhoi ar waith. Gofynnodd y Bwrdd hefyd am amserlen amlinellol a gwybodaeth ynghylch sut gallai’r rhaglen gyd-fynd â chynlluniau strategol TrC ar gyfer y pum mlynedd nesaf, a sut gallai effeithio ar y cwsmer [Gweithredu - James Price].
  • Mae gwaith yn parhau gydag awdurdodau lleol a gweithredwyr ynghylch yr agenda bysiau sy’n esblygu. Roedd cyfarfod Tîm Arwain Gweithredol arbennig ar gyfer Bysiau wedi cael ei gynnal yn gynharach yr wythnos hon. Croesawodd y Bwrdd agwedd y Bwrdd Rheilffyrdd o fod yn fwyfwy ymwybodol o fysiau a theithio aml-ddull yn ei drafodaethau.
  • Croesawodd y Bwrdd reolaethau ychwanegol ar wariant Llinellau Craidd y Cymoedd ac roedd yn sylweddoli bod heriau’n gysylltiedig â chyrraedd targedau ariannol, sy’n dod yn anoddach eu cyflawni wrth i’r rhaglen symud tuag at y camau terfynol. Rhybuddiwyd y Bwrdd fod gwaith yn dal i gael ei dendro, sy’n dod â lefel o ansicrwydd a llai o gyfleoedd i leihau’r cwmpas. TYNNWYD. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o arian wrth gefn yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
  • Nododd y Bwrdd y bwriad i gael diweddariadau rheolaidd ar ddatblygu Rhwydwaith T, a phan fydd yr angen yn codi, i edrych yn fanwl ar feysydd o ddiddordeb. Croesawodd y Bwrdd gynnig Vernon Everitt i helpu i friffio a rhoi sicrwydd i Weinidogion.
  • Cafwyd trafodaeth ar sesiwn mis Mai gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth a chytunwyd y dylid rhoi blaenoriaeth i drafod marchnata, gwerthu a buddsoddi.
  • Croesawodd y Bwrdd berfformiad gwell olwynion trenau yn ystod hydref 2024, o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol, gan ddangos manteision y paratoadau rhagweithiol a throi teiars cyn yr hydref. Nododd y Bwrdd y bwriad i wneud yr un fath eto yn ystod hydref 2025.
  • Mae cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud o ran rheoli risg cyllideb IFRS ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. TYNNWYD.
  • Croesawodd y Bwrdd y gwaith cadarnhaol a wnaed i sicrhau bod llythyrau’n cael eu rhannu’n effeithiol gyda llywodraeth y DU ynghylch buddsoddiad posibl mewn rheilffyrdd yn y dyfodol.

 

5. Cyllid

Nododd y Bwrdd gyfrifon rheoli TrC ar gyfer mis Rhagfyr 2024 a chyfnod naw Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig. Cafodd y cyfrifon rheoli ar gyfer y cyfnod, gan gynnwys cyfnod 9, eu cyflwyno i’r Bwrdd a’u trafod.

Trafodwyd amrywiadau yn ystod y mis gan gynnwys refeniw Teithwyr Rheilffyrdd oherwydd y gwahanol stormydd sydd wedi effeithio ar wasanaethau.

Trafodwyd risgiau a chyfleoedd ariannol ochr yn ochr â’r sefyllfa alldro gyda’r Bwrdd, gan gynnwys y trefniadau cyllido gan Lywodraeth Cymru, a chyfeiriwyd yn benodol at CAF ac iawndal penodedig.

Dywedwyd wrth y bwrdd y byddai fersiwn derfynol cyllideb 25/26 yn cael ei chyflwyno yn ystod cyfarfod y Bwrdd yn ystod mis Chwefror, gan gynnwys golwg aml-flwyddyn.

Gadawodd Alan McCarthy y cyfarfod.

 

7. Llinellau Craidd y Cymoedd

Ymunodd Dan Tipper â’r cyfarfod.

Croesawodd y Bwrdd y ffaith bod dwy garreg filltir arwyddocaol wedi’u cyflawni’n ddiweddar, sef cwblhau’r gwaith o newid drosodd y Panel Signalau dros y Nadolig yng Nghanolfan Gweithrediadau Llwybrau Cymru (WROC) Network Rail, a chyflwyno trenau Dosbarth 756 ar Lein Treherbert. Nododd y Bwrdd fod y gwersi a  ddysgwyd wedi cael eu cofnodi, a’r gwaith ymgysylltu da gyda Network Rail.

Mae gwaith yn parhau ar y paratoadau ar gyfer prif ddigwyddiadau comisiynu 2025, gan gynnwys trydaneiddio tair adran OLE yn ystod y flwyddyn. Bydd cwblhau’r rhain yn llwyddiannus ac awdurdodiad dilynol yn caniatáu i’r fflyd Dosbarth 756 ymuno â’r Gwasanaeth ar eu llwybrau terfynol.

Mae ymgysylltu’n parhau â chyflenwyr i gyflawni’r dull diwygiedig o gyflwyno rhaglenni fesul cam. Mae gwaith amrywiol gan gontractwyr wedi cael ei ohirio neu ei leihau ac mae’r gwaith o ail-alinio / symleiddio’r strategaeth gyflawni wedi dod i ben. Fel rhan o’r broses o newid i’r dull cyflawni diwygiedig, mae gwaith yn parhau i sicrhau cyfrifon terfynol llawn neu interim gyda phob prif aelod o’r gadwyn gyflenwi, yn ogystal â datrys unrhyw anghytundeb cytundebol sy’n weddill i ddarparu sefyllfa sylfaenol gadarn er mwyn bwrw ymlaen â’r rhaglen. TYNNWYD.

Hysbyswyd y Bwrdd fod adolygiadau masnachol/cyllid ychwanegol a rheolaidd yn parhau i reoli risgiau a’r broses rheoli newid. Yn allweddol i hyn mae cau cyfrifon terfynol contractau hanesyddol a materion gyda phob cyflenwr. Mae’r newid i gyfandaliad neu gost darged ar gyfer gwaith yn y dyfodol yn dal ar y trywydd iawn.

TYNNWYD

Gofynnodd y Bwrdd a oes llwybr clir i ddod allan o'r rhaglen. Mae yna un, ond mae risgiau'n parhau wrth i rai rhannau o'r llwybr sy'n weddill barhau i esblygu.

Gadawodd Dan Tippery cyfarfod.

 

8. Adrodd corfforaethol

Ymunodd Michael Pearce a'r cyfarfod.

Hysbyswyd y Bwrdd fod 42% o gerrig milltir y cynllun busnes wedi cael eu cyflawni erbyn diwedd Ch3 (hyd at 31 Rhagtyr 2024). Mae llythyr at Lywodraeth Cymru wedi cael ei ddrafftio yn amlinellu'r sefyllfa bresennol a'r cerrig milltir i'w canslo, yn amodol ar y broses rheoli newid y cytunwyd arni.

Ystyriodd a nododd y Bwrdd y dangosyddion perfformiad allweddol corfforaethol ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Hydref 2024 a 31 Rhagfyr 2024. Trafododd y Bwrdd yr angen i ddangos yr effaith y mae'r dangosyddion yn ei cha el ar y busnes a'r hyn y maent yn ei sbarduno. Cytunwyd bod hwn yn gyfle da i gynnal adolygiad mewnol a ddylai gynnwys sut y gellir dal perchnogion DPA y TTm Arwain Strategol i gyfrif, a sut y gall is-bwyllgorau ddefnyddio dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer craffu ar berfformiad [Gweithredu - Heather Clash].

Gadawodd Michael Pearce y cyfarfod.

 

9. Pullman

Cafodd y Bwrdd ywybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau yn Pullman Rail Ltd. TYNNWYD.

 

9. ls-fyrddau

Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd diweddar Bwrdd TrC a Rheilffyrdd TrC.

 

10. Diwygio'r Rheilffyrdd

Ymunodd Alexia Course a Fiona Lewin s a'r cyfarfod.

Ystyriodd y Bwrdd gynnwys papur sy'n nodi statws trafodaethau ar y cyfleoedd neu'r risgiau y gallai diwygio'r rheilffyrdd eu hachosi i wasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r Gororau a/neu TrC. Trafododd y Bwrdd fodelau gweithredu posibl; egwyddorion gweithredu; yr angen i ystyried bwriadau strategol TrC o ran amcanion aml­ddull; yr angen i gysylltu ag a mean ion polisi ehangach tel twf economaidd, cynhwysiant cymdeithasol a chynaliadwyedd; a'r angen i gyfleu'r manteision posibl.

Gadawodd Alexia Course a Fiona Lewins y cyfarfod.

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu presenoldeb a’u cyfraniadau a daeth â’r cyfarfod i ben.